Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yma yn cynnwys dadansoddiad ychwanegol o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae’n cyfuno data dros bedair blynedd i ddadansoddi ymddygiadau ffordd iach o fyw ymysg oedolion yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Daw gwybodaeth am ymddygiad ffordd iach o fyw ymhlith oedolion yng Nghymru o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae'r erthygl hon yn cyfuno pedair blynedd o ddata i ddadansoddi ymddygiadau ffordd iach o fyw yn ôl nodweddion gwarchodedig dethol (sef anabledd, grŵp ethnig, statws priodasol, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol). Mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau o ran ymddygiadau ffordd iach o fyw, a gall patrymau’r gwahaniaethau amrywio yn dibynnu ar yr ymddygiad ffordd o fyw.

Yn gyffredinol, ar ôl ystyried oedran:

  • roedd oedolion nad oeddent yn anabl yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau neu ragor o ymddygiadau ffordd iach o fyw nag oedolion anabl
  • roedd oedolion yn y grŵp Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau neu ragor o ymddygiadau ffordd iach o fyw na'r rhai yn y grŵp Gwyn
  • roedd oedolion a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau neu ragor o ymddygiadau ffordd iach o fyw na'r rhai a oedd yn sengl neu'r rhai a oedd wedi gwahanu neu ysgaru
  • roedd oedolion a nododd eu bod yn Fwslimiaid yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau neu ragor o ymddygiadau ffordd iach o fyw na'r rhai mewn grwpiau eraill (er nad oedd y gwahaniaeth o'i gymharu â'r grŵp crefyddau Eraill, sy'n cynnwys Bwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Sikhiaeth, ac unrhyw grefydd arall, yn ystadegol arwyddocaol); pobl a nododd nad oedd ganddynt grefydd oedd y lleiaf tebygol o wneud hynny
  • roedd oedolion a nododd eu bod yn ddeurywiol yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw na'r rhai mewn grwpiau eraill

Adroddiadau

Ffordd o fyw oedolion o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016 i 17 i 2019 i 20: dadansoddiad ychwanegol yn ôl anabledd, grŵp ethnig, statws priodasol, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 407 KB

PDF
Saesneg yn unig
407 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cath Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.