Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi clywed sut mae busnesau fferm yng Ngogledd Cymru yn gweithredu er mwyn fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Ar ymweliad ag Ystad y Rhug ger Corwen, cyfarfu'r Gweinidog â'r perchennog yr Arglwydd Newborough a'i dîm a chlywed am eu prosiect carbon isel arloesol ar gyfer mesur a monitro ôl troed carbon y busnes a chymryd camau i’w liniaru, gan anelu at gyflawni sero net ar draws holl weithrediadau busnes o fewn Rhug.
Yn sgil y ffordd y mae’r tir wedi’i reoli dros yr ugain mlynedd diwethaf, ers i’r fferm droi’n organig, mae llawer iawn o garbon wedi’i atafaelu i’r tir sy’n golygu ei fod yn ystad carbon bositif. Mae’r prosiectau ynni gwyrdd ym maes solar, gwynt, hydro a geothermol a’r gwefryddion EV ar yr ystad wedi cyfrannu’n sylweddol at hyn.
Mae'r ystad yn gweithredu model busnes amrywiol sy'n cynnwys ffermio organig cynaliadwy yn ogystal ag ynni adnewyddadwy, manwerthu, cyfanwerthu ac yn fwy diweddar gofal croen.
Mae'r data maen nhw'n eu casglu yn cael eu defnyddio i addasu rheolaeth garbon.
Siaradodd y tîm am eu nod o gyflawni rhagor o welliannau ym maes arbed carbon a phrosiectau ynni gwyrdd a hefyd am yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.
Yn Ysbyty Ifan, clywodd y Gweinidog am waith y grŵp o 11 o ffermwyr blaengar ar ystad Ysbyty Ifan a’r hyn y maent wedi'i wneud i wella gwydnwch ecosystemau'r ardal, ac yn enwedig ACA Migneint.
Fe wnaethant egluro i'r Gweinidog sut mae cydweithio wedi bod yn hanfodol wrth helpu i gyflawni eu nodau i wella rheolaeth tir a dŵr a chyflawni ecosystemau lluosog ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Mae wedi bod yn wych ymweld a chlywed am y gwaith pwysig sy'n digwydd yn Ystad y Rhug ac yn Ysbyty Ifan i ddatgarboneiddio eu ffermydd a chefnogi ein hamgylchedd.
Byddwn ni, fel llywodraeth, yn parhau i weithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir a'u cefnogi i gwrdd â heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae'n bwysig bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd ar draws ffiniau daearyddol a sectoraidd. Mae cydweithredu yn hanfodol er mwyn llwyddo.