Mae’r ffordd osgoi yn cysylltu’r A489 a’r A483 ac yn osgoi’r Drenewydd.
Trosolwg
Ein rhesymau dros wneud hyn
Roedd tagfeydd rheolaidd wrth y gyffordd lle’r oedd yr A583 a’r A489 yn ymuno â’i gilydd a hefyd ar y brif ffordd drwy’r Drenewydd. Roedd y tagfeydd yn amharu ar ddatblygiad diwydiannol a masnachol y Drenewydd, ac ar ei datblygiad o ran twristiaeth a hamdden. Dylai’r ffordd osgoi newydd hon helpu’r Drenewydd i ddatblygu’n ganolfan ranbarthol yn y Canolbarth
Hynt y gwaith hyd yma
Agorodd y ffordd osgoi yn gynnar yn 2019. Mae’r prosiect bellach yn ei gyfnod ôl-ofal o 5 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgymryd â gwaith sydd heb ei gwblhau ac yn monitro’r gwaith tirweddu ar y cynllun. Bydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2024.
Sut aethon ni ati i ymgynghori
Gwnaethom gynnal arddangosfa ymgynghori â’r cyhoedd yn y Drenewydd yn ystod haf 2009.
Roedd y cynigion yn trafod y llwybr a ffefrid yn 2010, yn ogystal ag opsiynau eraill posibl ac fe’u dangoswyd mewn arddangosfa i’r cyhoedd a gynhaliwyd yn ystod haf 2013. Canlyniad hynny oedd cyhoeddi llwybr arall a ffefrid yn ystod gwanwyn 2014. Gwelodd dros 600 o bobl y llwybr mewn arddangosfa arall i’r cyhoedd a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2014.
Cynhaliwyd ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ystod haf 2015.
Cyswllt
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y prosiect hwn at est-nmdmailbox@llyw.cymru