Gofynnir i bobl ffonio yn gyntaf cyn mynd i adran ddamweiniau ac achosion brys gan fod gwasanaethau argyfwng yn cael eu hailfodelu i ymateb i’r coronafeirws. Dyna oedd cyhoeddiad y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw.
Bydd y gwasanaeth brysbennu dros y ffôn yn cyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu cyflwr neu anaf yn lle bod pawb yn dod i’w hadran ddamweiniau ac achosion brys yn awtomatig i geisio gofal.
Mae’r newidiadau, a fydd yn cael eu treialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael eu modelu ar gynllun llwyddiannus o wledydd Llychlyn, ac yn rhan o ddull newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Ni fydd gwasanaeth brys 999 wedi’i effeithio gan y newidiadau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae'r GIG wedi gorfod addasu'n gyflym i ymateb i'r pandemig, a hynny wrth gadw staff a chleifion yn ddiogel a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau gofal brys ac argyfwng y mae eu hangen ar bobl.
“Rydyn ni wedi edrych yn ofalus iawn ar sut mae pobl yn cael gafael ar wasanaethau gofal brys ac argyfwng, mewn ymateb i'r risgiau a'r cyfyngiadau sydd wedi dod yn sgil y pandemig.
“Bu gostyngiad sydyn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn nifer y bobl a aeth i adrannau argyfwng, a gwelwyd cynnydd mawr yn y nifer sy'n cael cymorth a chyngor o bell drwy GIG 111 a gwasanaethau ar-lein.
“Wrth i bresenoldeb ddechrau dychwelyd i lefelau mwy 'normal', mae'r newidiadau hyn o ran sut mae pobl wedi bod yn cael mynediad at wasanaethau dros yr wythnosau diwethaf yn rhywbeth y mae clinigwyr blaenllaw yn dweud y mae'n rhaid ei gynnal.”
Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oes angen y gofal arbenigol a ddarperir gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn yr unedau hyn ar gyfran o'r bobl sy'n mynd i adrannau argyfwng, ac y byddent yn elwa naill ai ar hunanofal neu ar gael cyngor, iechyd neu ofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o'r system.
Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd bod y gostyngiad yn nifer y cleifion a ddaeth i'r adran argyfwng dros gyfnod y pandemig yn ymwneud yn bennaf â chleifion ‘risg is’, lle y byddai gael cyngor neu ofal yn rhywle arall wedi bod o fudd i brofiad a chanlyniadau.
Yn y mis diwethaf, wrth i nifer gynyddol o bobl geisio triniaeth yn yr adrannau argyfwng – gan ddychwelyd i’r ‘ystod arferol’ o weithgarwch – mae rhai byrddau iechyd wedi rhoi gwybod am giwiau o gleifion y tu allan i adrannau oherwydd bod llai o le o fewn yr adran i atal lledaeniad coronafeirws.
Mae Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) a Choleg Brenhinol y Meddygon wedi mynegi pryder ynghylch diogelwch pobl a staff, os bydd adrannau argyfwng yn mynd yn orlawn.
Mae RCEM wedi sôn am yr angen brys i newid o fodel gwasanaeth gyda niferoedd diderfyn o bobl yn mynd i adrannau argyfwng mewn ffordd heb ei chydgysylltu, a all ei gwneud yn anodd cadw staff a chleifion yn ddiogel.
Mae dull braenaru newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – sef gwasanaeth ffôn CAV 24/7 – wedi’i gynllunio i helpu pobl y mae arnynt angen gofal brys i gael mynediad at y cyngor neu'r driniaeth gywir yn y lle iawn. Bydd yn cael ei lansio fis nesaf.
Bydd pobl sy'n galw'r gwasanaeth yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Gallai hyn olygu y bydd pobl yn cael eu hannog i ofalu amdanynt eu hunain neu’n cael eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol neu’n cael apwyntiad personol mewn canolfan gofal brys neu adran argyfwng.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:
"Dylai pobl â chyflyrau sy'n bygwth bywyd neu gyflyrau difrifol barhau i ddefnyddio gwasanaethau yn y ffordd arferol, ond, gyda mesurau pellter corfforol newydd yn eu lle, mae angen inni reoli pobl sydd â chyflyrau llai difrifol yn eu cymunedau lleol yn well neu drefnu apwyntiadau brys er mwyn osgoi gorlenwi a chiwio y tu allan i adrannau.
“Nid ydym am weld teuluoedd mawr neu grwpiau mawr o bobl yn ymgynnull mewn adrannau, fel y gallwn amddiffyn pobl sydd mewn perygl, sy'n agored i niwed neu sydd wedi bod yn gwarchod, ond rydym hefyd yn cydnabod yr angen i sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion. Gall hyn gael ei ddarparu yn y gymuned yn aml.”
Dywedodd Dr Jo Mower, cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol gofal heb ei drefnu ac is-lywydd RCEM:
"Rydym yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed gan y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau gofal argyfwng yn synhwyrol yn ystod y pandemig ac yn diolch iddynt am hyn. Er hynny, mae'n rhaid inni ddysgu byw ochr yn ochr â’r coronafeirws ac nid ydym am weld gorlenwi a gorfod aros yn hir am wely eto yn ein hadrannau achosion brys.
"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn y lle iawn, a allai fod yn y gymuned, a chan y clinigydd iawn, y tro cyntaf."