Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffordd ym Mro Morgannwg wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau ‘Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru’ 2020, ar ôl i Ffordd Fynediad y Gogledd Sain Tathan ennill y wobr am brosiect peirianneg sifil y flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y ffordd newydd, sy’n werth £15 miliwn, ei hagor gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar 30 Medi 2019. Cafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i hadeiladu gan Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd o’r Fenni.

Mae’r ffordd yn rhoi mynediad i Barc Busnes Sain Tathan – sy’n gartref i gwmnïau mawr fel Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Bristow Helicopters. Felly, mae’n gyswllt economaidd pwysig a fydd yn galluogi mewnfuddsoddiadau ac yn annog datblygiadau yn y dyfodol.

Wrth adeiladu’r ffordd cafodd cryn ddarpariaeth ei chreu ar gyfer teithio llesol, yn ogystal â manteision ar gyfer bioamrywiaeth. Mae cynllun goleuo pwrpasol, a gafodd ei ddylunio ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi cael ei roi ar waith, i liniaru’r effeithiau ar bathewod ac ystlumod, ac arweiniodd ymgynghori ag arbenigwr ar bysgod at ddylunio cwlfer unigryw i helpu pysgod i deithio drwy eu cynefinoedd. 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae Bro Tathan yn rhan sylweddol o seilwaith economaidd Cymru, ac mae’r ffordd hon yn rhoi’r mynediad sydd ei angen yn fawr iawn at yr holl gyfleoedd sy’n bodoli yn y Parc Busnes.

“Mae pob prosiect adeiladu yn wynebu heriau, ac yn achos y prosiect hwn aethpwyd i’r afael â phob un o’r heriau hyn mewn modd arloesol a chreadigol dros ben. Hoffwn i ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r prosiect am eu gwaith caled – mae’n dda gen i eu bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu drwy’r wobr hon.

Dywedodd Ian Thomas, Rheolwr Prosiect Alun Griffiths:

“Rydyn ni wrth ein boddau yn cael ein cydnabod am ein rhan ni wrth gwblhau Ffordd Fynediad y Gogledd. Roedd wir yn bleser bod yn rhan o ethos y tîm hwn, lle roedd cydweithio ac arloesi’n werthoedd craidd, a phob aelod o’r tîm yn gweithio i drechu’r heriau.

Dywedodd Rhys Mander, Cyfarwyddwr Rhanbarthol AECOM:

“Mae AECOM yn falch o fod wedi cefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu atebion costeffeithiol i her seilwaith gymhleth ym Mro Tathan. Mae’r prosiect hwn, a fydd yn gadael gwaddol i’r gymuned am flynyddoedd lawer, yn dangos sut y gallwn ni fod yn wirioneddol arloesol drwy gydweithio a meddwl am y dyfodol mewn modd dychmygus.

Dywedodd Piers Burroughs, Rheolwr Gyfarwyddwr Burroughs:

“Roedd yn fraint bod yn rhan o’r gwaith llwyddiannus hwn o gyflawni cynllun peirianneg mor heriol. Ces i fy ysbrydoli gan ymrwymiad yr holl dîm a’u hymagwedd gydweithiol ac arloesol.

Ychwanegodd lleferydd TACP:

“O ganlyniad i gydweithio’r holl dîm, a’u dull integredig o weithredu, gwnaethon ni lwyddo i roi mesurau lliniaru amgylcheddol sensitif a rhagorol ar waith. Roedd bod yn rhan o’r prosiect yn bleser gwirioneddol.