Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagymadrodd

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws sectorau i gydlynu gweithgarwch i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, ac at ddibenion cysylltiedig.  

Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithio i atal caethwasiaeth fodern rhag digwydd
  • gweithio i adnabod a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr
  • gweithio i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern
  • gweithio i ddileu camfanteisio mewn cadwyni cyflenwi

Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth Cymru adnewyddu strwythurau llywodraethu caethwasiaeth fodern a sefydlu Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru a'i bedwar gweithgor thematig:

  • Grŵp Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth Gwrthgaethwasiaeth Cymru
  • Grŵp Dioddefwyr a Goroeswyr Gwrthgaethwasiaeth Cymru
  • Grŵp Atal Gwrthgaethwasiaeth Cymru
  • Grŵp Cadwyni Cyflenwi a Rhyngwladol Gwrthgaethwasiaeth Cymru

I gydlynu gwaith yn effeithiol i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru, ac at ddibenion cysylltiedig, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern i bartneriaid o bryd i'w gilydd. Mae hyn yn cynnwys aelodau o'r grwpiau a restrir uchod, yn ogystal â sefydliadau ac unigolion perthnasol eraill. Gallai’r wybodaeth hon gynnwys:

  • agendâu cyfarfodydd, cofnodion, papurau, logiau gweithredu
  • data, tystiolaeth, ymchwil ac adnoddau
  • galwadau am dystiolaeth a gwybodaeth am brosiectau
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a gweithgareddau eraill
  • gweithgareddau dysgu a datblygu a chyfleoedd gyrfa
  • ceisiadau am adborth
  • gweithgareddau cyfathrebu
  • gwybodaeth arall y mae Llywodraeth Cymru’n teimlo ei bod yn berthnasol i bartneriaid

Er mwyn trefnu cyfarfodydd ar gaethwasiaeth fodern, ac i gyfleu gwybodaeth fel y disgrifir uchod, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r wybodaeth bersonol ganlynol:

  1. enwau partneriaid
  2. cyfeiriadau e-bost partneriaid
  3. dewis iaith partneriaid

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y gwaith. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi nac yn datgelu gwybodaeth bersonol yn amhriodol heb ganiatâd. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gedwir gan Lywodraeth Cymru o fewn cwmpas yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cael ei defnyddio'n unig ar gyfer cydlynu gwaith i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, a dibenion cysylltiedig.

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich data (enw, cyfeiriad e-bost a dewis iaith) fel rhan o'n gwaith i gydlynu gweithgarwch i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, ac at ddibenion cysylltiedig.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn.

Mae cadw'r data hwn yn bwysig er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gydlynu gweithgarwch i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, ac at ddibenion cysylltiedig. Mae cymryd rhan yn yr astudiaeth yn wirfoddol. Gallwch dynnu'n ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu ag ysgrifenyddiaeth y grŵp yr ydych yn aelod ohono. Os nad ydych bellach yn dymuno derbyn unrhyw gyfathrebiadau sy'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern, cysylltwch â Thîm Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Gweithwyr Llywodraeth Cymru a byddant yn sicrhau eich bod yn cael eich tynnu oddi ar y rhestrau dosbarthu perthnasol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd SmartSurvey i gynnal arolygon. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. caiff yr holl ddata eu prosesu yn y DU).

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

O ran eich cyfranogiad yn strwythurau llywodraethu Gwrthgaethwasiaeth Cymru, byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth gyswllt ar gyfer oes y grŵp, neu eich rhan chi ynddo, ac am 3 blynedd arall. Bydd cofnodion a phapurau eraill sy'n sôn amdanoch wrth eich enw yn cael eu cadw yn unol â'r meini prawf a nodir yn amserlen gadw Llywodraeth Cymru ac o'r herwydd, yn cael eu cadw cyhyd ag unrhyw ddogfennau cysylltiedig.

Os ydych wedi gofyn am beidio â derbyn gohebiaeth sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern, bydd eich data personol yn cael ei ddileu o fewn tair blynedd o'r dyddiad yr ymatebwyd i'ch cais.

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwaith hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl:

  • i weld copi o'ch data
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu unrhyw brosesu (menw amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu dileu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data i gydlynu gweithgarwch i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac at ddibenion cysylltiedig, os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, neu os oes gennych ymholiadau cysylltiedig eraill, cysylltwch â:

Cyfeiriad e-bost: GwaithTeg@llyw.cymru

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.