Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau y bydd Ffermio Cynaliadwy yn parhau i fod yn rhan ganolog o ddyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir a gynhaliwyd y llynedd lle y cafwyd dros 3,300 o ymatebion. Cynigiodd yr ymgynghoriad y dylai cymorth yn y dyfodol gefnogi a gwobrwyo ffermwyr sy’n gweithredu systemau ffermio cynaliadwy ac sy’n gwarchod ac yn gwella ein hamgylchedd.

Mae amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu cwmpas eang y cynigion ac ar ôl eu hystyried yn ofalus, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau heddiw y bydd cynllun cymorth amaethyddol yn y dyfodol yn cael ei ddatblygu ar sail fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Yn ystod diweddariad i’r Senedd, nododd y Gweinidog y camau nesaf yn y broses o ddatblygu cymorth ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:

  • ymgymryd ag amrywiaeth o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o gynllun cymorth incwm sy’n seiliedig ar hawl i gynllun gwirfoddol sy’n gwobrwyo’r gallu i gynhyrchu canlyniadau. Bydd yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf ac ni fydd penderfyniad ar gynllun ar gyfer y dyfodol yn cael ei wneud heb ystyried y dadansoddiadau hyn;
  • bydd cyfnod pontio yn galluogi ffermwyr i addasu eu hanghenion busnes presennol i gyflawni unrhyw newidiadau sy’n ofynnol gan y cynllun arfaethedig; a
  • chyhoeddi Papur Gwyn cyn diwedd y tymor hwn, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ystod chweched tymor y Senedd.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae ein cynigion yn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn darparu ffrwd incwm bwysig ar gyfer ffermwyr, gan gydnabod y gwaith pwysig y maent yn ei wneud o ran sicrhau canlyniadau amgylcheddol a’u gwobrwyo amdanynt. Rydym hefyd yn bwriadu atgyfnerthu cystadleurwydd hirdymor y sector drwy gyngor a chymorth busnes gwell a fydd yn helpu ffermwyr drwy’r realiti economaidd newydd yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

“Rwy’n falch i gadarnhau heddiw, yn dilyn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, y byddwn yn parhau i ddatblygu system cymorth amaethyddol ar gyfer y dyfodol sy’n seiliedig ar Reoli Tir yn Gynaliadwy.

“Wrth wneud hynny, gallwn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, sicrhau safonau uchel ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid a diogelu ein hadnoddau naturiol. Bydd bwyd a gynhyrchir drwy’r system hon yn gynaliadwy a bydd hynny’n sicrhau cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i drafod gyda chynrychiolwyr y sector a’r diwydiant ar ddatblygiad parhaus y cynigion hyn ar gyfer y Papur Gwyn, gan baratoi’r ffordd ar gyfer Bil Amaethyddiaeth. Bydd y Bil hwn yn nodi fframwaith cymorth a all ategu datblygiad amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru dros y pymtheng i ugain mlynedd nesaf. Bydd y Bil yn galluogi ffermwyr i gael cymorth ariannol ac yn cyflwyno system reoleiddio gyson a theg ar gyfer y sector amaethyddol.”

I sicrhau bod ffermwyr yn cael cymorth yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, cadarnhaodd y Gweinidog hefyd gynlluniau i lansio ymgynghoriad yn ystod yr haf i geisio barn ar gadw a symleiddio’r rheolau ynghylch cymorth amaethyddol i ffermwyr a’r economi wledig. Bydda’r cymorth hwn yn pontio’r bwlch rhwng cyllid cyfredol yr UE ac unrhyw gynllun newydd sy’n seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb ar draws y byd ac mae ffermwyr Cymru wedi dioddef o’r amgylchiadau diweddar hefyd. Rwy’n falch o’r cadernid y maent wedi’i ddangos wrth ymateb i’r anawsterau hynny.

“Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill yn chwarae rhan hollbwysig i sicrhau llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i’w cefnogi i addasu i’r newidiadau economaidd yn ogystal ag effaith y newid yn yr hinsawdd.”