Neidio i'r prif gynnwy

Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth (MOU)

Ai bedd plentyn i bedd dyfnder sengl yn unig a gynhwysir yn y cytundeb i beidio â chosi tâl?

Nage. Mae'r ffioedd yn cynnwys bedd o unrhyw faint, nid bedd plentyn neu fedd dyfnder sengl yn unig felly mae'n cynnwys beddau sy'n ddigon dwfn ar gyfer claddiadau pellach.

A gawn ni godi tâl ar gyfer oedolion eraill?

Cynhwysir cost gychwynnol palu bedd i'r dyfnder sy'n caniatáu claddiadau pellach yn y cytundeb. Er hynny, gellir codi tâl am gladdiadau yn y dyfodol. Ni châi tâl ei godi am achosion ychwanegol o gladdu plant.

Beth os bydd costau amlosgi a chladdu mae plentyn yn cael ei gladdu wedyn y gweddillion yn cael eu rhoi mewn llain?

Cynhwysir yr holl ffioedd sy'n gysylltiedig â'r amlosgi a'r claddu yn y cytundeb.

Beth os nad yw'r plentyn yn dod o'r ardal?

Pennir cwmpas y cytundeb yn ôl ble mae'r claddu neu amlosgi yn digwydd, yn hytrach nag yn ôl ble'r oedd y plentyn yn byw. Ni fydd yr ardal yr oedd y plentyn yn preswylio ynddi cyn marw yn ystyriaeth gan fod y cytundeb yn seiliedig ar ildio'r ffioedd yn yr holl amgylchiadau (gan gynnwys bod y plentyn “allan o'r wlad”).

A yw'r Hawl Claddu Unigryw yn cael ei hildio?

Ydyw. Hawl Claddu Unigryw (EROB), lle bo ei hangen, yw un o'r ffioedd safonol a gymhwysir gan yr MOU. Mae hawliau unigryw o'r fath yn bodoli ar gyfer y cyfnod safonol a bennir gan y Cyngor. Pan fydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, bydd angen talu am Hawl Claddu Unigryw eto - felly nid yw am ddim am gyfnod amhenodol.

A yw'r MOU yn cwmpasu gweddillion ffetysau?

Ydyw. Er hynny, lle'r ymdrinnir â gweddillion drwy gontract ysbyty ar hyn o bryd y disgwyl yw y byddant yn parhau i wneud hynny. 

Beth am gost hawlen ar gyfer cofeb i carreg bedd?

Cynhwysir hyn o fewn y cytundeb fel un o'r ffioedd safonol y mae awdurdodau claddu yn cytuno i beidio â'u codi.

Os nad yw awdurdod claddu, er enghraifft cyngor cymuned, yn cyflawni'r claddu eu hun a yw hyn yn golygu y bydd angen i'r teulu dalu am y gwasanaeth?

Nac ydyw. Câi palwr y bedd ei ystyried yn “ddarparwr arall” y gwasanaeth perthnasol. Mater i'r awdurdod lleol a'r cyngor cymuned fyddai penderfynu sut y dylid talu'r costau hyn ond mae o fewn cwmpas y cyllid sy'n cael ei gynnig.

A yw'r MOU yn cynnwys costau angladd eraill megis cyfarwyddwyr angladdau, eirch, blodau?

Nac ydyw. Mae'r MOU yn cyfeirio yn unig at ffioedd a godir gan Lywodraeth Leol ar gyfer claddu ac amlosgi, neu ffioedd cyfatebol a godir gan ddarparwyr eraill.

A gaiff teulu hawlio am y costau eraill hynny sy'n gysylltiedig â'r angladd?

Gallai teulu fod yn gymwys am Daliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydynt yn cael rhai budddaliadau.

Gall Taliad Costau Angladd helpu i dalu am deithio i drefnu'r angladd neu i fynd iddo; cost symud y corff yn y DU, os yw'n cael ei symud fwy na 50 milltir; a thystysgrifau marwolaeth neu ddogfennau eraill.

Gall y teulu gael hyd at £1,000 ar gyfer unrhyw gostau angladd eraill, megis ffioedd y cyfarwyddwr angladdau, blodau neu'r arch.

Cyllido

Beth yw diben y cyllid?

Mae Llywodraeth Cymru'n trefnu bod cyllid ar gael i gydnabod goblygiadau ariannol peidio â chodi ffioedd ar gyfer claddu neu amlosgi plant.

Sut y mae'r cyllid yn cael ei ddarparu?

Caiff y cyllid ei dalu i'r holl awdurdodau lleol, ar sail fformiwla sefydledig, trwy grant. Caiff y grant ei dalu mewn ôl-ddyledion ar yr amod y caiff yr amodau grant eu bodloni.

Sut y mae cynghorau cymuned neu ddarparwyr eraill yn cael mynediad i'r cyllid?

Mae'r cyllid yn cael ei ddosbarthu trwy'r awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol yn sefydlu eu trefniadau ariannu eu hunain. Os oes unrhyw gwestiwn neu bryderon dylai darparwyr eraill gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol yn uniongyrchol.

Pa ddarparwyr eraill sy'n gymwys i gael taliad?

Unrhyw ddarparwyr eraill sy'n darparu'r gwasanaethau perthnasol yn yr ardal, sy'n ymdrin â chladdu neu amlosgi'r plentyn ac nad ydynt yn codi tâl yn unol â'r cytundeb i gallai hyn gynnwys darparwyr preifat y gwasanaeth neu gyrff crefyddol.

A ydych yn rhoi gwybod i deuluoedd am y gwasanaeth hwn?

Ddim ymgyrch uniongyrchol er i'r cytundeb gael cyhoeddusrwydd eang. Rydym yn rhagweld y bydd darparwyr yn rhoi gwybod i deuluoedd ar yr adeg y mae trefniadau'n cael eu gwneud i gladdu neu amlosgi plentyn.

Sut y penderfynwyd ar faint y cyllid?

Trwy ddadansoddi costau cyfartalog y ffioedd o dan sylw a chyfanswm nifer y marwolaethau plant mewn blwyddyn.

Sut y mae'r cyllid yn cael ei ddosbarthu?

Trwy fformiwla'r Asesiad o Wariant Safonol; gan adlewyrchu'r dull gweithredu o adnabod costau yn hytrach na thalu symiau gwirioneddol.

Beth yw'r amodau ar gyfer cael y grant?

I grynhoi. Nad yw'r awdurdod lleol yn codi tâl yn unol â'r cytundeb a; bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer rhannu'r cyllid â'r cynghorau cymuned a thref perthnasol, yn ogystal â darparwyr eraill y gwasanaethau perthnasol yn eu hardal sy'n delio â chladdu neu amlosgi plentyn ac nad ydynt yn codi tâl.

Beth a ystyrir yn “swm priodol”?

Mater i'r awdurdod lleol benderfynu arno yw hwn ond fe ddylai fod yn swm teg a rhesymol.

Beth fydd yn digwydd os daw'r cyllid i ben?

Mae’r cyllid yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â chodi tâl ac nid i dalu costau gwirioneddol. Os bydd cyllid yn uwch na lefel y ffioedd sydd wedi'u gwario, yna caiff yr awdurdodau lleol gadw'r gwahaniaeth. Os daw mwy o hawliadau i law oddi wrth ddarparwyr eraill na swm y grant a dderbynnir, yna bydd yr awdurdodau lleol yn talu unrhyw ddiffyg. Dylid rhoi gwybod am unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg fel y gellir ei ystyried ar yr adeg adolygu.

Sut y bydd Lywodraeth Cymru'n monitro'r cyllid grant?

Bydd Llywodraeth Cymru'n chwilio am dystiolaeth bod dwy brif amod y grant yn eu lle. Ni fydd Llywodraeth Cymru'n gofyn am fanylion am gladdiadau gwirioneddol fel rhan o fonitro grantiau gan mai swm penodedig ydyw. Er hynny, mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y mae'r system wedi gweithio yn ymarferol gan y bydd hyn yn llywio'r adolygiad.

Beth fydd yn digwydd os na ddefnyddir yr holl gyllid?

Bydd yr awdurdod lleol yn cael swm penodedig o gyllid waeth beth fo nifer y plant sy'n cael eu claddu neu eu hamlosgi. Os bydd cyllid yn uwch na lefel y ffioedd sydd wedi'u gwario, yna caiff yr awdurdodau lleol gadw'r gwahaniaeth.

Am faint y bydd y cyllid  y cytundeb hwn yn ei le?

Caiff yr MOU ei adolygu cyn y flwyddyn ariannol 2024 i 20205 i ddeall sut y mae'r cytundeb hwn wedi gweithio yn ymarferol.