Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd feirysol hynod heintus yw ffliw adar. Mae’n effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y wybodaeth ddiweddaraf

O 16 Chwefror 2024, caniateir crynoadau o’r holl ddofednod ac adar caeth, ac eithrio adar Anseriforme (hwyaid, gwyddau, elyrch), ar yr amod eich bod yn:

  • bodloni gofynion y drwydded gyffredinol crynoadau dofednod neu'r drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar caeth 
  • rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am y crynhoad o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad

Gallwch ddarganfod mwyyn nogfennau'r drwydded gyffredinol:

Mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n gyson.

Cafodd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ei ddirymu ar 4 Gorffennaf 2023, ac nid yw bellach ar waith. 

Mae ceidwaid adar yn cael eu cynghori i barhau i gwblhau’r rhestr wirio hunan-asesu bioddiogelwch.  Bioddiogelwch digyfaddawd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli’r clefyd. Er bod y risg i adar caeth wedi gostwng, dylai pob ceidwad adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym ar bob adeg i atal y risg o’r clefyd yn dychwelyd yn y dyfodol. Dilynwch ein canllawiau: Bioddiogelwch ac atal afiechyd mewn adar caeth

Ewch i'r cyfyngiadau ffliw adar presennol.

Rhowch wybod am amheuaeth

Cysylltwch â swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych yn amau bod achos o Ffliw adar.

Bydd milfeddygon APHA yn ymchwilio i unrhyw achosion a amheuir.

Er mai clefyd adar yw ffliw adar, mewn achosion prin gall heintio pobl. Mae rhai mathau o ffliw adar yn lledaenu’n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.

Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw adar:

  • barhau i gadw at y lefelau uchaf o fioddiogelwch
  • bod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o’r clefyd

Dylech gofrestru eich dofednod, hyd yn oed adar anwes, er mwyn i APHA gysylltu â chi pe bai achos o’r clefyd. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar.

Arwyddion clinigol

Dyma rai o’r arwyddion clinigol:

  • pen chwyddedig
  • y gwddf yn troi’n las
  • diffyg archwaeth
  • anhawster i anadlu, er enghraifft: y pig led ar agor, peswch/tisian
  • dolur rhydd
  • dodwy llai o wyau
  • cyfraddau marwolaethau yn cynyddu

Trosglwyddo ac atal

Er mai clefyd adar yw ffliw adar, mewn achosion prin gall heintio pobl. Mae rhai mathau o ffliw adar yn lledaenu’n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.

Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw adar:

  • barhau i gadw at y lefelau uchaf o fioddiogelwch
  • bod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o’r clefyd

Dylech gofrestru eich dofednod (am gov.uk), hyd yn oed adar anwes, er mwyn i APHA gysylltu â chi pe bai achos o’r clefyd. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar.

Cyngor ar Fioddiogelwch

Anogir pawb sy’n cadw adar i gynnal lefelau uchel o fioddiogelwch; boed mewn perthynas ag ychydig o adar anwes, neu haid fasnachol fawr.

I sicrhau lefelau uchel o fioddiogelwch, dylai pawb sy’n cadw dofednod:

  • sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn mynd a dod o’r mannau caeedig lle y cedwir adar
  • glanhau a diheintio esgidiau gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir gan y llywodraeth, a chadw’r mannau lle mae’r adar yn byw yn lân a thaclus
  • sicrhau nad yw’r ardaloedd lle y cedwir yr adar yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod rhwydi dros byllau dŵr a rhwystro’r adar hynny rhag cyrraedd y ffynonellau bwyd
  • cadw eich adar ar wahân a sicrhau nad oes ganddynt fynediad at ardaloedd lle mae adar eraill, yn arbennig gwyddau, hwyaid a gwylanod, yn bresennol
  • rhoi bwyd a dŵr i’r adar mewn ardal gaeedig i osgoi denu adar gwyllt
  • glanhau a diheintio cerbydau ac offer sy’n dod i gysylltiad â dofednod, a lleihau unrhyw halogiad sy’n bresennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrît
  • cadw golwg fanwl ar yr adar am unrhyw arwyddion o glefyd a sôn wrth eich milfeddyg neu APHA am unrhyw adar sy’n sâl neu am farwolaethau anesboniadwy

Y feirws Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI)

Mae’r risg o’r feirws HPAI (ffliw adar) yn cynyddu yn ystod y gaeaf. Rydym wedi nodi ei bod hi’n debygol mai adar y dŵr a gwylanod mudol sy’n gyfrifol am yr HPAI. (Mae adar y dŵr mudol yn cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch.) Mae hyn yn seiliedig ar brofiad dros y ddau aeaf diwethaf, ynghyd â barn wyddonol a milfeddygol.

Deddfwriaeth