Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ffordd fawr i wella’r cysylltiadau â Bae Caerdydd yn lliniaru tagfeydd yng nghanol y ddinas ac yn chwarae rhan amlwg i sicrhau bod rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn llwyddiannus

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod ymweliad i weld y datblygiadau ar brosiect ffordd gyswllt Dwyrain y Bae, ar gost o £57 miliwn, pwysleisiodd Ysgrifennydd yr Economi yr effaith y gall prosiectau o’r fath ei gael ar yr economi leol ac yn ehangach, yn benodol mewn dinas fel Caerdydd sy’n cynnal digwyddiadau mawr yn rheolaidd.   
Meddai Ken Skates:
“Mae’n wych gweld ffordd gyswllt Dwyrain y Bae bron â’i chwblhau.  Bydd y ffordd newydd yn rhoi hwb mawr i Gaerdydd a Bae Caerdydd trwy wella llawer ar fynediad i’r ddinas, cysylltiadau ac amseroedd teithio.  
“Ac, wrth gwrs, yn y tymor byr, bydd yn cyfrannu at lwyddiant digwyddiad chwaraeon mwyaf 2017 – rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, yma yng Nghaerdydd.  
“Mae hanes Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau mawr i Gymru yn rhywbeth yr wyf yn hynod falch ohono.  Mae gennym enw da  fel lleoliad gwych i gynnal digwyddiadau a byddwn yn parhau i weithio i adeiladu ar hynny, trwy gydol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin a Ras Cefnfor Volvo y flwyddyn nesaf, ymysg eraill.  
“Bydd y digwyddiadau hyn yn golygu y bydd miloedd o ymwelwyr ychwanegol yn dod i Gymru ac i Gaerdydd yn benodol, ac mae’n hollbwysig bod ein seilwaith cystal â’n huchelgais.  Bydd y ffordd gyswllt ar agor i fysiau a choetsus trwy gydol penwythnos terfynol Cynghrair y Pencampwyr – gan gynnig ffordd gyflym a hawdd o deithio yn ôl ac ymlaen o Fae Caerdydd, a bydd ar agor i bob cerbyd yn fuan wedi’r digwyddiad.  
“Yn ystod yr haf eleni rydym yn edrych ymlaen at ddenu ymwelwyr ledled y byd ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu gwneud hynny gyda’r ffordd gyswllt fawr hon wedi’i chwblhau.”  

Meddai Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: 

“Rwyf wrth fy modd bod Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae ar agor i goetsys a bysiau mewn pryd ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin.“Gyda miloedd o gefnogwyr pêl-droed yn cyrraedd Caerdydd mewn coetsys ar gyfer y gêm, bydd y ffordd gyswllt newydd yn chwarae rhan amlwg wrth geisio lliniaru y llif traffig o amgylch y ddinas yn ystod yr hyn a fydd mae’n debyg yn un o’r digwyddiadau chwaraeon gorau un i’w cynnal erioed yn y brifddinas.”