Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod ei hymweliad tramor cyntaf fel Prif Weinidog, mae Eluned Morgan yn Nulyn a Chorc yr wythnos hon ar gyfer trafodaethau i atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Prif bwrpas ymweliad y Prif Weinidog fydd mynd i Fforwm Gweinidogol Cymru-Iwerddon yng Nghorc heddiw (dydd Gwener 18 Hydref), dan ofal y Tánaiste, Micheál Martin.

Dyma'r pedwerydd Fforwm, yn dilyn cyfarfodydd yng Nghaerdydd yn 2021, Corc yn 2022 a Bangor yng Ngogledd Cymru y llynedd.

Mae'r Fforwm yn canolbwyntio ar chwe maes o gydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon, sef Ymgysylltu ar Lefel Wleidyddol a Swyddogol; Masnach a Thwristiaeth; Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd; Addysg ac Ymchwil; Diwylliant, Iaith a Threftadaeth; a Chymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon.

Ddoe, aeth y Prif Weinidog i Ddulyn, gan gyfarfod ag Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins, ym mhreswylfa Swyddogol yr Arlywydd.

Yn Nulyn hefyd, cyfarfu'r Prif Weinidog ag Eamon Ryan TD, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog yr Amgylchedd, yr Hinsawdd a Chyfathrebu yn Llywodraeth Iwerddon. Yn ogystal, bydd hi'n cynnal cyfarfod dwyochrog â'r Tánaiste fel rhan o ddigwyddiadau'r Fforwm yng Nghorc ddydd Gwener.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Mae gan Gymru ac Iwerddon berthynas gadarn iawn, gan gydweithio mewn nifer o feysydd economaidd a diwylliannol sy'n bwysig i'r ddwy ochr. Mae'r berthynas hon rhwng ein dwy wlad wedi'i seilio ar hen, hen gysylltiadau a chydberthynas ddiwylliannol ddofn.

"Ry'n ni'n rhannu gwerthoedd a buddiannau cyffredin, fel gwledydd modern sydd â chysylltiadau â gweddill y byd. Ry'n ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd a threftadaeth ddiwylliannol. Agorodd Llywodraeth Cymru swyddfa yn Nulyn yn 2012, gan helpu i feithrin cysylltiadau a sefydlu meysydd i gydweithio ynddyn nhw.

"Dw i'n edrych ymlaen at weld ein perthynas yn parhau i dyfu a chryfhau yn y dyfodol."