Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi croesawu ffigurau newydd sy’n dangos lleihad yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ystod 2016.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw [27/04/17] o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn dangos bod oddeutu 8.5% o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yn NEET yn ystod y deuddeg mis a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2016 o’i gymharu â 9.6% ar ddiwedd 2015. Cynrychiola hyn 9,100 o bobl ifanc o’i gymharu â 10,200. 

Yn ystod yr un cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2016, amcangyfrifwyd bod 17.1% o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed (42,000 o bobl) yn NEET, o’i gymharu â 18.6% (46,600) ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2015.

Mae’r ffigurau hefyd yn cynnwys data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyrfa Cymru sy’n dangos bod nifer y disgyblion Blwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol yng Nghymru ac sydd bellach yn NEET hefyd wedi gostwng rhwng 2015 a 2016. 2.0% (619) ohonynt sydd bellach yn NEET o’i gymharu â 2.8% (911) yn 2015.   

Wrth groesawu’r canlyniadau dywedodd y Gweinidog: 

“Mae lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon. Rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod ein polisïau a’n rhaglenni’n parhau i gefnogi anghenion pobl ifanc o safbwynt addysg a chyflogaeth. 

“Er enghraifft, mae ein Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn cefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i roi systemau ar waith er mwyn lleihau nifer y bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yng Nghymru sy’n NEET. Mae adroddiad heddiw’n profi bod ein gwaith yn dwyn ffrwyth.”

Mae nifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru’n helpu pobl ifanc i gael gwaith, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru. Cyllidir Twf Swyddi Cymru gan Gronfa Strwythurol Ewropeaidd ac mae’n cynnig lleoliadau gwaith am chwe mis i bobl ifanc di-waith rhwng 16 a 24 oed.  

Ers lansio’r rhaglen yn 2012 mae bron i 15,000 o swyddi gwag wedi’u llenwi drwy gynllun 1. Roedd 2,365 o swyddi eraill wedi’u llenwi o dan gynllun 2 erbyn mis Mawrth 2017.

Ychwanegodd y Gweinidog: 

"Er ein bod yn parhau’n awyddus i wella’r hyn a ddarparwn er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion a all newid, mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod ein pwyslais ar gefnogi pobl ifanc i fanteisio ar hyfforddiant neu addysg bellach a hefyd ar gyfleoedd gwaith yn talu ar ei ganfed ac yn ein galluogi i gyflawni dros Gymru.”

Gallwch weld y ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma: http://gov.wales/statistics-and-research/young-people-not-education-employment-training/?skip=1&lang=cy