Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl i firws y Tafod Glas cael ei ganfod mewn gwartheg a fewnforiwyd i'r Alban a Lloegr, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi atgoffa ffermwyr Cymru am beryglon y clefyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Canfuwyd y firws mewn nifer o wartheg a fewnforiwyd o Ffrainc yn ystod yr archwiliadau arferol a gynhelir ar ôl i dda byw gael eu mewnforio. 

Llwyddodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i ganfod yr anifeiliaid heintus drwy'r drefn cynnal profion ar ôl mewnforio.

Mae camau'n cael eu cymryd i sicrhau na fydd y clefyd yn lledaenu. Mae APHA yn cydweithio'n agos â cheidwaid y da byw o dan sylw er mwyn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn ddi-oed i atal y clefyd rhag lledaenu. Mae cyfyngiadau symud ar y safleoedd yr effeithiwyd arnynt, cyflwynwyd camau wedi'u targedu i gadw golwg am achosion o'r clefyd a, lle bo angen, bydd anifeiliaid yn cael eu difa heb boen.  

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

"Ar ôl i firws y Tafod Glas gael ei ganfod mewn gwartheg a fewnforiwyd, hoffwn i atgoffa ffermwyr Cymru i fod yn wyliadwrus ac i gadw golwg am arwyddion o'r clefyd. 

"Nid yw'r Tafod Glas yn fygythiad i iechyd pobl nac i ddiogelwch bwyd, ond mae'n gallu cael effaith ddifrifol ar y ffermydd y mae'n effeithio arnyn nhw. Hoffwn i ofyn i ffermwyr ystyried yn ofalus iawn y risgiau sy'n gysylltiedig â dod ag anifeiliaid o ardaloedd y mae'r clefyd yn effeithio arnyn nhw i mewn i'w buchesi.

"Mae'n galondid gweld bod y trefniadau cadarn sydd gennym yn y DU i gadw gwyliadwriaeth am glefydau wedi gweithio, ond mae'r ffaith ein bod wedi canfod achosion o'r clefyd yn atgoffa ffermwyr mewn ffordd amserol iawn fod angen iddyn nhw barhau i fod yn wyliadwrus."