Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y cyfraniad pwysig y mae amgueddfeydd yn ei wneud i fywyd diwylliannol ac economi Cymru.
Mae’r Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn monitro ac yn asesu iechyd parhaus y sector amgueddfeydd yng Nghymru, ac mae wedi bod yn cael ei gynnal ers 2006.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, yn 2022, y bu 3 miliwn o ymweliadau â’r amgueddfeydd yng Nghymru a gwblhaodd yr arolwg; mae hyn o’i gymharu â 4.3 miliwn o ymweliadau yn 2019. Ar y cyfan, mae nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd wedi adfer i 69% o’r lefelau a welwyd cyn COVID-19.
Mae amgueddfeydd yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru yn ogystal ag i economi leol yr amgueddfa. Maent yn denu pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd ac yn ysgogi ymwelwyr i wario arian. Mae’r gwariant hwn yn fuddiol i fusnesau eraill, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch ac i ddarparwyr llety.
Un o brif rolau ein hamgueddfeydd yw grymuso dysgu ac ysbrydoli. Er yn 2022 y croesawyd 320,000 o gyfranogwyr dysgu i amgueddfeydd yng Nghymru, nid yw nifer y bobl sydd wedi mynychu sesiynau dysgu ffurfiol ac anffurfiol wedi adfer i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig eto.
Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn drysorfeydd hanes a diwylliant lleol a chenedlaethol, a chanfu’r adroddiad fod gan amgueddfeydd dros 6,300,000 o wrthrychau yn eu casgliadau ac, er mwyn sicrhau bod y casgliadau hyn ar gael i bawb, mae bron pob amgueddfa yn cynnig rhywfaint o fynediad ar-lein i’w casgliadau.
Nid yw nifer y gwirfoddolwyr wedi adfer yn llawn i’r lefelau cyn y pandemig eto ychwaith. Yn 2022, roedd 1,893 o wirfoddolwyr yn cyfrannu 180,137 awr o gefnogaeth gwirfoddolwyr, sydd 32% o wirfoddolwyr yn llai yn y gweithlu nag a oedd yn 2019.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Hoffen ni ddiolch i’r holl amgueddfeydd hynny a gyfrannodd at yr Arolwg Sbotolau, sy’n werthfawr o ran taflu goleuni a rhoi gwybodaeth bwysig inni er mwyn deall y sector yn well. Mae Sbotolau 2022 yn dangos yn glir fod y broses o adfer ar ôl y pandemig yn mynd rhagddi, ond ei bod yn bell o fod yn gyflawn nac yn unffurf ar draws y gwahanol fathau o amgueddfeydd ar draws y wlad. Rydyn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn cydnabod pwysigrwydd ein sector amgueddfeydd lleol a chenedlaethol fel elfen allweddol o’n bywyd diwylliannol yng Nghymru, a’r hyn y maent yn ei ddarparu i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rydyn ni eisoes yn darparu cymorth i helpu amgueddfeydd i wynebu rhai o’r heriau a gafodd eu codi yn yr adroddiad, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r sector yn y dyfodol.”