Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth: gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol

Sefydlwyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ("y fforwm") ym mis Medi 2020. Dyluniwyd y fforwm i ddod â'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac ystyried sut y dylid gweithredu gwahanol elfennau o waith teg yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Canolbwyntiodd y fforwm ei ymdrechion cychwynnol ar wella tâl, a buddsoddodd gryn amser yn paratoi cyngor ar weithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dros y deunaw mis diwethaf, mae'r fforwm wedi bod yn datblygu elfennau eraill o'i raglen waith, er enghraifft, rhoi blaenoriaeth i ddrafftio fframwaith tâl a dilyniant ar gyfer y maes gofal cymdeithasol a sefydlu 'partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol', a fydd yn hyrwyddo trefniadau cydfargeinio ar gyfer y maes.

Bob blwyddyn, mae'r fforwm yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn ei raglen waith ac yn esbonio sut y mae wedi bod yn gweithio i gefnogi'r gwaith o weithredu arferion gwaith da ym maes gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'n gweithgareddau ac yn tynnu sylw at y materion sy'n dod i'r amlwg y mae'r fforwm wedi bod yn mynd i'r afael â nhw yn ystod 2024.

Cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau gwaith teg

Telerau ac amodau cydradd drwy bartneriaeth gymdeithasol

Er bod telerau ac amodau adrannau o'r gweithlu gofal cymdeithasol eisoes yn dod o dan drefniadau cydfargeinio, nid yw'r trefniadau hyn yn gymwys i bawb. Mewn ymateb i'r sefyllfa hon, mae grŵp gorchwyl a gorffen o'r fforwm wedi treulio amser yn ystyried sut i ddatblygu model cydfargeinio unigryw ar gyfer y sector gofal cymdeithasol annibynnol yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at sefydlu 'partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol', sydd dros amser yn anelu at ymgorffori sawl elfen o waith teg ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol yng Nghymru.

Mae'r fforwm bellach wedi cytuno ar weledigaeth gyffredinol a set eang o egwyddorion ar gyfer y bartneriaeth. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer aelodaeth wirfoddol yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd y bartneriaeth yn ystyried 'modelau o arferion gorau' y gellid eu mabwysiadu ar draws y sector gofal cymdeithasol annibynnol. I ddechrau, byddai'r rhain yn cael eu mabwysiadu'n wirfoddol gan gyflogwyr, ond uchelgais y bartneriaeth yw i'r modelau hyn o arferion gorau gael eu hymgorffori ar gyfer yr holl staff o fewn cwmpas y sector gofal cymdeithasol dros amser.

Fframwaith tâl a dilyniant teg i'r sector cyfan

Mae aelodau'r fforwm wedi bod yn gweithio'n galed i amlinellu set o delerau ac amodau a ystyrir yn enghraifft o arferion da i'r rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol. Mae is-grŵp o'r fforwm wedi bod yn gweithio'n agos gydag arbenigwyr adnoddau dynol ar draws y sector i ddatblygu framwaith tâl a dilyniant drafft, a fydd yn canolbwyntio ar ofal uniongyrchol yn y lle cyntaf.

Nod y fframwaith drafft yw darparu cyfleoedd tâl, dilyniant a datblygiad mwy cyson a theg, a bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy nodi bandiau ar gyfer rolau ym maes gofal cymdeithasol, sy'n cyfateb i sgiliau a datblygiad dysgu. Dros amser, bydd is-grŵp o'r fforwm yn cysylltu'r rhain â thâl, ar y cyd â'r cyngor partneriaeth gofal cymdeithasol.

Mae'r fframwaith drafft wedi bod yn destun ymgynghoriad a chafodd ymateb cadarnhaol. Mae is-grŵp wedi cyfarfod i drafod y camau nesaf, ac rydym bellach yn symud i gam dau y fframwaith lle byddwn yn datblygu cynllun prosiect ac yn cytuno ar y camau a fydd yn dwyn y fframwaith ymlaen.

Gwobrwyo teg

Mynd i'r afael â thâl isel yn y sector annibynnol a gomisiynwyd

Yn hanesyddol, mae trefniadau comisiynu yng Nghymru wedi tueddu i arwain at drefniadau cytundebol amrywiol a lefelau tâl sy'n aros ar yr isafswm statudol, a all roi'r argraff fod rôl gofal cymdeithasol yn alwedigaeth statws isel nas gwerthfawrogir.

Paratôdd y fforwm achos manwl ar gyfer gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2022, ymatebodd Llywodraeth Cymru gan roi £43m o gyllid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar gyfer 2022 i 2023 i gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd £70m yn rhagor o gyllid ei ddarparu yn 2023 i 2024 i gynyddu cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol i gyrraedd y gyfradd sy'n cael ei hargymell gan y Sefydliad Cyflog Byw o £10.90 yr awr o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymhellach bod y gyllideb ar gyfer 2024 i 2025 yn cynnwys cyllid i gefnogi ymdrechion awdurdodau i barhau i dalu costau parhaus y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mae'r fforwm yn ymwybodol o'r pwysau ariannol difrifol a heriol sy'n cael eu profi ar bob lefel o lywodraeth, ond bydd yn parhau i gadw golwg ar y ffordd y caiff y Cyflog Byw Gwirioneddol ei weithredu ar draws y sector. Bydd hyn yn cynnwys archwilio canlyniadau gwerthusiad annibynnol pan gyhoeddir yr adroddiad ar ei gyfer. Yn y cyfamser, bydd y fforwm yn parhau i ganolbwyntio ar ei uchelgais hirdymor i ehangu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr cynorthwyol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.

Tâl salwch

Mae'r fforwm yn pryderu am annhegwch pellach o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'n bosibl mai dim ond yr isafswm tâl salwch statudol y bydd llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol, a'r rhai a gyflogir drwy daliadau uniongyrchol, yn ei gael. Mae hyn yn wahanol iawn i sefyllfa'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol a'r GIG. Yn ogystal ag effaith negyddol hyn ar weithwyr gofal cymdeithasol, mae’r diffyg tâl salwch yn risg ar gyfer y rhai sy’n derbyn gofal ac yn dibynnu arno.

Mae'r fforwm yn ystyried tâl salwch yn flaenoriaeth frys i staff sy'n gweithio yn y sector annibynnol ac mae wedi rhoi cyngor i weinidogion ar y mater hwn yn flaenorol. Dros y misoedd nesaf, bydd y fforwm yn parhau i roi blaenoriaeth i wella darpariaeth tâl salwch ar draws y sector, a bydd yn gweithio gyda gweinidogion a swyddogion i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau presennol.

Profiad cynorthwywyr personol yn y sector gofal cymdeithasol

Mae cynorthwywyr personol yn elfen gynyddol o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae'r fforwm wedi bod yn awyddus i sicrhau bod eu telerau ac amodau yn cael eu hadlewyrchu o fewn cwmpas ei weithgareddau. Drwy ei Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynorthwywyr Personol, mae'r fforwm wedi bod yn ystyried materion sy'n wynebu'r gweithlu hwn yng Nghymru.

Comisiynodd y grŵp gorchwyl a gorffen waith ymchwil yn gyntaf i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu hwn, sydd bellach wedi'i gwblhau ac sydd ar gael ar ein gwefan. Mae'r canfyddiadau wedi cael eu hystyried gan y grŵp gorchwyl a gorffen, sydd wedi datblygu nifer o feysydd neu argymhellion i'w hystyried fel y camau nesaf.

Dros y misoedd nesaf, bydd y fforwm yn gweithredu'r argymhellion hyn i wella profiad gwaith cynorthwywyr personol a sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ymgorffori cynorthwywyr personol yn y fframwaith tâl a dilyniant a hyrwyddo manteision bod yn aelod o undeb llafur i'r sector hwn o'r gweithlu.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac mae cyfres o adroddiadau wedi tynnu sylw at faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a oedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer y sector gofal cymdeithasol. Mewn ymateb, mae'r fforwm wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd i gefnogi'r gwaith o weithredu argymhellion sy'n ymwneud â'r gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn ystyried y camau sydd angen eu cymryd mewn ymateb i ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i brofiadau gweithwyr ethnig leiafrifol ar gyflogau is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a phapurau ymchwil ar gynorthwywyr personol a micro-ofalwyr o safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cymorth menopos

Mae menywod yn cyfrif am fwy na 80% o'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac felly mae'n hanfodol bod gan gyflogwyr gofal cymdeithasol yr adnoddau i gefnogi gweithwyr yn ystod y menopos. Trefnodd y fforwm weithdy partneriaeth gymdeithasol yn ystod hydref 2023, gan ganolbwyntio ar gymorth, arweiniad a chyngor mewn perthynas â'r menopos i gyflogwyr. O ganlyniad i'r trafodaethau hynny, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal arolwg gyda darparwyr ar draws y sector, fel y gall y fforwm gael syniad cliriach o lefel y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn galluogi'r fforwm i dynnu sylw at fylchau yn y cymorth sydd ar gael, a hyrwyddo arferion da, gyda'r gobaith y bydd hyn yn helpu i sicrhau gwell buddion o ran iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol i fenywod ar draws y sector.

Comisiynu gwaith ymchwil ac ymgysylltu ar ddarpariaeth gwasanaethau micro-ofal

Mae rôl 'micro-ofalwyr' yn ehangu o fewn y sector gofal cymdeithasol. Yn dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys y fforwm, ym mis Ionawr 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Gwasanaethau micro-ofal: adroddiad ymgysylltu', sy'n cynnwys crynodeb o'r gwaith ymgysylltu ynghylch darparu gofal personol drwy wasanaethau micro-ofal ac yn nodi'r camau nesaf i ddatblygu egwyddorion polisi ac arferion da ar gyfer gwasanaethau micro-ofal (gweler dolenni Cymraeg a Saesneg i'r adroddiad isod).

Nododd yr adroddiad sawl maes y mae angen eu hystyried ymhellach. Felly, mae'r fforwm yn sicrhau bod micro-ofalwyr yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas ei raglen waith, a bydd yn gweithio gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddechrau gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.

Tynnu sylw at ddiogelwch a hyblygrwydd contractau

Dros y misoedd nesaf, bydd y fforwm yn gweithio i ddeall yn well effaith oriau heb eu gwarantu, neu gytundebau 'dim oriau' ar weithwyr gofal cymdeithasol. Bydd y fforwm yn defnyddio ymchwil ar gontractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru a gomisiynwyd yr haf diwethaf (2023). Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol gael gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Blaenoriaethau'r fforwm yn 2024

Partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol 

Roedd y fforwm yn falch bod cyfarfod cyntaf 'partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol' wedi'i gynnal ym mis Ebrill 2024 ac ail gyfarfod wedi'i gynnal ym mis Gorffennaf. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, cytunwyd ar raglen waith sy'n cynnwys ymgysylltu ymhellach â'r sector a chyflwyno dull graddol o weithredu a phrofi trefniant partneriaeth gwirfoddol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol annibynnol yng Nghymru.

Tâl a dilyniant

Mae'r fframwaith tâl a dilyniant wedi symud i gam dau, a'r camau nesaf yw datblygu cynllun prosiect i gytuno ar dasgau a therfynau amser sy'n ymwneud â blaenoriaethau allweddol y fframwaith, megis rolau safonol, cyfleoedd i gamu ymlaen ac ystyried graddfeydd cyflog. Nod y fforwm yw i'r fframwaith newydd osod disgwyliadau clir ynghylch sut y dylid cydnabod ein gweithlu medrus ac ymroddedig yn genedlaethol.

Rhoi sylw i hawliau, lleisiau a chynrychiolaeth y gweithwyr

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r fforwm wedi derbyn tystiolaeth dro ar ôl tro sy'n awgrymu bod diffyg ymwybyddiaeth eang o hawliau gweithwyr o fewn y sector gofal cymdeithasol. Bydd codi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr yn flaenoriaeth i'r fforwm dros y misoedd nesaf, yn ogystal â hyrwyddo manteision bod yn aelod o undeb llafur.

Recriwtio rhyngwladol 

Mae'r fforwm yn ymwybodol o ystod o faterion sy'n dod i'r amlwg sy'n ymwneud â gweithwyr gofal tramor, ac sy'n effeithio arnynt, a fydd hefyd yn cael eu hystyried wrth symud ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, partneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr undebau llafur o'r fforwm i ystyried sut y gallwn ddarparu arweiniad a chymorth pellach i'n gweithlu rhyngwladol.

Rhagor o wybodaeth

Adroddiad ymgysylltu ynghylch gwasanaethau micro-ofal.

Sefydlwyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym mis Medi 2020 yn dilyn argymhelliad Comisiwn Gwaith Teg Cymru, a'r cadeirydd annibynnol yw'r Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae'r fforwm yn grŵp partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys cyflogwyr, cyflogeion, rhanddeiliaid a'r Llywodraeth ar sail gyfartal. Yr aelodau yw:

  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Fforwm Gofal Cymru
  • GMB
  • Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr
  • Y Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Cyngres Undebau Llafur Cymru
  • Unsain
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mae cylch gwaith y fforwm yn canolbwyntio ar weithwyr gofal cymdeithasol cyflogedig yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. I ddechrau, mae wedi canolbwyntio'n bennaf ar weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol, ond bydd ei ystyriaethau hefyd yn ymestyn i'r sector cyhoeddus. Ni fydd y fforwm yn amharu ar y proffesiynau hynny sydd eisoes â chytundebau cydfargeinio ar waith, er enghraifft gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, nyrsys cofrestredig ac ati.

Mae rhagor o wybodaeth am y fforwm ar gael ar ein tudalen gwe ar gyfer y Fforwm Gwaith Teg ar gyfer Gofal Cymdeithasol.