Ar ôl cyhoeddiad i ddatgan Parth Atal Ffliw Adar newydd, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn atgoffa pobl sy'n cadw adar i fod yn barod ar ei gyfer pan fydd yn cael ei gyflwyno ddydd Mawrth nesaf.
Mae’r Parth Atal presennol, sy’n dod i ben ar 28 Chwefror, yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid dofednod ac adar dof eraill gadw eu hadar o dan do neu gymryd camau priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt, ac i wella bioddiogelwch.
Bydd y Parth Atal Ffliw Adar newydd yn ei le rhwng 28 Chwefror a 30 Ebrill, a bydd yn ofynnol i bob ceidwad yng Nghymru sefydlu mesurau bioddiogelwch gorfodol a chynnal hunanasesiad o fesurau bioddiogelwch ar eu safleoedd. Ar ôl iddynt wneud hynny, dylent fabwysiadu un neu fwy o'r mesurau a ganlyn (i) cadw eu hadar dan do, (ii) eu cadw'n gyfan gwbl ar wahân i adar gwyllt, drwy ddefnyddio netin etc neu (iii) rheoli mynediad eu hadar i ardaloedd allanol, ar yr amod eu bod yn cyflwyno mesurau ychwanegol i reoli risg.
Dywedodd Dr Christianne Glossop:
“Mae penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i sefydlu Parth Atal Ffliw Adar newydd ledled Cymru tan 30 Ebrill yn seiliedig ar gyngor pendant gan arbenigwyr a’r diwydiant.
"Fydd y perygl o heintio gan adar gwyllt ddim yn lleihau yn yr wythnosau nesaf. Mae’r newidiadau i'r Parth Atal newydd yn rhai cymesur ac yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y ceidwad i ddewis yr opsiwn gorau iddyn nhw ar gyfer diogelu eu hadar. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r mesurau ychwanegol i leihau risg."
Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol ei bod hefyd yn bwysig i geidwaid dofednod ac adar dof eraill barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd ac i barhau i arfer y safonau uchaf un o fioddiogelwch.
"Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon. Dylai ceidwaid arfer y lefelau uchaf un o fioddiogelwch os ydyn nhw am leihau’r perygl o heintio.
"Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw adar, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl."
Mae Dr Gavin Watkins, uwch-swyddog milfeddygol yn Llywodraeth Cymru, wedi recordio neges fideo sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar newydd.
Mae rhagor o ganllawiau, y datblygiadau diweddaraf a chopi o'r Datganiad newydd i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.