Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd.
Cynnwys
Diben y grŵp
Rôl y Fforwm yw cefnogi'r weledigaeth i gynyddu cydraddoldeb rhwng y rhyweddau yng Nghymru. Bydd y Fforwm yn cynnig cyngor ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru ar faterion brys a materion sy'n datblygu sy’n effeithio ar gydraddoldeb rhwng y rhyweddau yng Nghymru.
Amcanion
Cefnogi Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu argymhellion y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhyweddau yng Nghymru ynghyd â materion sy'n datblygu i adlewyrchu effaith pandemig Covid 19 a'r adferiad yn ei sgil, a'r argyfwng costau byw.
Craffu ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu llywodraeth Cymru yn y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhyweddau yng Nghymru a nodi unrhyw rwystrau rhag cynnydd.
Galluogi rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth i gynorthwyo'r gwaith o gyflawni a monitro'r elfennau sy'n gysylltiedig â rhywedd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ynglŷn â Chydraddoldeb.
Ymgynghori â rhwydweithiau ac â’r aelodaeth ehangach i helpu i nodi a deall rhwystrau, yn rhai brys ac yn rhai sy’n datblygu, i gydraddoldeb rhywedd y mae menywod, dynion a phobl anneuaidd yn eu hwynebu.
Darparu cymorth a chyngor arbenigol i Weinidogion y Cabinet er mwyn deall y rhwystrau, yn rhai brys ac yn rhai sy’n datblygu, i gydraddoldeb rhywedd a darparu enghreifftiau ymarferol o ffyrdd o oresgyn rhwystrau o’r fath.
Sicrhau bod unrhyw ystyriaeth a roddir i gydraddoldeb rhywedd yn ystyried y croestoriad rhwng rhywedd, hil, anabledd, bod yn LHDTC+ a nodweddion gwarchodedig eraill, a’i bod yn gynhwysol ac yn wrthwahaniaethol.
Cefnogi Llywodraeth Cymru i ystyried ymhellach gysylltiadau a themâu sy'n ymwneud â rhywedd sy'n ymddangos ar draws cynlluniau eraill sy'n gysylltiedig â Chydraddoldeb yn ogystal â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru ar iechyd, addysg, trafnidiaeth, gwaith a'r economi.
Nodi meysydd posibl ar gyfer gwaith ymchwil i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau a rhaglenni yn y dyfodol.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n mynychu’r tasglu yn cyfrannu at y trafodaethau ar sail eu harbenigedd a’u profiad, yn ystyried y materion sy’n codi sy’n ymwneud â’u meysydd polisi ac yn rhoi cyngor yn ôl yr angen. Byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran y camau gweithredu sydd wedi’u neilltuo iddynt yn y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhyweddau yng Nghymru ac yn rhoi adroddiadau i’w cydweithwyr polisi ar unrhyw feysydd lle y gellid llunio neu ddiwygio polisïau neu raglenni er mwyn hyrwyddo canlyniadau cyfartal i fenywod, dynion a phobl anneuaidd yn well.
Aelodaeth
- Bawso
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
- Cyngres Undebau Llafur Cymru
- Cymorth i Ferched Cymru
- Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Cymru
- Home-Start Cymru
- Oxfam Cymru
- Plan International UK
- Prifysgol Caerdydd
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
- Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
- Women Connect First
Trefniadau gweithio’r grŵp
Bydd y Fforwm Cydraddoldeb Rhywiol yn cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip am ddau gyfarfod y flwyddyn a bydd hefyd yn cael ei gadeirio gan swyddog am ddau gyfarfod y flwyddyn.
Darperir yr ysgrifenyddiaeth gan Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.
Bydd y Fforwm Cydraddoldeb Rhywiol yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.
Bydd papurau yn cael eu cyhoeddi o leiaf dri diwrnod gwaith cyn unrhyw gyfarfod.
Bydd cofnodion yn cael eu cyhoeddi o fewn pythefnos i'r cyfarfod.
Bydd y cylch gorchwyl hwn yn cael ei adolygu bob 12 mis gan Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Fforwm i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn berthnasol dros amser.
Cyhoeddi dogfennau
Bydd agendâu, papurau a chofnodion cyfarfodydd ar gael ar gais mewn copi caled neu fformatau eraill.
Bydd cofnodion y cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we Fforwm Cydraddoldeb Rhywiol Llywodraeth Cymru.
Trefniadau mynediad
Os oes gan aelodau unrhyw ofynion penodol er mwyn gallu ymuno â chyfarfod, megis: lle parcio hygyrch, dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gofynion o ran ieithoedd eraill, deunyddiau mewn fformat gwahanol, system dolen sain, neu unrhyw ofynion eraill, dylent roi gwybod i’r Ysgrifenyddiaeth cyn gynted ag y bo modd ac fe wnawn ein gorau i fodloni’ch gofynion.
Mae'r holl bapurau'r cyfarfodydd i'w dosbarthu ymlaen llaw a'u darparu mewn fformat hygyrch.