Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio llety yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Ysgrifennydd yr Economi'n ymateb i ystadegau diweddaraf Defnydd Llety Twristiaeth Cymru sy'n dangos cynnydd yn y lefelau defnyddio yn yr holl gategorïau hyn rhwng Gorffennaf 2016 a Mehefin 2017. 

Y gyfradd defnydd o 68% mewn gwestai oedd yr uchaf oll, gyda chynnydd o un pwynt canran o'i chymharu â'r gyfradd 12 mis yn ôl. 

40% oedd cyfradd defnydd tai llety a llety gwely a brecwast, cynnydd o 2 bwynt canran dros yr un cyfnod.  Yr un pryd, gwelwyd cynnydd o 4 pwynt canran i 56% mewn unedau hunanddarpar a chynnydd o 3 phwynt canran i 52% mewn hosteli. 

Mewn carafanau sefydlog a chartrefi gwyliau y gwelwyd y newid mwyaf mewn cyfraddau defnydd, gyda chynnydd o 12 pwynt canran rhwng Gorffennaf 2016 a Mehefin 2017 i 86%. 

Dywedodd Ken Skates: 

"Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae'r ystadegau defnydd diweddaraf hyn yn dangos bod twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac yn adlewyrchu llwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf. 

“Byddwn yn dal ati gyda'n hymgyrch i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd domestig a thramor i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr tramor a'r rhai sydd am aros yng Nghymru oherwydd y bunt wan.”