Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ymddygiad oedolion sy'n byw yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ffordd o fyw oedolion (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Ni ddylid cymharu canlyniadau â blynyddoedd cyn 2020-21 (pan oedd cyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb).
Prif bwyntiau
- Dywedodd 13% o oedolion eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd.
- Dywedodd 16% o oedolion eu bod yn yfed mwy na'r canllaw wythnosol (hynny yw, mwy nag 14 uned yr wythnos ar gyfartaledd).
- Dywedodd 30% eu bod yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol.
- Dywedodd 56% o oedolion eu bod wedi gwneud o leiaf 150 munud weithgarwch corfforaethol yn yr wythnos flaenorol.
- Dywedodd 36% o oedolion eu bod yn bwysau iach.
- Dywedodd 93% o oedolion eu bod yn dilyn 2 neu fwy o'r 5 ymddygiad iach.
Roedd oedolion yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn llai tebygol o adrodd am ymddygiad ffordd iach o fyw na'r rhai yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, roedd hyn yn wir am bob ymddygiad ac eithrio yn yfed mwy na'r canllaw.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.