Y bwriad yw codi’r mesur gorfodol ar gyfer cadw dofednod ac adar caeth dan do ddiwedd y mis. Dyna gyhoeddodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a’r Alban heddiw.
Mae’r mesur ar gadw adar dan do, a gafodd ei gyflwyno ym Mhrydain Fawr ym mis Rhagfyr fel un o nifer o fesurau i atal ffliw’r adar rhag lledaenu, wedi bod yn hanfodol i ddiogelu heidiau ledled y wlad rhag y clefyd sy’n cylchredeg mewn adar gwyllt.
Mae Llywodraeth Cymru, Defra a Llywodraeth yr Alban wedi bod yn cydweithio â’r diwydiant a cheidwaid adar i sicrhau bod mesurau bioddiogelwch llym yn cael eu dilyn ar safleoedd dofednod a’u cyffiniau er mwyn cadw heidiau’n ddiogel.
Mae’r mesurau a ddefnyddiwyd wedi llwyddo i’n helpu i ffrwyno’r clefyd a chyn belled na fydd unrhyw achosion arwyddocaol newydd rhwng nawr a diwedd mis Mawrth, caiff y mesurau eu llacio.
Cadarnhawyd yr achos diwethaf mewn dofednod ym Mhrydain Fawr dros fis yn ôl ar 12 Chwefror yn yr Alban.
Er bod y risg o ffliw’r adar wedi gostwng i ‘ganolig’, bydd y risg o weld achosion yn debygol o barhau am rai wythnosau eto. Mae’r gofynion bioddiogelwch llymach a gyflwynwyd wrth gyhoeddi Parth Atal Ffliw’r Adar (AIPZ) ar 11 Tachwedd yn aros.
Bioddiogelwch da yw’r ffordd orau o hyd o reoli’r clefyd.
Er ei bod yn hanfodol cadw mesurau bioddiogelwch effeithiol pan fydd y risg o ffliw’r adar ar gynnydd, rydym yn cynghori ceidwaid dofednod i gadw at y mesurau llymach bob amser i osgoi a ffrwyno achosion yn y dyfodol.
Rydym yn cynghori ceidwaid adar i ddefnyddio’u hamser dros y bythefnos nesaf i baratoi’r mannau awyr agored ar gyfer eu hadar. Dylai hynny gynnwys glanhau a diheintio arwynebau caled, codi ffens o gwmpas pyllau dŵr a merddwr ac ailgyflwyno mesurau i gadw adar gwyllt draw.
Hefyd, pan fydd yr adar yn cael mynd allan ddiwedd Mawrth, bydd dal gofyn i geidwaid dofednod ac adar caeth ddilyn mesurau fel glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau, gwahardd pobl nad ydyn nhw’n hanfodol rhag dod i’r safle a gofyn i weithwyr newid eu dillad a’u hesgidiau cyn mynd i’r mannau cadw adar.
Y cyngor yw bod y risg o straen H5N8 y feirws i iechyd pobl yn isel a’r risg o straeniau H5N2, H5N5 a H5N1 y feirws yn isel iawn. Mae’r asiantaethau safonau bwyd yn dweud mai isel iawn yw’r risg i gwsmeriaid bwyd yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n effeithio ar y rheini sy’n bwyta cynnyrch dofednod gan gynnwys wyau.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd tri Phrif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr:
Bydd ceidwaid dofednod ym mhob un o’r gwledydd, ar ôl gweithio mor galed i gadw eu heidiau’n ddiogel dros y gaeaf, yn croesawu’r newyddion hyn.
Rydym wedi cymryd camau buan i ffrwyno a dileu’r clefyd a rhaid i bawb sy’n cadw adar – p’un ai dyrnaid yn unig neu haid o filoedd – barhau i wneud eu rhan i gynnal y safonau bioddiogelwch ar eu safleoedd rhag i ni golli’r hyn a enillwyd dros y misoedd nesaf. Nid yw Risg Isel yn golygu Dim Risg.
Rydym yn cynghori pawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth i gadw eu llygaid ar agor am arwyddion y clefyd ar eu hadar ac ar unrhyw adar gwyllt, ac i gysylltu â’u milfeddyg ar unwaith os oes ganddynt unrhyw bryderon. Gallant ein helpu i gadw’r ffliw adar draw trwy ddilyn mesurau bioddiogelwch da, gan gynnwys:
• Codi ffens o amgylch pyllau dŵr, nentydd, mannau gwlyb a merddwr a’u draenio os yw hynny’n bosibl
• Rhoi weiar netin neu orchudd dros byllau dŵr
• Cael gwared ar unrhyw fwyd y bydd adar gwyllt am ei fwyta
• Cadw adar gwyllt draw trwy gerdded yn rheolaidd trwy’r safle neu ddefnyddio modelau o adar ysglyfaethus
• Glanhau a diheintio concrit ac arwynebau caled eraill
• Rhoi naddion coed ar fannau gwlyb
• Cyfyngu ar nifer y bobl sy’n cael dod i’r safle
• Defnyddio cafnau i ddiheintio traed wrth ddod i’r safle a’i adael.
Os gwelan nhw adar gwyllt marw, dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth ac aelodau’r cyhoedd ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 (opsiwn 7), ac os ydyn nhw’n credu bod y clefyd ar eu hadar, dylai ceidwaid ffonio APHA ar 0300 3038268 neu 03000 200 301 yn Lloegr.
Dylai ceidwaid dofednod gynefino â’r cyngor ar ffliw'r adar.