Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan heddiw wedi llongyfarch y rhai sy'n dysgu Cymraeg, wrth i ffigurau ddangos bod 12,680 o bobl wedi cymryd rhan yn y rhaglen Dysgu Cymraeg rhwng mis Awst 2017 a mis Gorffennaf 2018.
Mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr dros 16 oed ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Darperir yr hyfforddiant gan rwydwaith o ddarparwyr dan gontract i'r Ganolfan.
Dyma'r tro cyntaf i ddata a gasglwyd gan yr holl ddysgwyr wrth iddynt gofrestru i gymryd rhan yn y rhaglen Dysgu Cymraeg gael eu cyhoeddi. Bydd o gymorth i Lywodraeth Cymru wrth fesur y cynnydd tuag at y targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn chwarae rhan allweddol i helpu pawb, beth bynnag eu gallu, i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, yn ogystal â darparu cyfleoedd i siaradwyr newydd ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg.
Dywedodd y gweinidog:
Mae'n newyddion ardderchog bod dros 12,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn ystod 2017-18. Rwy' am longyfarch pob un o'r unigolion hynny, naill ai am ddechrau ar y daith i fod yn siaradwr Cymraeg, neu am barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae'r iaith yn rhan bwysig iawn o'n hunaniaeth fel cenedl, ac yn rhywbeth sy'n ein huno. Gall defnyddio ambell air y dydd ein helpu i ddatblygu ein sgiliau ymhellach, a thrwy ddefnyddio mwy ar yr iaith, rydyn ni'n ei hamddiffyn a'i datblygu at y dyfodol. Gyda'n gilydd, gallwn gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
Mae'r Ganolfan yn falch o gyhoeddi'r wybodaeth genedlaethol hon am y tro cyntaf; dyma garreg filltir bwysig wrth i ni gynllunio darpariaeth Dysgu Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni am ddiolch i'r 12,680 o oedolion ledled Cymru aeth ati i ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau cymunedol a gynigiwyd gan y Ganolfan a'i darparwyr cyrsiau yn ystod 2017-18, ynghyd â'u tiwtoriaid ymroddedig.