Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddwyd mai dau ffermwr ifanc, Annie James o Sir Gaerfyrddin a Teleri Fielden o Wrecsam, yw cyd-enillwyr Gwobr Goffa Brynle Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Annie James yn rhedeg fferm laeth yn Llandysul, Sir Gaerfyrddin ac mae'n newydd-ddyfodiad i ffermio mewn partneriaeth â'i gŵr, Liam a'i thad, Clive.  Mae Teleri Fielden yn ffermio yn Llyndy Isaf ar hyn o bryd ar ôl cael Ysgoloriaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2017.

Sefydlwyd y wobr flynyddol yn 2011 i gydnabod cyfraniad y diweddar Brynle Williams i amaethyddiaeth yng Nghymru, fel Aelod Cynulliad ac fel ffermwr.  Eleni, mae'r wobr yn dathlu'r hyn a gyflawnwyd gan ffermwyr ifanc sydd wedi rhagori ar fforwm newydd Llywodraeth Cymru, Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth, ac wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad Dyfodol Amaethyddiaeth sy’n cael ei drefnu ganddo ar gyfer mis Medi.

Wrth gyhoeddi'r enillwyr yn Sioe Frenhinol Cymru gyda gweddw Brynle, Mary Williams, wrth ei hochr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:  

"Roedd Brynle yn llawn angerdd am amaethyddiaeth ac yn gweld mai ffermwyr ifanc yw dyfodol y diwydiant. Roedd yn credu, fel fi, ym mhwysigrwydd buddsoddi yn eu dyfodol er mwyn iddyn nhw a'r diwydiant barhau i ffynnu. 

“Bydd Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth yn ein helpu i ddatblygu perthynas hirdymor gyda phobl ifanc sy'n anelu at fod yn uwch arweinwyr y dyfodol ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae hynny'n neilltuol o bwysig wrth inni baratoi ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd a fydd yn ein hwynebu ar ôl Brexit.

"Cafodd holl aelodau'r Fforwm eu hystyried ar gyfer y wobr ac eleni, am y tro cyntaf erioed, dw i wedi penderfynu rhoi'r wobr i ddau sydd wedi dod i'r brig.

“Mae Annie a Teleri ill dwy wedi bod yn aelodau brwd o'r Fforwm, gan rannu eu profiadau personol nhw o ymsefydlu yn y diwydiant gyda'r aelodau eraill. Ond maen nhw hefyd, ar yr un pryd, wedi gwneud cryn gyfraniad i'r trefniadau ar gyfer y digwyddiad Dyfodol Amaethyddiaeth sy'n cael ei drefnu ganddo ar gyfer mis Medi.  Mae'r ddwy yn llawn teilyngu'r wobr, yn fy marn i.

"Hoffwn i longyfarch Annie a Teleri a dymuno pob lwc iddyn nhw yn eu gyrfaoedd ym myd ffermio.”

Yn gynharach eleni, lansiwyd cynllun newydd gwerth £6 miliwn − Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc − i helpu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant. Yn ystod y digwyddiad hwn heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fod 94 o bobl wedi symud ymlaen i'r cam nesaf ac y bydd cyfnod ymgeisio newydd yn dechrau ar 1 Awst, gan ddod i ben ar 29 Awst.  

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Mae denu newydd-ddyfodiaid a phobl ifanc i'r diwydiant wedi bod yn flaenoriaeth imi ers imi ysgwyddo'r rôl hon.  Yn gynharach eleni, lansiais i'n cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc, gan gynnig £6 miliwn o arian refeniw. Mae 94 o bobl wedi bodloni'r holl feini prawf.

"Bydd cyfnod ymgeisio newydd yn dechrau ar 1 Awst a bydd yn agored tan 29 Awst er mwyn inni fedru ymrwymo’r cyllid sydd ar ôl.  Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc gael cryn dipyn o gymorth ariannol i ddechrau'u busnes a hoffwn i annog pawb sy'n meddwl eu bod nhw'n gymwys i gyflwyno cais."