Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch a oes angen ichi dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG a faint y gallech orfod ei dalu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hawl i gael archwiliad a thriniaeth ddeintyddol y GIG am ddim

Cewch archwiliadau deintyddol am ddim os ydych:

  • o dan 25 oed
  • yn 60 oed neu’n hŷn
  • Bydd rhaid talu am unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch ar ôl yr archwiliad

Cewch driniaeth ddeintyddol y GIG yn rhad ac am ddim os ydych, pan fydd y driniaeth yn dechrau:

  • o dan 18 oed
  • yn 18 oed ac mewn addysg amser llawn
  • yn feichiog neu wedi cael babi o fewn 12 mis cyn i’r driniaeth ddechrau
  • yn glaf mewnol i'r GIG a’r driniaeth yn cael ei rhoi gan un o ddeintyddion yr ysbyty
  • yn glaf allanol i Wasanaeth Deintyddol Ysbytai’r GIG (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint am ddannedd gosod a phontydd)

Mae gennych hefyd hawl i gael triniaeth ddeintyddol am ddim os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir pan fydd y driniaeth yn dechrau, neu pan godir tâl arnoch:

  • rydych chi neu’ch partner yn cael rhai budd-daliadau
  • rydych chi ar incwm isel. Darllenwch y Cynllun Incwm Isel
  • mae gennych hawl i gael, neu wedi eich enwi ar, dystysgrif eithrio credydau treth dilys y GIG

Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i weld a oes gennych hawl i gael cymorth

Ffioedd deintyddol y GIG

Os ydych chi fel arfer yn talu am driniaeth ddeintyddol y GIG, bydd tair ffi safonol.

Bydd y swm y bydd rhaid ichi ei dalu yn dibynnu ar y driniaeth sy’n angenrheidiol i gadw eich dannedd a’ch deintgig yn iach.

Bydd rhaid ichi dalu un o’r tair ffi isod:

BandTriniaethFfi
1

Mae’r ffi hon yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd hyn yn cynnwys:

  • pelydr X
  • cyngor ar iechyd y geg
  • cynllunio ar gyfer triniaeth bellach
£20.00
2

Mae’r ffi hon yn cynnwys yr holl driniaethau angenrheidiol sydd wedi’u cynnwys yn y ffi o £20.00 yn ogystal â:

  • llenwadau ychwanegol
  • triniaethau sianel y gwreiddyn
  • tynnu dannedd
  • triniaeth beriodontol (ar gyfer clefyd y deintgig)
£60.00
3

Mae’r ffi hon yn cynnwys yr holl driniaethau angenrheidiol sydd wedi’u cynnwys yn y ffioedd £20.00 a £60.00 yn ogystal â thriniaethau mwy cymhleth fel:

  • coron
  • dannedd gosod
  • pontydd

Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi ei thalu hyd yn oed os oes rhaid ichi ymweld fwy nag unwaith i gwblhau cwrs o driniaeth. 

£260.00

Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi ei thalu hyd yn oed os oes rhaid ichi ymweld fwy nag unwaith i gwblhau cwrs o driniaeth.

Os ydych chi’n cael eich atgyfeirio at ddeintydd arall, un ffi fyddwch chi’n ei thalu o hyd (i’r deintydd sy’n eich atgyfeirio).

Os byddwch angen rhagor o driniaeth ar yr un lefel ffi (e.e. llenwad ychwanegol) o fewn dau fis i weld eich deintydd, bydd y driniaeth hon am ddim.

Bydd cleifion nad oes angen cwrs llawn o driniaeth arnynt, ond sydd angen gofal brys yn hytrach, yn talu un taliad o £30.00. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd yn cynnwys pelydrau-X ac unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch i atal y cyflwr dan sylw rhag dirywio’n sylweddol neu i drin poen difrifol.

Nodwch: Dylech ofyn i’ch deintydd beth fydd cost eich cynllun triniaeth unigol. Efallai y bydd y practis deintyddol yn gofyn ichi dalu cyn dechrau derbyn y driniaeth.

Ni chodir tâl os bydd deintydd yn asesu bod angen rhoi presgripsiwn yn unig, neu os yw’n tynnu pwythau yn dilyn triniaeth flaenorol.

Dylai eich deintydd arddangos poster am ffioedd y GIG yn yr ystafell aros.

Hawlio ad-daliad ar gyfer ffioedd deintyddol y GIG

Defnyddiwch yffurflen hon i hawlio ad-daliad ar gyfer ffioedd deintyddol os oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau gofal iechyd. Defnyddiwch y gwiriwr ar-lein  i weld a ydych yn gymwys.