Yn dilyn cadarnhad o achosion newydd o feirws y Tafod Glas yn Lloegr, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi annog ffermwyr i gadw golwg am arwyddion o'r feirws.
Mae'r Tafod Glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai rhywogaethau o wybed sy'n pigo. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas). Nid yw'r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd.
Mae'r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy, a rhaid i bobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.
Mae rhagor o wybodaeth am arwyddion clinigol o'r Tafod Glas a'r camau i'w cymryd ar gael ar ein tudalennau Feirws y Tafod Glas.
Gall yr effeithiau ar anifeiliaid sy'n agored i niwed amrywio'n fawr – ychydig iawn o arwyddion clinigol y mae rhai'n eu dangos, i eraill gall achosi problemau cynhyrchiant fel llai o gynnyrch llaeth neu golledion atgenhedlu, tra yn yr achosion mwyaf difrifol gall fod yn angheuol i anifeiliaid heintiedig.
Gall ffermwyr helpu i atal y clefyd drwy:
- sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol gyda statws iechyd dibynadwy
- cadw at fesurau bioddiogelwch llym ar eu safleoedd
- parhau i fod yn wyliadwrus ac adrodd ynghylch symptomau yn eu da byw
Dylai ceidwaid sy'n ystyried dod ag anifeiliaid neu gynhyrchion biolegol i mewn, er enghraifft deunyddiau cenhedlu, o barthau rheoli clefyd y Tafod Glas neu wledydd eraill yr effeithir arnynt ymgynghori â'u milfeddyg i wirio a ganiateir hyn, a pha risgiau sy'n gysylltiedig â'r weithred hon. Dylid gwneud hyn bob amser cyn penderfynu symud neu fewnforio anifeiliaid.
Dylai fod gan bob busnes gynllun wrth gefn, gan gynnwys eu hymateb i achosion o glefyd ar eu safle, a'u cynnwys mewn parth rheoli clefyd. Dylai cynlluniau wrth gefn gynnwys manylion lle mae anifeiliaid yn cael eu lladd fel arfer i wirio bod lladd-dy wedi'i ddynodi.
Dywedodd Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:
Gan fod y Tafod Glas wedi'i gadarnhau'n ddiweddar yn Lloegr, byddwn yn annog pob ceidwad i weithredu nawr i ddiogelu eu buchesi a'u diadellau a helpu i gadw'r clefyd allan o Gymru. Dylent hefyd fod yn ymwybodol o sut i adnabod y Tafod Glas a rhoi gwybod am unrhyw achosion a amheuir ar unwaith.
Nid yw Cymru erioed wedi cael achos o'r Tafod Glas, ond gyda'r sefyllfa newidiol, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac yn barod ar gyfer y Tafod Glas.
Cynhaliwyd gweithdy i randdeiliaid a gweminar i filfeddygon ar 4 Medi i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd. Rwy'n ddiolchgar i'n holl bartneriaid yn y diwydiant da byw ac mewn practisau milfeddygol am eu cymorth i ledaenu gwybodaeth am y Tafod Glas ac am barhau i gadw gwyliadwriaeth am y clefyd hwn.
Yn dilyn penderfyniad DEFRA i ganiatáu'r defnydd brys o frechlyn BTV-3 anawdurdodedig, o dan drwydded, mewn ardaloedd risg uchel yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu'n agos â'r sectorau milfeddygol a da byw ac yn ystyried rôl brechu yn y dyfodol yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw amheuon fod y Tafod Glas ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith. Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar y sefyllfa bresennol o ran y Tafod Glas hefyd ar gael ar wefan Ruminant Health & Welfare.