Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi ymweld â dwy fferm yn y gogledd-ddwyrain i weld sut y maent yn elwa ar gymorth Cyswllt Ffermio, sy’n cynnwys cefnogaeth i greu busnes i gyflwyno ffermio i blant ysgol.
Yn ogystal â gweld rhai ŵyn newydd-anedig, clywodd y Gweinidog sut mae cymorth yn helpu'r ffermydd, ym Mangor-is-y-Coed a Llandegla, i wella eu busnes a pharhau i fod yn gystadleuol.
Ym Mangor-is-y-Coed, cyfarfu'r Gweinidog â'r biocemegydd Cheryl Reeves sy'n ffermio menter pesgi ar gyfer cig eidion.
Yn ddiweddar, enillodd Cheryl Wobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd Cyswllt Ffermio ac mae wedi dechrau menter addysgol lwyddiannus, 'Agrication', sy'n cyflwyno ffermio i blant ysgol.
Mae hyn yn golygu ymweld ag ysgolion a chynnal ymweliadau fferm, lledaenu negeseuon am rôl bwysig ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Sefydlwyd system awtomataidd ar gyfer magu lloi ar y fferm hefyd ym mis Mehefin 2019 gyda chymorth Cyswllt Ffermio. Mae gan y system hon y gallu i fagu hyd at 120 o loi mewn un batsh ac mae wedi gwella llif arian busnes, proffidioldeb, ynghyd â llai o godi a chario a llafur.
Mae Cyswllt Ffermio wedi helpu Cheryl i ddatblygu ei sgiliau sydd wedi ei helpu i ddod yn fentor i ffermwyr eraill.
Ar fferm Plas yn Iâl yn Llandegla, esboniodd y ffermwr Huw Beech wrth y Gweinidog y gwaith amaeth-amgylcheddol sy'n cael ei wneud ar y fferm i wella'r ffordd y maent yn rheoli coetiroedd yn gyffredinol.
Mae hyn yn cynnwys asesu hanes a chyflwr y coetir lle plannwyd y rhan fwyaf o'r coed yn ystod y 1800au a'r 1900au, ond sydd wedi’u gadael heb eu rheoli am 65 mlynedd.
Nod y prosiect y mae Huw wedi dechrau arno yw integreiddio cynhyrchu incwm gan wella ac ehangu manteision amgylcheddol a bioamrywiaeth drwy gynyddu gwerth cyfalaf y coetir ar y fferm a darparu manteision lluosog mewn ffordd gost-effeithiol.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Fel llywodraeth, rydym yn ymrwymedig i gynnal a datblygu sector amaethyddol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Cheryl a Huw yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni.
"Yn ddiweddar, cyhoeddais £227miliwn i gefnogi economi wledig Cymru tuag at ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy. Mae Cyswllt Ffermio yn ffactor pwysig wrth ein helpu i gyrraedd ein nodau ac rwy'n falch o lwyddiannau'r rhaglen, gan ddarparu cyrsiau hyfforddi gwerthfawr i fwy na 6,000 o fuddiolwyr. Mae'n amlwg bod ein sector amaethyddol yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth.
"Yng ngoleuni'r heriau parhaus sy'n wynebu'r diwydiant, cadarnhawyd estyniad i Cyswllt Ffermio hyd at fis Mawrth 2023. Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer Rhaglen newydd i sicrhau nad oes bwlch yn y ddarpariaeth."
Dywedodd Cheryl Reeves:
"Mae Cyswllt Ffermio wedi rhoi cymorth hanfodol imi ac wedi fy helpu i feithrin sgiliau newydd a chyffrous.
"Rwy'n angerddol am sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall bwyd a ffermio a dyna pam y dechreuais 'Agrication' ac mae wedi bod yn wych gweld pobl ifanc yn cymryd diddordeb.
"Roeddwn yn falch o allu trafod hyn gyda'r Gweinidog ac roedd yn wych ei dangos o amgylch y fferm."
Dywedodd Huw Beech:
"Rwy'n hynod falch o'r gwaith rydym yn ei wneud yma ar fferm Plas yn Iâl a fydd o fudd i'r busnes yn ogystal â'r amgylchedd.
"Mae Cyswllt Ffermio yn chwarae rhan bwysig yn yr hyn rydym yn anelu at ei gyflawni, ac rwyf am ddiolch iddo am ei gefnogaeth barhaus.
"Roeddwn yn falch iawn o groesawu Lesley Griffiths i'r fferm, egluro'r gwaith sy'n digwydd a thrafod manteision bod yn rhan o Rwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio a'n galluogodd i gynnal prosiect sy'n edrych ar Goedwigaeth Gorchudd Parhaus."