Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, yn atgoffa pawb sy'n cadw dofednod o bwysigrwydd bioddiogelwch effeithiol a chadw eu llygaid ar agor am arwyddion Ffliw'r Adar y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Does dim Ffliw'r Adar (H5N8) yn y DU ar hyn o bryd ond mae wastad perygl y gallai'r clefyd ein taro, yn enwedig nawr bod y tymor mudo wedi dechrau. Credir bod risg canolig i adar gwyllt ddod â'r clefyd i'r DU a risg isel iddo gyrraedd trwy ddofednod, er bod hyn yn dibynnu ar lefel y bioddiogelwch ar ffermydd unigol. 

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru'n cynghori pawb sy'n cadw dofednod yng Nghymru, o'r haid leiaf yn yr ardd gefn i'r fferm fasnachol fwyaf, i gadw golwg ar eu mesurau bioddiogelwch, i gofrestru ar gyfer rhybuddion a chofrestru'u hadar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae hefyd yn atgoffa ceidwaid bod angen iddyn nhw roi gwybod i'w milfeddyg am unrhyw farwolaeth neu salwch anesboniadwy. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n credu bod risg Ffliw'r Adar i iechyd y cyhoedd yn fach iawn ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi'i gwneud yn glir nad yw'r clefyd yn risg i ddiogelwch bwyd y DU. 

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol: 

"Mae tymor mudo adar gwyllt wedi dechrau. Mae hyn yn golygu y bydd adar yn cyrraedd y DU o ardaloedd lle mae yna Ffliw'r Adar. 

"Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i geidwaid dofednod gadw at y safonau bioddiogelwch uchaf. Hyd yn oed pan fydd adar yn cael eu cadw dan do, mae dal perygl iddyn nhw gael eu heintio a dylai pawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill wneud popeth yn eu gallu i'w rhwystro rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt. Dylech osgoi symud eich dofednod, a dylech wastad diheintio dillad ac offer.

"Os ydych chi'n poeni am iechyd eich adar, dylech holi milfeddyg. Os ydych chi'n credu bod y ffliw ar eich adar, rhowch wybod i'r 

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (dolen allanol) (Saesneg yn unig) ar unwaith." 

Os bydd aelodau'r cyhoedd yn cael hyd i elyrch, gwyddau, hwyaid neu wylanod marw, neu bum neu fwy o adar gwyllt o rywogaeth arall yn farw yn yr un lle, cysylltwch â llinell gymorth Defra ar: 03459 33 55 77 neu e-bostiwch: defra.helpline@defra.gsi.gov.uk. Dyma wasanaeth ar gyfer Prydain gyfan. 

Rydyn ni'n annog pawb sy'n cadw dofednod i'w cofrestru. Os oes gennych 50 o adar neu fwy, rhaid ichi eu cofrestru o dan y gyfraith. Rydyn ni'n annog ceidwaid â llai na 50 o adar i'w cofrestru'n wirfoddol. Cewch fwy o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru (dolen allanol) (Saesneg yn unig) yma. 

Cynghorir ceidwaid i gofrestru am rybuddion y clefyd.  

Cewch fwy o wybodaeth am Ffliw'r Adar, y sefyllfa fel ag y mae yng Nghymru ac ar draws y DU a chyngor ar fioddiogelwch ac ati i bobl sydd â heidiau yn eu gardd gefn, ar  wefan Llywodraeth Cymru