Mae angen i Gymru sicrhau ffordd well a thecach o sicrhau mynediad i’r cyhoedd i ddulliau o hamddena yn yr awyr agored.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r cyhoedd am eu barn yn 2015. Dywedodd nifer o’r 5,800 a ymatebodd fod y system bresennol yn rhy gymhleth a beichus, gyda rhai safbwyntiau cryf, yn gwahaniaethu’n fawr, ar sut y gellid gwella’r sefyllfa.
Datgelodd yr ymgynghoriad yr ystod eang o weithgareddau awyr agored oedd yn digwydd ledled Cymru, ond tynnwyd sylw hefyd at yr heriau y mae rheolwyr tir yn eu hwynebu a’r diffygion a’r anghysondebau yn y system bresennol.
Wedi edrych ar yr ymatebion, mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi ei bwriad i ddatblygu cynigion ar sut y gellid gwella’r deddfau presennol er mwyn:
- Sicrhau cysondeb o ran y cyfleoedd sydd ar gael i gyfranogi a sut y mae cyfyngu a rheoleiddio ar weithgareddau;
- Symleiddio gweithdrefnau ar gyfer dynodi a chofnodi mynediad i’r cyhoedd;
- Gwella fforymau cynghori a chyfathrebu hawliau a chyfrifoldebau mynediad yn well.
“Mae hamddena awyr agored yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi ac yn sicrhau manteision sylweddol yn gymdeithasol ac o ran iechyd. Daw hyn yn amlwg o lwyddiant enfawr Llwybr Arfordir Cymru sydd wedi codi proffil Cymru gartref a thramor. Mae gennym bellach y cyfle i adeiladu ar y llwyddiant hwn.
“Mae ar Gymru angen dull o ddelio â mynediad i’r cyhoedd sy’n llai beichus i’w weinyddu, yn darparu ystod eang o weithgareddau, ond ar yr un pryd, yn parchu pryderon perchnogion tir.
“Er y gallwn ddysgu o ddulliau gwledydd eraill, mae angen deddfau ar Gymru sy’n addas i’w thirwedd diwylliannol a ffisegol. Rydym yn ymwybodol iawn o bryderon perchnogion tir ac uchelgeisiau defnyddwyr. Byddaf yn cyhoeddi ein cynigion cyn gynted â phosib fel y gall bobl ddweud eu dweud, fel bod gennym system sy’n gweithio er lles pawb”.