Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi croesawu gwybodaeth newydd ar berfformiad ysgolion yng Nghymru, sy'n dangos gostyngiad yn nifer yr ysgolion y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ei chyflwyno yn 2014 i bennu'r ysgolion hynny y mae angen cefnogaeth arnynt er mwyn gwella. Mae ysgolion yn cael eu rhoi mewn un o bedwar categori lliw, i ddynodi lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae'r categori ar gyfer pob ysgol wedi'i bennu drwy ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ei data perfformiad a'i gallu i wella mewn meysydd megis arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu. Mae awdurdodau lleol a'u consortia rhanbarthol yn chwarae rôl ganolog yn y broses sy'n sbarduno pecyn arbennig o ran her a chefnogaeth ym mhob ysgol.

O dan y system, mae pedwar categori - gwyrdd, melyn, oren a choch. Ystyrir mai'r gefnogaeth leiaf sydd ei hangen ar ysgolion yn y categori gwyrdd, tra bod ysgolion yn y categori coch wedi'u nodi'n rhai y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt.

Mae'r canlyniadau eleni yn dangos bod gostyngiad yn nifer yr ysgolion yng Nghymru y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt o'i gymharu â'r llynedd. Yn yr un modd, mae mwy o ysgolion sydd wedi'u categoreiddio'n rhai y mae angen lefelau is o gefnogaeth arnynt. I grynhoi:

  • mae cyfran yr ysgolion gwyrdd – y rheini y mae angen y gefnogaeth leiaf arnynt – wedi cynyddu 5 pwynt canran yn y sector cynradd a 7 pwynt canran yn y sector uwchradd.
  • mae cyfran yr ysgolion coch - y rheini sydd wedi'u nodi'n ysgolion y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt - wedi gostwng 1 pwynt canran yn y sector cynradd a 2 bwynt canran yn y sector uwchradd.
  • mae 41 y cant o ysgolion arbennig wedi'u categoreiddio'n ysgolion gwyrdd, sef y categori o ysgolion y mae angen y gefnogaeth leiaf arnynt. Dim ond 8 y cant sydd wedi'u categoreiddio'n ysgolion coch y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

“Nid graddio, labelu na llunio tablau cynghrair amrwd yw nod y system hon ond yn hytrach, mae'n ymwneud â darparu cefnogaeth ac annog ein hysgolion i wella. Mae'n ymwneud â rhoi ysgolion mewn sefyllfa sy'n eu helpu nhw i nodi meysydd y gallant eu gwella a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau gwelliannau pellach.

“Mae'r ffigurau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw yn dangos bod 84.4% o ysgolion cynradd a 64.6% o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn erbyn hyn. Mae'r cynnydd hwn i'w groesawu, a bydd gan yr ysgolion hyn rôl allweddol i'w chwarae er mwyn cefnogi ysgolion eraill, drwy rannu eu sgiliau, eu harbenigedd a'u harferion da. Drwy wneud hyn, byddant yn gwneud cyfraniad allweddol i'n cenhadaeth genedlaethol o ysgogi gwelliannau yn ysgolion Cymru a'n symud ni tuag at system hunanwella.”

Mae categori pob ysgol ar gael ar wefan Fy Ysgol Leol (dolen allanol) a tudalennau addysg y Llywodraeth.