Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y fforwm.

Diben

  1. Mae’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol (‘y Fforwm’) yn grŵp partneriaeth gymdeithasol teirochrog wedi ymrwymo i wneud Gwaith Teg yn rhan annatod o’r sector gofal cymdeithasol ac i wella telerau ac amodau gwaith y rhai sy’n gweithio yn y sector. 
  2. Mae’r fforwm yn bodoli er mwyn caniatáu i gynrychiolwyr o’r undebau llafur, cyflogwyr, rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru i weithio gyda’i gilydd i ddylanwadu ar flaenoriaethau a pholisi cenedlaethol mewn perthynas â gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. 
  3. Nod y grŵp fydd defnyddio dulliau uchelgeisiol yn ogystal ag ymarferol er mwyn creu newid ymarferol fydd yn gallu cael ei weithredu. 

Egwyddorion

  1. Un o egwyddorion sefydlu’r fforwm yw’r gydnabyddiaeth y bydd sicrhau gwell canlyniadau Gwaith Teg yn gwella bywydau gweithwyr, yn gwella safon y ddarpariaeth gofal ac yn cryfhau gwydnwch tymor hir y sector drwy ei helpu i ddenu, datblygu a chadw gweithwyr ymrwymedig, medrus sy’n llawn chymhelliant. Mae gwasanaethau gofal yn rhan greiddiol o economi sylfaenol Cymru sy’n gwneud ein cymunedau’n gryfach ac yn fwy cadarn.
  2. Mae’r pandemig COVID-19 wedi dangos yn amlwg pa mor hanfodol yw rôl gweithwyr allweddol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ein cymdeithas. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn niddordeb y cyhoedd mewn sicrhau bod tâl, sicrwydd swydd ac amodau gwaith y gweithwyr hynny yn adlewyrchu’n well y gwerth y  mae cymdeithas yn ei roi ar eu gwaith. Bydd y Fforwm yn adeiladu ar ddiddordeb cynyddol y cyhoedd yn y sector gofal cymdeithasol ac yn helpu i gynnal y farn gyhoeddus gadarnhaol ynghylch pwysigrwydd gwerthfawrogi’r gweithlu.
  3. Bydd y Fforwm yn defnyddio’r diffiniad o Waith Teg a’r chwe nodwedd sy’n cael eu hamlinellu yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, Gwaith Teg Cymru, a gyhoeddwyd yn 2019:
    • gwobrwyo teg
    • llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth
    • sicrwydd a hyblygrwydd
    • cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen
    • amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
    • parchu a gwireddu hawliau cyfreithiol.

    Mae hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn hollbwysig i’r chwe nodwedd.

  4. Bydd y fforwm yn canolbwyntio ar weithredu a datrys problemau.

Cylch gwaith

  1. Bydd gan y Fforwm y cyfrifoldebau canlynol:
    • Nodi materion Gwaith Teg penodol o fewn y sector gofal cymdeithasol a allai fod angen sylw brys.
    • Nodi materion Gwaith Teg penodol o fewn y sector gofal cymdeithasol a allai fod angen sylw yn y tymor canolig neu yn y tymor hir er mwyn sicrhau bod y sector yn fwy cynaliadwy.
    • Defnyddio profiad a gwybodaeth yr aelodau i ganfod ffyrdd o weithredu Gwaith Teg yng nghyd-destun gofal cymdeithasol, gan gynnwys mewn perthynas â thâl, amodau gwaith, llais cyflogai a hyfforddiant.
    • Darparu arweiniad o ran adnabod a rhannu arferion da yn ymwneud â Gwaith Teg ar draws y sector gofal cymdeithasol.
    • Cytuno ar gynllun gwaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n gallu cyflawni camau gweithredu ymarferol yn ystod ei flwyddyn gyntaf.
  2. Wrth ymgymryd â’r cyfrifoldebau uchod, bydd y Fforwm yn ystyried gwaith ehangach, gan gynnwys rhwydweithiau sydd wedi eu sefydlu’n barod i ystyried comisiynu gwasanaethau a thalu am ofal. Bydd y rhain yn cynnwys, ond ni fyddant yn gyfyngedig i’r canlynol: y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Talu am Ofal, Agenda ar gyfer Newid a’r Cyd-gyngor Cenedlaethol.
  3. Ni fydd y fforwm yn dyblygu nac yn torri ar draws gwaith sy’n mynd rhagddo’n barod, ond bydd yn gwneud cysylltiad ag ef, yn enwedig o ystyried y gydberthynas rhwng comisiynu gofal, talu am ofal a’r posibilrwydd o gael gwell amodau gwaith a pha mor fforddiadwy fyddai hynny.
  4. Bydd y fforwm yn ymgymryd â’r cylch gwaith uchod yng nghyd-destun canolbwyntio ar weithiwyr gofal cymdeithasol cyflogedig yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.
  5. Bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar weithiwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol i ddechrau ond bydd hefyd yn ystyried gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
  6. Bydd y fforwm yn cymryd gofal i beidio ag ymyrryd â chytundebau cydfargeinio sy’n bodoli’n barod.

Aelodaeth

  1. Fel fforwm teirochrog, bydd yr aelodaeth yn cynnwys:
    1. Llywodraeth Cymru
    2. partneriaid cymdeithasol sy’n cynrychioli undebau llafur a
    3. partneriaid cymdeithasol sy’n cynrychioli cyflogwyr, fel sy’n cael ei nodi isod:

      Llywodraeth Cymru

      Undebau Llafur

      Cyflogwyr

      Arall

      Swyddogion perthnasol

      GMB

      Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

      Gofal Cymdeithasol Cymru

       

      UNSAIN

      Fforwm Gofal Cymru

       

       

      RCN

      ADSS Cymru

       

       

      TUC Cymru

      Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr

       

      Cadeirydd annibynnol: Yr Athro Rachel Ashworth, Prifysgol Caerdydd

  2. Gall fod gan rai Aelodau rôl ddeuol fel rhan o’r ffordd mae’r sefydliad yn gweithio, er enghraifft, mae CLlLCymru ac ADSS Cymru yn cynrychioli Awdurdodau Lleol fel cyflogwyr ond mae awdurdodau lleol hefyd yn comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
  3. Bydd Aelodau’r fforwm yn ymgysylltu’n eang â’r rhan o’r sector y maent yn ei gynrychioli. Mae disgwyl iddynt:
    • Amlinellu eu rôl fel sefydliad o fewn y sector gofal cymdeithasol a’u cysylltiad gyda sefydliadau eraill sy’n gweithredu yn y sector
    • Cyfathrebu gyda’u aelodau a rhannau ehangach o’r sector y maent yn eu cynrychioli i’w diweddaru ar waith y fforwm
    • Ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’u rhwydweithiau wrth fynd â rhaglen waith y Fforwm Gofal Cymdeithasol yn ei blaen, a
    • Dod â’r wybodaeth y maent yn ei chanfod i sylw’r Fforwm i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau.
  4. Bydd disgwyl i aelodau’r fforwm roi o’u hamser, nid yn unig i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, ond i weithio gyda’i gilydd i fynd â rhaglen waith y fforwm yn ei blaen y tu allan i gyfarfodydd.
  5. Mewn amgylchiadau pan na fydd unigolyn yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod penodol – mae’n dderbyniol i’r unigolyn hwnnw enwebu dirprwy i fod yn bresennol ar eu rhan.
  6. Yn ogystal â’r uchod, bydd unigolion nad ydynt yn aelodau yn cael eu cyfethol i ddarparu arbenigedd i’r fforwm yn ystod cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd fel sy’n addas ac fel y pennir gan y Fforwm. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac o bosibl ymgysylltu â dinasyddion.
  7. Bydd yr aelodaeth yn cael ei hadolygu’n flynyddol gan y fforwm i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn addas.
  8. Bydd Cadeirydd annibynnol yn cael ei ddewis a’i benodi gan y Fforwm. Os na fydd y Cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, gall y Fforwm benderfynu dewis aelod i gadeirio fel trefniant dros dro. Pan na fydd hyn yn bosibl (er enghraifft oherwydd byr rybudd) gall Llywodraeth Cymru gadeirio dros dro.

Cyfarfodydd a Ffyrdd o Weithio

  1. Bydd y Fforwm yn cyfarfod bob mis i ddechrau, er mwyn sefydlu ei hun a’i raglen waith. Wedi hynny, bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob yn ail fis fel arfer. Bydd amlder y cyfarfodydd yn parhau’n hyblyg am efallai y bydd angen i’r Fforwm drafod materion brys.
  2. Bydd sicrhau cworwm mewn cyfarfod yn ofynnol ar bresenoldeb o leiaf un cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, y cyflogwyr a’r Undebau Llafur.
  3. Gellir cynnal cyfarfodydd o bell. Pan fydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal, bydd yr holl gostau teithio yn ymwneud â chyfarfodydd y Fforwm yn cael eu talu gan y sefydliadau sy’n aelodau.
  4. Wrth osod a gweithredu ei raglen waith, bydd y Fforwm yn ymddwyn mewn ffordd sy’n gyson â blaenoriaethau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hynny.
  5. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Fforwm, a fydd yn trefnu cyfarfodydd, yn dosbarthu papurau ac yn darparu cofnod o drafodaethau a chamau gweithredu.  Bydd papurau yn cael eu cylchredeg 7 dydd o flaen unrhyw gyfarfod.
  6. Gall unrhyw aelod gynnig eitemau ar gyfer yr agenda i gael eu trafod yng nghyfarfodydd y fforwm.
  7. Bydd y fforwm yn adolygu ei gynnydd bob 6 mis i sicrhau fod ei raglen waith yn dal yn berthnasol ac yn gallu cael ei weithredu a’i fod yn ymgysylltu â’r grwpiau perthnasol.
  8. Bwriad y fforwm fydd gwneud penderfyniadau drwy gonsensws yn hytrach na thrwy bleidleisio. Bydd angen datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod.
  9. Er mwyn hwyluso trafodaeth agored, rhaid trin trafodaethau’r fforwm yn gyfrinachol ac ni ddylent gael eu datgelu heb ganiatâd y fforwm. Gall dogfennaeth, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd, fod yn destun ceisiadau am fynediad at wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pan fydd ceisiadau o’r fath yn cael eu derbyn, bydd trefniadau Rhyddid Gwybodaeth arferol Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn.
  10. O bryd i’w gilydd, bydd y fforwm yn paratoi adborth ar ei weithgareddau i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cysgodol a grwpiau eraill, fel sy’n addas.

Atebolrwydd

  1. Mae’r fforwm wedi cael ei gynnull gan Weinidogion Cymru ac fe all y fforwm wneud argymhellion ar eu cyfer. Yn ychwanegol i hyn, mae aelodau unigol y fforwm yn atebol i’w sefydliadau eu hun a bydd ganddynt eu trefniadau llywodraethu eu hun ar nifer o faterion gan gynnwys gwneud penderfyniadau a lledaenu gwybodaeth.
  2. Daw’r Cylch Gorchwyl hwn i rym ar unwaith, wedi i’r fforwm gytuno arno. Gellir ei ddiwygio, ei newid neu ei addasu ar unrhyw amser gyda chytundeb y fforwm.