Wrth i 2016 ddatblygu yn flwyddyn lwyddianus iawn i beldroed Cymru, mae yna arwyddion bod y diwydiant twristiaeth yn Nghymru hefyd yn parhau a llwyddiant ysgubol y blynyddoedd diwethaf.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos bod nifer yr ymwelwyr dros nos i Gymru o Brydain wedi parhau i godi yn ystod dechrau 2016. Hyd yn oed o gymharu a 2015 pan y daeth mwy o Brydeinwyr nag erioed o’r blaen i Gymru ar eu gwyliau.
Yn y 12 mis hyd at Fawrth 2015 – Chwefror 2016, mae Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn dangos bod nifer y teithiau i Gymru wedi cynyddu 5.5% o gymharu â’r 12 mis blaenorol.
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod yr arian sy’n cael ei wario gan yr ymwelwyr hyn hefyd wedi cynyddu. Mae’r gwariant ar ymweliadau â Chymru yn y 12 mis a ddaw i ben fis Chwefror 2016 wedi codi 12.4% o gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn ôl. Mae hyn yn fwy na’r cynnydd i Brydain gyfan, ble y cododd y gwariant 7% o gymharu â’r un cyfnod yn 2015.
Wedi dychwelyd o Toulouse yn gweld Cymru yn curo Rwsia o 3 -0, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Mae’r ffigurau yma ar gyfer dechrau’r flwyddyn yn newyddion ardderchog i dwristiaeth ac wrth i’n tim cenedlaethol lwyddo i wireddu breuddwydion a gyda’n cefnogwyr yn lysgenhadwyr arbennig i Gymru, rwy’n siwr y gwelwn ddiddordeb o’r newydd yng Nghymru am weddill y flwyddyn.
“Mae’r hyn hefyd yn dangos bod ein strategaeth twristiaeth ar gyfer Cymru yn gweithio ac yn creu yr amodau iawn ar gyfer twf. Mae ffigurau positif ar gyfer dechrau’r flwyddyn yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y bydd y duedd bositif hon yn parhau. Nodwyd bod llawer o hyder ar gyfer y tymor sydd i ddod mewn arolwg o’r diwydiant ar ôl gwyliau’r Pasg, ac rwy’n hyderus bod y diwydiant, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn gwneud cynnydd da. Mae buddsoddi mewn cynnyrch a digwyddiadau arloesol o safon uchel wedi helpu i sicrhau twf ac wedi rhoi rhesymau cryf dros ymweld â Chymru i sawl marchnad darged.”