Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynllun gyda dau grant i gefnogi pobl agored i niwed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Drwy gydol y llynedd, rydym wedi bod yn treialu ffordd newydd o ddarparu grantiau mewn saith awdurdod lleol yng Nghymru. Nod y gwaith hwn oedd dod â nifer o grantiau at ei gilydd fel bod awdurdodau lleol a'u partneriaid mewn sefyllfa well i gynnig gwasanaethau ataliol sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar i'r rheini sydd mewn mwyaf o angen.  

Cafodd y gwerthusiad interim o’r hyn a gyflawnwyd ar draws pob maes ardal awdurdod lleol wrth dreialu'r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi ei gyhoeddi heddiw. 

Yn sgil adolygu'r dystiolaeth a gasglwyd oddi wrth yr awdurdodau oedd yn braenaru, a'r trafodaethau â rhanddeiliaid a phartneriaid awdurdod lleol, cytunwyd, o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, y byddai'r grant yn cael ei ddarparu drwy ddwy ffrwd: y Grant Plant a Chymunedau a'r Grant Cymorth Tai. 

Dywedodd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus,

"Rydyn ni'n credu bod llawer o fanteision i'r dull newydd hwn. Bydd yn caniatáu inni weithio gyda'n holl bartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu hintigreiddio mor effeithiol â phosibl a bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn ystyried y dystiolaeth a'r argymhellion o bwyllgorau ac adolygiadau diweddar yn llawn. 

“Byddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'n rhanddeiliaid yn ehangach, gan gynnwys rhoi cymorth i'r awdurdodau lleol nad oeddynt yn braenaru, er mwyn symud ymlaen â'r trefniadau newydd a phwysleisio pa mor bwysig yw ymyrraeth gynnar ac atal.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio,

"Rwy'n falch bod dyfodol y grantiau hyn yn mynd i gael ei bennu gan y dystiolaeth am y canlyniadau i bobl a chymunedau yng Nghymru.

“Rydyn ni'n ddiolchgar i'r rheini sydd wedi chwarae rôl allweddol yn treialu'r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi. Rydyn ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd yn ein hymrwymiad i wella canlyniadau i unigolion a chymunedau sy'n elwa ar y gwasanaethau a ariennir drwy'r grantiau hyn."

Bydd y trefniadau hyn ar waith ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn a bydd yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Byddant yn cael eu monitro a'u gwerthuso'n ofalus er mwyn sicrhau bod y pryderon sydd wedi cael eu mynegi gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu datrys.