Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar H5N1 mewn haid fach iard gefn o ieir a hwyaid mewn safle ar Ynys Môn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ardal Parth Rheoli Clefydau Dros Dro o 3km a 10km wedi'u gosod o amgylch y safle heintiedig bach, i gyfyngu ar y risg o ledu'r clefyd.

Ystyrir bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac nid yw'r achosion hyn yn peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

Cafodd achos o ffliw adar ei gadarnhau mewn dofednod ac adar gwyllt ym mwrdeistref Sirol Wrecsam fis diwethaf. Cafwyd canfyddiadau tebyg o ffliw adar yn y DU ac Ewrop.

Ddydd Mercher yr wythnos hon cytunodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno mesurau lletya newydd i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar.  Daw'r mesurau hyn i rym ddydd Llun, 29 Tachwedd.

Cynghorir yn gryf i bob ceidwad fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd megis mwy o farwolaethau neu drafferthion anadlol. Os oes gan geidwaid unrhyw bryderon am iechyd eu hadar, cânt eu hannog i ofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

Mae'r cadarnhad hwn o achos o ffliw adar mewn dofednod ar Ynys Môn yn dystiolaeth bellach o'r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch. 

Rydym wedi cyhoeddi y bydd mesurau lletya newydd yn dod i rym o ddydd Llun nesaf i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o'i gyfuno â gweithredu'r mesurau bioddiogelwch llymaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw'n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

Mae parthau rheoli dros dro wedi'u gosod i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

Rhaid rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os ydych yn amau ffliw adar neu unrhyw glefyd hysbysadwy arall.

Anogir aelodau o'r cyhoedd i beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw ac yn hytrach gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i hysbysu’r awdurdodau a chael gwared o adar gwyllt marw ar gael ar: Adrodd a gwaredu aderyn marw.

Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Prydain Fawr ar gael yma.