Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl ar gyfer y Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle.

Cyflwyniad

Mae’r Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle yn cyfarfod bob chwarter o dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru. Mae aelodaeth y Fforwm yn cynnwys Partneriaid Cymdeithasol a chyrff sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth a chynghori mewn perthynas â’r maes iechyd yn y gweithle a'r farchnad lafur.

Diben a chwmpas

Diben y Fforwm yw gwella'r cyd-ddealltwriaeth o’r maes hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle; nodi heriau a rhwystrau cyffredin; ystyried ffactorau a allai ddylanwadu ar ganlyniadau gwell; a gwella'r cyfathrebu a'r cydberthynas rhwng cynrychiolwyr busnes, undebau llafur, ac asiantaethau gorfodi a chynghori. I gyflawni hynny, bydd y Fforwm yn gwneud y canlynol:

  • cefnogi cysylltiadau buddiol rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan.
    Hwyluso dealltwriaeth o rolau, cylch gwaith a chapasiti'r sefydliadau sy'n cymryd rhan
  • hwyluso rhannu gwybodaeth rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan, ac annog cydweithredu amlasiantaethol
  • lle bo'n bosibl, amlygu materion strategol fel y gall sefydliadau ar y fforwm weithredu'n wahanol, naill ai ar y cyd neu'n unigol, i wella canlyniadau
  • ystyried effeithiau gwahaniaethol a'r effaith ar wahanol grwpiau o weithwyr, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig.

Yr hyn sy'n sail i allu'r Fforwm i gyflawni ei ddiben benodol yw ymrwymiad, gallu a chyfraniad ei aelodau.

Cyfarfodydd a ffyrdd o weithio

Bydd y Fforwm yn cyfarfod bob chwarter. Gallai cyfarfodydd gael eu haildrefnu neu eu canslo os yw'r Cadeirydd yn cytuno ar hynny. Caiff y cyfarfodydd eu cynnal o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r Ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Fforwm, sy'n cynnwys y canlynol:

  • trefnu cyfarfodydd
  • comisiynu a chyhoeddi papurau
  • cynnal proses i dracio'r camau gweithredu
  • cadw a rhannu cofnodion.

Bydd strwythur y cyfarfodydd yn cael ei bennu ymlaen llaw gan y Cadeirydd. Fel arfer bydd y cyfarfodydd yn cynnwys materion cyfoes a diweddariadau gan bartneriaid ar lafar. Gallai'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y Fforwm ofyn am gael eitemau penodol ar yr agenda mewn cyfarfodydd sydd ar ddod, os rhoddir digon o rybudd. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a yw'r eitemau hynny'n cael eu derbyn ai peidio. 

Cynghorir aelodau hefyd i gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth ynghylch unrhyw ofynion hygyrchedd. O bryd i'w gilydd bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu dewis iaith yr aelodau.

Disgwylir i'r holl aelodau ymddwyn yn unol â’r pwyntiau canlynol sydd i fod yn sail i ffyrdd agored a chydweithredol o weithio:

  1. Cydnabod buddiannau dilys a buddiannau a allai wrthdaro.
  2. Ceisio cydweithredu a chonsensws lle bo modd. 
  3. Sicrhau bod gan bob aelod lais a chyfle cyfartal i gymryd rhan.  

Aelodaeth

Bydd aelodaeth y Fforwm yn cynnwys y sefydliadau canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • TUC Cymru
  • Undebau Llafur a enwebwyd gan TUC Cymru (ymgynghori â TBD – TUC Cymru)
  • Sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau (ymgynghori â TBD – Cyngor Busnes Cymru, Siambrau Cymru, FSB, a CBI)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Grŵp Iechyd yr Amgylchedd Cymru
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Swyddfa Cyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Lafur
  • Yr Awdurdod er Atal Cam-drin Gweithwyr gan Feistri Gangiau
  • Yr Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogi
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol Cyllid a Thollau EF
  • ACAS
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (fel sylwedyddion).

Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gadw rhestr gyfredol o sefydliadau sy’n aelodau a'u cynrychiolwyr sefydlog a enwebwyd. Bydd yr aelodaeth yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn briodol.

Gall dirprwyon enwebedig ddod i’r cyfarfodydd os yw’r Cadeirydd yn cytuno ar hynny. Os digwydd hynny, dylai’r dirprwyon sicrhau eu bod yn dilyn proses briodol i friffio cynrychiolydd sefydlog y Fforwm ar ôl iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod. 

Gall sefydliadau ac unigolion nad ydynt yn aelodau (er enghraifft, academyddion) ddod i gyfarfodydd os yw’r Cadeirydd yn cytuno ar hynny. Wrth gymryd rhan, mae’r cyfryw sefydliadau ac unigolion yn cytuno i gydymffurfio â’r Cylch Gorchwyl hwn.

Cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau

Bydd pob aelod yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gofynion cyfrinachedd angenrheidiol yn cael eu cynnal. Mae hyn yn golygu os yw'r Cadeirydd neu aelodau eraill yn cynghori bod dogfennau neu wybodaeth sy'n cael eu rhannu â'r grŵp yn sensitif a chyfrinachol, rhaid peidio â rhannu’r wybodaeth neu’r ddogfen â neb y tu allan i’r Fforwm. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddarperir ar lafar yn ogystal ag yn ysgrifenedig. 

Mewn trafodaeth agored, efallai y bydd achosion hefyd pan na fydd y safbwyntiau a fynegir yn adlewyrchu polisi swyddogol y sefydliad y mae'r siaradwr yn ei gynrychioli. Dylid trin safbwyntiau o'r fath yn gyfrinachol.

Gall gwaith y Fforwm fod yn ddarostyngedig i ofynion rhyddid gwybodaeth a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pan fydd ceisiadau o'r fath yn dod i law, bydd gweithdrefnau safonol Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn.

Mae pob aelod yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wirioneddol yn cael eu dwyn i sylw'r Cadeirydd.