Ffermio Bro - Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig (Cam 1): llyfryn rheolau
Yn esbonio'r cynllun Ffermio Bro - Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig a phwy sy'n gymwys iddo.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond gan weithredu hefyd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig trwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’):
- cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
- lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd
- cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu, a
- cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd
Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau sy’n cael eu datblygu ar gael yn Grantiau a thaliadau gwledig | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd hyn yn esbonio’r cynllun Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig (Ffermio Bro) a’r math o brosiectau a allai fod yn gymwys i gael cymorth. Darllenwch nhw’n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai’ch cynlluniau fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler ‘Sut i Wneud Cais’ yn adran C a’r llyfryn Sut i Gwblhau.
Adran A: Cyflwyniad
Mae ein Tirweddau Dynodedig (Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol) [1] yn arbennig ac unigryw ac mae angen eu rheoli, eu gwella a’u diogelu gan gefnogi’r ffermwyr a’r cymunedau sy’n gweithio ynddynt.
Datblygwyd Ffermio Bro er mwyn:
- Darparu buddsoddiad ychwanegol yn ein Tirweddau Dynodedig i alluogi ffermwyr i weithio mewn partneriaeth â chyrff rheoli i sicrhau canlyniadau mwy a gwell i’r amgylchedd, pobl a chymunedau.
- Ymgorffori cymhellion i integreiddio arferion ffermio cadarnhaol â dibenion Tirweddau Dynodedig, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng y cyrff sy’n gyfrifol am reoli’r tirweddau hyn a’r rhai sy’n rheoli ac yn ffermio’r tir. Mae hwn yn gyfle i gyrff Tirweddau Dynodedig, ffermwyr ac eraill weithio’n well gyda’i gilydd, gan arwain gwaith ar lefel tirwedd unigol a datblygu perthnasoedd sy’n bodoli eisoes.
- Dangos yr hyn y gall cyrff Tirweddau Dynodedig ei gyflawni trwy hwyluso cyflawni ar y cyd. Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i gyrff Tirweddau Dynodedig gydweithio a rhannu gwersi, a deall, trwy werthuso, pa ymyriadau sy’n gweithio orau mewn gwahanol leoedd a pham. Bydd yn eu galluogi i brofi dulliau newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn targedu adfer natur ar raddfa tirwedd.
- Cefnogi cyflawni’r ymrwymiad i ddiogelu 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030 (30x30), a
- Llywio haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Cyflawnir y rhaglen gan ffermwyr, yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff Tirweddau Dynodedig. Y cyrff a’r ffermwyr sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu eu tirweddau a’u cymunedau.
Er bod y cynllun ar wahân i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio elfen gydweithredol y cynllun hwn yn ystod y cyfnod interim. Mae’r cynllun yn rhan o gam paratoadol o weithgareddau a allai arwain at brosiectau cydweithredol yn barod i gymryd rhan yn haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bydd y cynllun yn cynnwys prosiectau cydweithredol amgylcheddol, adfer natur a lliniaru hinsawdd ar nifer o ffermydd, gyda’r prosiectau hyn hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ddarganfod, mwynhau a deall y tirweddau gan gynnwys eu treftadaeth ddiwylliannol.
Bydd ystod eang o brosiectau yn gymwys i dderbyn cyllid ar yr amod eu bod yn bodloni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy, y canllawiau a ddarperir a blaenoriaethau cynllun rheoli corff Tirwedd Ddynodedig.
Mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi ymrwymo i warchod 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030 (30x30), i gefnogi’r targed 30x30 byd-eang y cytunwyd arno yn Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) yn 2022. Pwyslais Ffermio Bro fydd helpu i gyflawni 30x30 trwy ganolbwyntio ar brosiectau sy’n gwella gwytnwch ecosystemau. Bydd hyn yn cynnwys camau sy’n cryfhau ac yn gwella cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol, gan wella cysylltedd cynefinoedd lled-naturiol, eu graddfa, eu gallu i addasu neu eu hamrywiaeth, a chryfhau gwytnwch rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru trwy weithio ar raddfa tirwedd i wella cysylltedd a chyflwr.
Fel rhan o’r gwaith hwn, gall y cynllun hefyd ddarparu cyllid ar gyfer gweithredu atebion ar sail natur, gan wella priddoedd cyfoethog mewn carbon fel mawndir, plannu coed, rheoli coetir ac adfywio naturiol, gweithredu dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltiad y cyhoedd a diogelu tirweddau a nodweddion hanesyddol.
Fel cynllun sydd â’r nod o gefnogi’r diwydiant amaethyddol, bydd yn ofynnol i Ffermio Bro weithio tuag at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
Bydd y Rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff Tirweddau Dynodedig wneud cais am gyllid i Lywodraeth Cymru/RPW hyd at gyfanswm y cytunir arno gyda chyrff Tirweddau Dynodedig. Ni ddylai ffermwyr wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ond yn hytrach wneud cais am gyllid i’r corff Tirwedd Ddynodedig lleol sy’n rheoli’r cynllun mewn perthynas â thirweddau penodol.
Bydd angen i gyrff egluro sut bydd y rhaglen yn cefnogi amcanion y cynllun, gan gynnwys cydweithio, sut y bydd y gweithgaredd yn integreiddio â’u cynllun rheoli a strategaethau eraill, a gwytnwch ecosystemau.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, rhaid i chi allu cwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2026.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.
Mae’r Tirweddau Dynodedig yn cynnwys 3 Pharc Cenedlaethol a 5 Tirwedd Genedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol). Maent yn gorchuddio 24% o Gymru.
Adran B: camau’r cynllun a gweithgareddau allweddol
Mae’r broses ymgeisio ar gyfer Ffermio Bro yn 2025-26 yn digwydd mewn dau gam.
- Cam 1: 10 – 28 Mawrth 2025. Rhaid i’r corff rheoli Tirwedd Ddynodedig sy’n arwain gwaith cyflawni lleol gyflwyno cais yn ystod y cyfnod hwn trwy RPW Ar-lein, gan amlinellu sut byddan nhw’n cyflawni amcanion cyffredinol y cynllun. Bydd y cais yn cael ei werthuso ac, os bydd yn llwyddiannus, bydd y corff yn cael cynnig cyllid hyd at y dyraniad y cytunwyd arno ar gyfer y corff hwnnw.
- Cam 2: [Mehefin-Rhagfyr].
- Bydd cyrff yn gwahodd ceisiadau ac yn eu hasesu, ac yna’n gwneud dyfarniad i’r ffermwr.
- Yr unig fanylion sydd angen i gyrff eu darparu yw Cyfeirnod Cwsmer y ffermydd y maen nhw wedi dyfarnu cyllid iddyn nhw trwy RPW Ar-lein. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cynnwys y rhain ar gynnig grant diwygiedig (ni fydd angen i gyrff Tirweddau Dynodedig wneud unrhyw beth).
- Ni fydd angen cymeradwyaeth gan RPW cyn i’r cyrff Tirweddau Dynodedig ddechrau ar eu gwaith. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar y cyrff hyn i sicrhau nad oes unrhyw gyllid dwbl. Bydd angen i’r cyrff gadarnhau hyn trwy drafod â’r ffermwr, a dylai’r ffermwr ddarparu gwarant/ymwadiad ysgrifenedig yn eu cais am grant neu ffurflen dderbyn. Os nad yw’r corff Tirwedd Ddynodedig yn gallu cadarnhau a oes cyllid dwbl wedi digwydd, mae’n bosibl y bydd RPW yn gallu cynnal gwiriadau ar sail eithriadol.
- Ni fydd angen i’r corff Tirwedd Ddynodedig hysbysu RPW am amrywiadau ffurfiol yn y gwaith a gyflawnir.
- Gall cyrff Tirweddau Dynodedig ddarparu Cyfeirnodau Cwsmer i RPW ar unrhyw adeg rhwng Mehefin/Gorffennaf 2025 a’r dyddiad cau (12/12/2025). Cynghorir cyrff i gyflwyno’r rhain mewn sypiau, er enghraifft ar ôl i Banel Asesu Lleol gyfarfod a gwneud cyfres o ddyfarniadau cyllid. Bydd canllawiau ar ddarparu’r data hwn yn cael eu darparu i gyrff.
- Cam 3:
- Rhaid i gyrff hawlio arian trwy RPW Ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Dim ond pan fydd prosiectau wedi’u cwblhau’n foddhaol y gallwch wneud cais am gyllid.
- Rhaid i chi gwblhau proffil cyflawni chwarterol fel rhan o’ch dyfarniad grant, a’i ddiweddaru yn ôl yr angen yn ystod y flwyddyn. Rhaid cynnwys dogfennau ategol gydag unrhyw hawliad:
- Ar gyfer staff cyflogedig, bydd angen i chi ddarparu taenlen o bobl, eu tâl fesul awr ac oriau a weithiwyd yn y cyfnod hawlio. Rhaid i’r Cyrff gadw tystiolaeth o daliadau, yn ogystal â’r dystiolaeth a chyfrifiad cefndir i gefnogi cyfrifo’r tâl fesul awr.
- Ar gyfer pob Cyfeirnod Cwsmer, bydd RPW yn darparu map o’r holl dir sydd wedi’i gofrestru i’r Cyfeirnod Cwsmer hwnnw o fewn y ffurflen hawlio er mwyn i’r corff Tirwedd Ddynodedig fapio, lle bo hynny’n berthnasol, y camau gweithredu y darparwyd cyllid ar eu cyfer.
Mae angen i nifer o weithgareddau allweddol ddigwydd i sicrhau bod y cynllun yn cael ei reoli’n effeithiol yn genedlaethol ac yn lleol, a bod amcanion y cynllun yn cael eu cyflawni.
Cyn Cam 1, rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig:
- Wneud trefniadau mewnol i reoli’r cynllun, gan gynnwys cynllunio ar gyfer unrhyw recriwtio trwy broses deg ac agored.
- Trafod amcanion y cynllun gyda rhanddeiliaid lleol.
Rhwng Cam 1 a Cham 2, rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig:
- Benodi cynghorydd cynllun Ffermio Bro i gefnogi cyflawni lleol.
- Hyrwyddo’r cynllun a chefnogi ffermwyr i gydweithio.
- Cynghori ar gamau gweithredu cymwys a helpu ffermwyr i ddatblygu prosiectau cydweithredol.
- Gyda chefnogaeth Panel Asesu Lleol, penderfynu pa brosiectau y dylid eu cefnogi trwy’r cynllun.
Ar ôl Cam 2, bydd cyrff Tirweddau Dynodedig yn:
- Cynghori ffermwyr am eu dyraniadau a darparu cynnig o gyllid gan gynnwys yr awdurdod i RPW ddarparu mapiau fferm i’r corff eu cwblhau trwy Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein.
- Cefnogi ffermwyr i gyflawni’r prosiectau y cytunwyd arnynt.
- Monitro cyflawni a sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau grant a meini prawf y cynllun.
- Casglu gwybodaeth am y prosiectau a gefnogir a’u darparu i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Taliadau Gwledig Cymru, Rheolwr y Rhaglen, ac eraill lle mae cytundeb.
Gellir dod o hyd i fanylion am sut i ymgeisio yn: Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig (cam 1): defnyddio RPW Ar-lein i wneud cais | LLYW.CYMRU.
Asesu
Bydd cyrff Tirweddau Dynodedig yn rhedeg ffenestr neu ffenestri i ffermwyr a rheolwyr tir yn eu hardaloedd allu gwneud cais am arian grant trwy geisiadau prosiect. Bydd y broses ymgeisio yn gystadleuol, gydag ymgeiswyr yn cael eu hasesu’n rheolaidd drwy gydol y ffenestr. Bydd prosiectau sy’n sgorio’n uchel yn erbyn cyfres o feini prawf cyson ar draws yr holl gyrff Tirweddau Dynodedig yn cael cynnig cytundeb.
Pan fydd cais fferm unigol yn llai na £10,000, bydd y corff Tirwedd Ddynodedig ei hun yn cynnal yr asesiad. Pan fydd uwchben y trothwy hwn, bydd y prosiect yn cael ei asesu gan Baneli Asesu lleol, a gynhelir yn rheolaidd trwy gydol y ffenestr ymgeisio.
Gellir cynnull y paneli wyneb yn wyneb neu’n rhithwir, yn ôl disgresiwn y tîm arweiniol. Pan fydd prosiect yn mynd gerbron y panel, bydd y swyddog rhaglen sy’n cynrychioli pob Tirwedd Ddynodedig yn gwneud dyfarniad cychwynnol ar geisiadau cyn i’r Panel eu hystyried. Bydd hyn yn golygu bod gan bob cais sgôr gychwynnol cyn dod gerbron y Panel.
Bydd Paneli Asesu Lleol hefyd yn cael cofnod o’r holl benderfyniadau cyllido a wnaed sydd o dan y trothwy £10,000.
Dylai paneli gynnwys cynrychiolwyr o’r corff Tirwedd Ddynodedig perthnasol, y gymuned ffermio a chyrff cadwraeth. Dylid gwahodd cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn bresennol hefyd.
Bydd Paneli Asesu Lleol yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu ceisiadau: mater i’w benderfynu’n lleol gan y corff perthnasol fydd pa mor aml. Gall cyrff weithio gyda’i gilydd lle bo hynny’n briodol i ddatblygu Paneli Asesu Lleol ar y cyd er gallai rhannu adnoddau sicrhau effeithlonrwydd, gweddu’n well i broblemau capasiti a chynnig cyfleoedd ar gyfer rhannu gwersi ac arbenigedd. Os oes panel dyfarnu grantiau eisoes ar waith (e.e. panel Cronfa Datblygu Cynaliadwy), gellid ystyried cyfuno paneli i greu un panel grantiau unigol, ar yr amod bod yr aelodau’n meddu ar y profiad a’r sgiliau gofynnol.
Bydd Rheolwr y Rhaglen yn darparu canllawiau llawn ar benodi a chynnal Paneli Asesu Lleol. Byddan nhw hefyd yn cynnwys y meini prawf asesu a’r Cylch Gorchwyl.
Cyflawni prosiectau
Dyrennir cyllid grant cyfalaf ar gyfer cyflawni gwaith ar ffermydd ym mhob un o’r Tirweddau Dynodedig yn unol â fformiwla y cytunwyd arni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai cyrff Tirweddau Dynodedig yn penderfynu cydweithio’n ffurfiol trwy ganiatáu i gorff Tirwedd Ddynodedig arall reoli’r gwaith cyflawni ar ei ran. Bydd taliad yn cael ei wneud i’r corff arweiniol yn unig yn yr achosion hynny. Unwaith y bydd cyrff wedi penderfynu pa gorff Tirwedd Ddynodedig fydd yn arwain pob rhaglen leol, a Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am y trefniadau hynny, bydd uchafswm dyraniadau i bob corff yn cael ei bennu’n derfynol.
Bydd cyllid grant refeniw hefyd yn cael ei ddyrannu i alluogi recriwtio cynghorwyr y cynllun Ffermio Bro mewn cyrff Tirweddau Dynodedig arweiniol. Bydd canllawiau’n cael eu darparu i gyrff ar recriwtio, gan gynnwys templedi disgrifiadau swydd.
Nid yw costau refeniw eraill yn gymwys o dan geisiadau a wneir trwy RPW Ar-lein. Fodd bynnag, bydd Rheolwr y Rhaglen yn darparu ac yn cefnogi hyfforddiant cenedlaethol a lleol i gynghorwyr Ffermio Bro, staff cyrff Tirweddau Dynodedig sy’n cefnogi’r cynllun, aelodau’r Panel Asesu Lleol, ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.
Gall y cynllun gynnwys gweithgareddau sy’n gymwys o dan gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, ar yr amod nad ydynt eisoes yn cael eu hariannu gan y cynlluniau neu’r rhaglenni hynny – ac eithrio creu coetir ac adfer mawndir. Dylid cyfeirio’r gweithgareddau hyn at y cynlluniau perthnasol, a bydd canllawiau’n cael eu darparu i’r cyrff.
Ni all prosiect sy’n cael ei ariannu gan Ffermio Bro dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau neu waith sydd eisoes yn derbyn arian grant trwy gynlluniau neu raglenni eraill sy’n cael eu darparu ar gyfer neu ar ran Llywodraeth Cymru neu unrhyw ddarparwyr cyllid eraill.
Bydd unrhyw geisiadau neu hawliadau ar gyfer gweithgareddau a fyddai’n gymwys o dan gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru yn amodol ar gymhwystra, cyfraddau cyllido a thelerau ac amodau’r cynlluniau hynny.
Bydd prosiectau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd trwy gydol y cam cyflawni er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni yn unol â’r amserlen ac o fewn y gyllideb, eu bod yn cyflawni’r camau a’r allbynnau disgwyliedig, a’u bod yn cynnig gwerth da am arian. Os gwelir nad yw prosiectau yn cyflawni’n effeithiol, bydd cyllid grant prosiect mewn perygl. Hefyd, bydd prosiectau’n cael eu hadolygu i asesu unrhyw effaith ar weithgareddau prosiect sy’n deillio o newidiadau posibl neu i reoliadau neu gynlluniau.
Fel arfer, bydd yr arian yn cael ei dalu ar ffurf ôl-daliadau (h.y. ar ôl i dderbynnydd y grant wario’r arian).
Adran C: cymhwystra ar gyfer y cynllun
Cymhwystra corff arweiniol/ymgeisydd
I wneud cais am gyllid trwy RPW Ar-lein, rhaid i chi fod yn gorff rheoli Tirwedd Ddynodedig yng Nghymru neu fod â chyfrifoldeb rheoli am Dirwedd Ddynodedig yng Nghymru. Gallai hyn fod naill ai’n Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n dîm Tirwedd Cenedlaethol ynghlwm wrth Awdurdod Lleol. Ni ddylai ffermwyr wneud cais yn uniongyrchol am y cynllun hwn i Ffermio Bro.
Os ydych yn cydweithio â chorff rheoli Tirwedd Ddynodedig arall i reoli Ffermio Bro mewn mwy nag un Dirwedd Ddynodedig, rhaid cytuno ar hyn ymlaen llaw gyda thîm polisi Llywodraeth Cymru a Rheolwr y Rhaglen. Os na, ni allwch barhau â’r cais.
Rhaid i gyrff gynnull Panel Asesu Lleol.
Cymhwystra Ffermwr/Rheolwr Tir
Mae’r adrannau canlynol yn rhoi manylion cymhwystra ymgeiswyr i’r corff rheoli Tirwedd Ddynodedig.
Rhaid i bob ymgeisydd fod ynghlwm wrth weithgarwch amaethyddol. Diffinnir gweithgarwch amaethyddol fel:
- cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion amaethyddol, gan gynnwys cynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio a gweithredu.
- cadw tir amaethyddol mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer ei bori neu ei drin ond heb ei baratoi yn fwy na thrwy ddulliau neu â pheiriannau amaethyddol arferol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu rheoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd.
- cynnal gweithgarwch sy’n bodloni gofynion sylfaenol ar dir amaethyddol sy’n cael ei gadw’n naturiol mewn cyflwr addas ar gyfer ei bori neu ei drin. Yng Nghymru, morfeydd heli a thwyni tywod yw’r rheini. Rhaid ichi o leiaf bori’r tir hwn gyda 0.01 i 0.05 uned da byw yr hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, neu reoli chwyn estron goresgynnol a phrysgwydd.
Bydd angen i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf canlynol wrth wneud cais i’r corff Tirwedd Ddynodedig ar gyfer y cynllun:
- Rhaid i bob prosiect gyflawni’r amcan canlynol o blith prif amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu.
- Bydd prosiectau’n cael eu hatgyfnerthu trwy gyflawni o leiaf un o’r 3 canlyniad Rheoli Tir yn Gynaliadwy, sef:
- Lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd
- Cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy
- Cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd
- Dylai timau Tirweddau Dynodedig flaenoriaethu prosiectau sy’n galluogi a chefnogi grwpiau o ffermwyr neu glystyrau o ffermydd sy’n bodoli eisoes a rhai newydd i ddatblygu prosiectau cydweithredol sy’n darparu canlyniadau ecosystemau a chanlyniadau eraill ar raddfa tirwedd. Mae mwy o wybodaeth am gydweithio ar gael isod.
- Gan na fydd elfen Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwbl weithredol erbyn dechrau’r cynllun hwn, ni fydd yn orfodol i bob ymgeisydd fod yn y cynllun hwnnw eisoes yn 2025-26. Bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus; hwyrach y bydd angen cyflwyno gofyniad ym mlynyddoedd nesaf y rhaglen.
Cydweithio
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â ffermwyr a rheolwyr tir eraill o fewn Tirwedd Ddynodedig. Cyrff Tirweddau Dynodedig a’r ffermwyr sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hynny sy’n deall orau y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu eu tirweddau a’u cymunedau. Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i gyrff Tirweddau Dynodedig a ffermwyr gydweithio’n well, gan arwain gwaith ar lefel tirwedd unigol a datblygu perthnasoedd sy’n bodoli eisoes.
Ym Mlwyddyn 1, dylai timau Tirwedd Ddynodedig flaenoriaethu prosiectau sy’n galluogi a chefnogi grwpiau o ffermwyr i gyflawni canlyniadau ar gyfer ecosystemau a chanlyniadau eraill ar raddfa tirwedd, er bod yn rhaid i ffermwyr wneud cais yn unigol i’r corff Tirwedd Ddynodedig am eu rhan yn y prosiect ehangach. Bydd y corff Tirwedd Ddynodedig lleol yn hwyluso hyn trwy nodi ei flaenoriaethau lleol ar gyfer gweithredu a thrwy ddull wedi’i dargedu, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaethau neu grwpiau o ffermwyr sy’n bodoli eisoes.
Ym Mlwyddyn 1, ni fydd yn orfodol i holl ymgeiswyr y cynllun fod yn rhan o brosiect tirwedd ehangach, yn enwedig os yw’r prosiect arfaethedig yn gallu dangos ei fod yn cyfrannu at wytnwch ecosystemau ar raddfa. Bydd hyn yn cael ei adolygu cyn i Flwyddyn 2 ddechrau, gyda disgwyliad y bydd y cyfan neu’r rhan fwyaf o wariant erbyn Blwyddyn 2 yn cael ei dargedu at brosiectau sy’n cyflawni newid ehangach ar raddfa tirwedd.
Bydd angen i bob ffermwr sy’n rhan o gynllun cydweithredol wneud cais am ei elfen o’r prosiect i’r corff Tirwedd Ddynodedig perthnasol.
Efallai y bydd angen cytundeb ffurfiol rhwng partïon mewn rhai achosion, gyda’r cyrff yn cael canllawiau uniongyrchol ynghylch hynny. Fodd bynnag, mater i’r corff Tirwedd Ddynodedig, nid Llywodraeth Cymru/RPW, fydd deall a rheoli’r risg, os yw hyn yn ddigonol, yn dal dŵr ac yn cynnig sicrwydd i’r corff a’r holl fuddiolwyr arfaethedig.
Rhaid i bob ffermwr unigol fod wedi cofrestru ag RPW ac wedi derbyn Cyfeirnod Cwsmer. Mae manylion ar gyfer cofrestru gydag RPW ar gael yma.
Tir cymwys
Mae’n rhaid i’r holl dir fod yng Nghymru.
Mae’n rhaid i’r busnesau fferm fod wedi cofrestru eu tir gydag RPW.
Er mwyn derbyn cyllid gan gyrff Tirweddau Dynodedig, rhaid i ffermwyr unigol fod ag o leiaf 3 hectar o dir amaethyddol cymwys wedi’i gofrestru gydag RPW yng Nghymru neu yn gallu dangos dros 550 o oriau llafur safonol.
Bydd pob math o dir yn gymwys ar gyfer camau arfaethedig, gan gynnwys tir comin a phori ar y cyd.
Mae tir sydd eisoes yn rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol, neu unrhyw gytundeb/dyfarniad grant arall ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, yn gymwys i fod yn rhan o brosiect cydweithredol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw weithgareddau neu brosesau rheoli a gynigir ragori ar y gofynion yn y cytundebau/dyfarniadau grant presennol.
Ym Mlwyddyn 1, gall cyrff Tirweddau Dynodedig ddewis peidio ag ariannu unrhyw weithgaredd arfaethedig sydd â’r potensial i effeithio ar safle gwarchodedig neu sydd fel arall angen cydsyniad, caniatâd a thrwyddedau. Yn ogystal â chydsyniad SoDdGA, gallai’r rhain gynnwys cydsyniad Heneb Gofrestredig, cydsyniad cwrs dŵr arferol a gofynion eraill. Gall y gofynion hyn achosi oedi i gyflawni prosiectau. Fodd bynnag, gall cyrff Tirweddau Dynodedig ariannu gweithgarwch o’r fath lle mae’r gofynion hyn ar waith a chyn belled â’u bod yn dal i gydymffurfio â chais y cynllun a dyddiadau cau hawlio, ond dylent fod yn ymwybodol o’r risgiau cynhenid.
Gall cyrff wirio os yw tir yn cynnwys safle gwarchodedig, neu’n ffinio â safle o’r fath, yn Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig (ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru). Bydd y gweithgaredd arfaethedig a’r math o ddynodiad yn penderfynu â phwy y bydd angen cysylltu a pha gydsyniad neu ganiatâd sydd ei angen. Os yw cynigion y prosiect ar dir dynodedig, rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod yr ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth o ymgysylltu neu ohebiaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhaid i’r holl dir sy’n rhan o’r cynllun arfaethedig fod o dan reolaeth y partneriaid sy’n cydweithio. Rhaid i bartneriaid sy’n cydweithio gael rheolaeth lawn a sicrwydd deiliadaeth dros y tir yn eich cais am gyfnod llawn y cynigion. Os nad oes ganddynt reolaeth lawn dros y tir, rhaid iddynt gael cydsyniad ysgrifenedig yr holl bartïon eraill sydd â rheolaeth dros y tir a chynnwys tystiolaeth o gymeradwyaeth gyda’r cais (neu gael cydlofnod ar y cais gan y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr, y landlord neu’r corff perthnasol) i’r corff Tirwedd Ddynodedig.
Os yw prosiect yn cynnwys tir ym meddiant un neu fwy o ffermwyr tenant, dylid darparu tystiolaeth sy’n dangos bod ffermwyr tenant wedi cael eu cynnwys o’u gwirfodd yn y broses o gydweithio a gwneud penderfyniadau heb newidiadau i’w hawliau tenantiaeth na’u cytundebau yn groes i’w hewyllys.
Tir comin
Dylai cyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod unrhyw geisiadau am weithgaredd ar dir comin yn cael eu cefnogi gan gydsyniad ysgrifenedig y tirfeddiannwr ar gyfer unrhyw gamau gweithredu sy’n wahanol i’r hawliau cofrestredig dros ardal y tir comin dan sylw. Awgrymir hefyd yr angen i nodi’n glir pa gamau gweithredu sydd angen cydsyniad ffurfiol o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006 neu ddeddfwriaeth berthnasol arall, ynghyd â’r camau gweithredu nad oes angen cydsyniad ffurfiol ar eu cyfer. Os oes angen cydsyniad ffurfiol, dylai’r ymgeisydd nodi pa gydsyniad sydd ei angen a’r amserlen debygol i sicrhau’r caniatâd angenrheidiol.
Os nad yw ceisiadau ar dir comin yn cynnwys pob parti sydd â buddiant cyfreithiol dros unrhyw ran o ardal y cais, dylai cyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod ymgeiswyr yn nodi’n glir yn y cais sut bydd amcanion a chanlyniadau’r cynnig yn cael eu cyflawni ac na fyddan nhw’n cael eu peryglu drwy beidio â chynnwys pawb sydd â buddiant cyfreithiol.
Adran D: Gofynion cyffredinol y cynllun
Rhaid i chi fod yn fodlon bod ffermwyr yn bodloni gofynion canlynol y cynllun fel rhan o’ch gwiriadau:
- rhaid i unrhyw waith sy’n cael ei wneud ar dir sy’n cael ei reoli a/neu ei berchenogi ragori ar rwymedigaethau a gofynion cyfreithiol
- rhaid i brosiectau ddangos na allant gael eu rhoi ar waith heb gymorth ac na fyddai’r prosiect yn mynd rhagddo heb gymorth grant
- rhaid i brosiectau ddangos nad yw’r costau’n ormodol o ystyried natur y gweithgaredd
- rhaid i brosiectau ddangos cydymffurfiaeth gyfreithiol a hyfywedd ariannol
- rhaid i brosiectau ddangos cynaliadwyedd hirdymor.
- rhaid i brosiectau ddangos mai swm y grant yn y cais yw’r cyllid llenwi bwlch lleiaf sydd ei angen i’r prosiect fynd rhagddo
- mae’n rhaid i geisiadau nodi a yw prosiect wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol neu wedi’i sicrhau, a lle bo angen, nodi bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i sicrhau
- rhaid recriwtio staff allweddol trwy gystadleuaeth deg ac agored
- cydymffurfiaeth â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch; lle bo hynny’n briodol a/neu’n angenrheidiol
- rhaid i brosiectau gadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant
- rhaid i brosiectau ddarparu cadarnhad nad oes cais wedi’i wneud am unrhyw arian cyhoeddus arall ar gyfer gweithgareddau arfaethedig
- rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru
Adran E: gweithgareddau cymwys
Cyllid Cyfalaf
Gall Ffermio Bro ddarparu cyllid cyfalaf sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ar y fferm. Gall y gweithgareddau gynnwys:
- Plannu coed dwysedd isel wedi’i dargedu lle mae gwella cynefin yn digwydd. Gallai hyn gynnwys ar lethrau serth, ceunentydd a nentydd ucheldirol, corneli caeau, a chreu coed pori.
- Adfer coetir.
- Adfywio naturiol.
- Adfer a chreu gwrychoedd.
- Symud a dileu rhywogaethau estron goresgynnol (lle maent yn bresennol yma ac acw a bod modd eu dileu o fewn blwyddyn).
- Ymyriadau rheoli perygl llifogydd yn naturiol (lle nad oes angen caniatâd).
- Gwella a chreu gwlyptir trwy fesurau ail-wlychu a chefnogi pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau (lle nad oes angen caniatâd).
- Gwella a chreu cynefin glannau afon.
- Gwella cynefin a mawndir ucheldir heb ei amgáu (lle bo hynny’n addas, gweler isod).
- Gwella a chreu cynefin iseldir.
- Adfer dolydd gwair traddodiadol, creu lleiniau a mannau adar gwyllt, bywyd gwyllt a pheillwyr.
- Adfer ffiniau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau pridd a chrawiau
- Gwella mynediad i gefn gwlad trwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd.
- Mesurau wedi’u targedu i helpu i adfer rhywogaethau bywyd gwyllt penodol yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 – Rhestrau Adran 7 o Gynefinoedd a Rhywogaethau Pwysig Iawn i Gymru megis creu a sefydlu cynefinoedd nythu a bwydo; cynnwys mesurau i reoli ysglyfaethu na ellir ei osgoi i helpu’r rhywogaethau hynny fel rhan o weithredu ar lefel tirlun ehangach (dim ond pan nad oes angen cydsyniad).
- Mesurau wedi’u targedu i wella ansawdd dŵr, megis rheoli stoc.
Cyllid refeniw
Ochr yn ochr â’r gweithgareddau cyfalaf y gall eu hariannu ar gyfer cyflawni ar y fferm, gall Ffermio Bro ddarparu cyllid refeniw i gyrff Tirweddau Dynodedig i gydlynu’r cynllun yn lleol. Dim ond ar gyfer y canlynol y gellir defnyddio’r arian hwn:
- costau cyflog ar gyfer cyflogi cynghorwyr cynllun Ffermio Bro gan gynnwys costau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn.
Ni ellir darparu cyllid refeniw i ffermwyr i gefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau cyfalaf.
Creu Coetir
Os yw ffermwyr yn dymuno plannu ardaloedd o goetir, ni ellir cefnogi hyn trwy Ffermio Bro ym Mlwyddyn 1 (2025-26). Yn hytrach, gellir gwneud cais i’r perwyl hwnnw trwy gynlluniau priodol eraill a weithredir gan Lywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y Grantiau Bach Creu Coetir ar gael yn Grantiau Bach – Creu Coetir | Is-bwnc | LLYW.CYMRU a mwy o wybodaeth am y Grant Creu Coetir yn Grant Creu Coetir | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.
Bydd y sefyllfa ar gyfer Blwyddyn 2 (2026-27) yn cael ei hadolygu yn dilyn mireinio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ymhellach.
Cylch gorchwyl allweddol i gynghorwyr Ffermio Bro fydd cyfeirio a chefnogi ymgeiswyr i gyflwyno cais i’r cynlluniau Coetir hyn. Dylent drafod creu coetir gyda ffermwyr y maent yn gweithio gyda nhw ac sy’n bwrw ymlaen â cheisiadau Ffermio Bro fel bod y ddau gynllun yn ategu ei gilydd.
Fodd bynnag, gellir cefnogi plannu ac adfer coetir dwysedd isel gan ddefnyddio coed llydanddail brodorol yn uniongyrchol trwy'r cynllun Ffermio Bro.
Gall plannu coed o dan gynllun Ffermio Bro gynnwys:
- plannu ar lethrau serth,
- plannu ceunentydd a nentydd ucheldirol,
- plannu corneli caeau,
- plannu coed newydd y tu allan i goetir,
- creu coed pori,
- cefnogi a galluogi adfywio naturiol.
Gall adfer coetir o dan Ffermio Bro gynnwys:
- ailstocio
- rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
- clirio prysgwydd
- ffensio a netin i rwystro ceirw
Bydd Rheolwr y Rhaglen a Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau pellach i’r cyrff ymgeisio.
Mawndir
Dim ond 3-4% o arwynebedd Cymru sydd o dan fawndir ond mae mawndir yn storio tua 30% o’r holl garbon sydd yn y pridd. Mae mawndir sydd mewn cyflwr da yn rheoleiddio llif dŵr trwy arafu a storio dŵr yn y gaeaf a’i ryddhau mewn cyfnodau sychach dros yr haf; maen nhw’n lleihau’r risg o danau gwyllt; maen nhw’n dal a storio carbon; ac yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Mae mawndir yn cael ei greu ar raddfa o 1mm y flwyddyn felly mae dyfnder o 1m o fawn yn cynrychioli dros fil o flynyddoedd o storio carbon.
Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn darparu strwythur i gydlynu, monitro ac adrodd ar adfer mawndir a chyflwr mawndir yng Nghymru. Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru).
Gellir cefnogi gweithredoedd sy’n gwella’r gwaith o reoli a chynnal mawndir trwy Ffermio Bro. Gallai mesurau a gefnogir gynnwys mesurau i atal diraddio e.e. clirio prysgwydd, conwydd a rhywogaethau estron goresgynnol, a rheoli neu gyflwyno pori. Byddwn yn annog ac yn gweithio gyda chynghorwyr cynllun Ffermio Bro i ddarparu gwybodaeth i dîm y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a cheisio arweiniad ganddynt wrth ddarparu prosiectau ar lawr gwlad.
O ran camau gweithredu sy’n gofyn am adfer mawndir yn sylweddol, fel codi lefel y dŵr trwy ymyriadau gweithredol fel byndiau, mae’n debygol y bydd angen trwyddedau, ac ni ellir eu cefnogi trwy Ffermio Bro am resymau cost hefyd. Ni ellir cefnogi unrhyw weithgarwch ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig chwaith. Yn hytrach, dylai unrhyw brosiectau posibl o’r fath drafod gyda thîm y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd Rheolwr y Rhaglen a Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau pellach i’r cyrff ymgeisio.
Adran F: costau cymwys
Rhaid i’r holl gostau fod â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau’r prosiect sy’n cefnogi nodau a ffocws y prosiect. Lle mae gan Lywodraeth Cymru gost safonol am weithgaredd/eitem fel rhan o gynlluniau cyfredol, a’i bod ar gael ar gyfer y cynllun hwn, rhaid cynnig y Costau Safonol hyn a dilyn y fanyleb dechnegol. Y gyfradd dalu safonol ar gyfer y gweithgareddau hyn yw 40% o’r gost .
Lle na ellir defnyddio’r Fanyleb Dechnegol, er enghraifft oherwydd ystyriaethau amgylcheddol, gall cyrff Tirweddau Dynodedig gyfrifo’r gwerth grant o 40% gan ddefnyddio’r costau gwirioneddol. Rhaid i’r corff gadw cofnod o pam nad yw’r gost safonol wedi’i defnyddio, a pham y bu’n rhaid dilyn y llwybr caffael hwn, ynghyd â gwybodaeth arall am y prosiect.
Os oes prosiect ar waith lle nad oes cost safonol ar gael, gellid talu hyd at 100% o gostau prosiect lle mae’n gysylltiedig yn uniongyrchol â budd amgylcheddol ac na fydd y ffermwr yn gwneud elw masnachol preifat neu nad yw’n gysylltiedig â chynhyrchu sylfaenol.
Os bydd y ffermwr yn elwa’n fasnachol o brosiect, yna bydd y rhaglen yn ariannu cyfran o’r costau. Bydd y swm yn dibynnu ar faint fydd busnes y ffermwr yn elwa ar y prosiect.
Lle nad yw cyfraddau talu safonol yn cael eu defnyddio, rhaid dilyn rheolau caffael pob corff Tirwedd Ddynodedig sy’n rheoli’r grant. O ran gweithgaredd pwrpasol er budd amgylcheddol ac ymyriadau sy’n cyflenwi nwyddau cyhoeddus yn bennaf, bydd angen i ymgeiswyr gael dyfynbrisiau am y gwaith (gan ddilyn rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus) ar sail cost wirioneddol. Ariennir hyd at 100% o’r gost ar sail costau sydd wedi’u hysgwyddo, os oes cysylltiad uniongyrchol â budd amgylcheddol ac nad oes cysylltiad ag elw masnachol preifat neu gynhyrchu sylfaenol.
Gall eitemau cyfalaf neu beiriannau sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau’r prosiect fod yn gymwys os yw’r prosiect yn gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ffocws y prosiect, gan arwain at ganlyniadau arwyddocaol a’u bod yn cynnig gwerth da am arian. Dylai’r rhain gael eu hadolygu ar sail prosiectau unigol gan y corff Tirwedd Ddynodedig, ac os penderfynir eu bod yn gymwys, gellir gwneud cyfraniad at y costau ar y sail hon. Nid yw eitemau cyfalaf neu beiriannau cost uchel sy’n gysylltiedig â chynhyrchu sylfaenol neu weithgarwch masnachol yn gymwys. Os oes amheuaeth, dylid gofyn am gyngor gan Reolwr y Rhaglen.
Nid yw ffioedd proffesiynol, ffioedd ymgynghorydd, costau technegol, arolygon safleoedd ecolegol a hydrolegol a ffioedd sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd; ffioedd a chostau ceisiadau cynllunio; ffioedd ar gyfer caniatâd, trwyddedau a chydsyniad statudol yn gymwys oni bai bod y corff Tirwedd Ddynodedig yn ystyried y rhain yn gostau cyfalaf ac yn hanfodol er mwyn i’r gwaith cyfalaf gael ei wneud.
Sylwer: Bydd unrhyw gynefin sy’n cael ei greu neu ei wella o dan Ffermio Bro yn gymwys o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a bydd yn cyfrif tuag at y gofynion Cyffredinol ar gyfer cynefin. Mae ffermwyr sydd wedi gwneud gwaith priodol i gynnal cynefin fel rhan o brosiect Ffermio Bro yn gallu elwa trwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Nid oes unrhyw anfantais iddynt. Bydd canllawiau pellach yn cael eu darparu i gyrff Tirweddau Dynodedig.
Mae’n bwysig iawn bod cyrff Tirweddau Dynodedig yn cadw cofnodion i ddangos:
- eu bod wedi cymhwyso cyfraddau safonol i daliadau
- Lle nad ydynt wedi cymhwyso cyfraddau safonol, bod cofnod o’r penderfyniad hwn, gydag esboniad
- eu bod yn fodlon nad oes cyllid dwbl – cyfeiriwch at Adran F: cyllid dwbl am fwy o wybodaeth
- bod unrhyw gydsyniad a gofynion eraill ar waith
- cofnodi cynnydd yn erbyn dangosyddion y cynllun.
Bydd y dangosyddion canlynol yn cael eu defnyddio ym Mlwyddyn 1. Rhaid i gyrff gadw data priodol a chadarn ar allbynnau a buddiolwyr cynllun, a’u cadw’n unol â’u rheolau diogelu a chadw data eu hunain:
- Cyfnewid dysg a lledaenu gwybodaeth:
Nifer o weithredoedd neu unedau hyfforddiant, cyngor ac ymwybyddiaeth
- Cynlluniau ar gyfer yr hinsawdd, yr amgylchedd a lles anifeiliaid:
Nifer yr hectarau neu unedau da byw a lles anifeiliaid yn elwa ar eco-gynlluniau
- Cyfyngiadau naturiol neu gyfyngiadau eraill penodol i ardal (AHNE, SoDdGA Parc Cenedlaethol)
Nifer yr hectarau sy’n elwa ar gefnogaeth ar gyfer ardaloedd sy'n wynebu cyfyngiadau naturiol neu gyfyngiadau penodol eraill gan gynnwys dadansoddiad fesul math o ardal
- Ymrwymiadau amgylcheddol, cysylltiedig â’r hinsawdd ac ymrwymiadau rheoli eraill:
Arwynebedd amaeth-goedwigaeth, gwrychoedd, lleiniau clustogi ac ymylon caeau cyfoethog eu rhywogaethau
- Cydweithio:
Nifer o weithrediadau neu unedau cydweithio eraill a gefnogir
- Economaidd-gymdeithasol:
Mynediad wedi’i reoli i gefn gwlad neu’r arfordir
Arwynebedd (ha) o goetir a gefnogir
Arwynebedd (ha) o gynefin mawndir wedi’i ail-wlychu
Adran G: cyllid dwbl
Ni all prosiect Ffermio Bro cymeradwy dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau neu waith sy’n cael eu hariannu gan gynlluniau neu raglenni eraill ar hyn o bryd oni bai bod y gweithgaredd neu’r rheolaeth Ffermio Bro yn rhagori ar y gofyniad presennol.
Ni all prosiect dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau/eitemau tebyg am debyg sy’n disodli gweithgareddau/eitemau a ariannwyd yn flaenorol oni bai bod y prosiect yn parhau i reoli neu wella neu adfer y gweithgareddau hynny ac nad oedd yn ofyniad o dan y grant gwreiddiol i wneud hynny.
Gall tir sy’n rhan o brosiect Ffermio Bro fod yn rhan o raglenni neu gynlluniau eraill neu gynnwys rhaglenni neu gynlluniau eraill sy’n gwella neu’n ategu canlyniadau’r prosiect, ond rhaid diffinio’r gwahaniad yn glir gan nodi pa weithgareddau sy’n cael eu hariannu trwy bob cynllun rhaglen, a rhaid i unrhyw weithgareddau neu reolaeth ragori ar ofynion y contractau presennol.
Ni fydd angen cymeradwyaeth gan RPW, megis gwiriadau cyllid dwbl, i’r cyrff Tirweddau Dynodedig ddarparu cynigion cyllid i ffermwyr allu dechrau gwaith. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar gyrff Tirweddau Dynodedig i sicrhau nad oes unrhyw gyllid dwbl. Bydd angen i’r cyrff Tirweddau Dynodedig benderfynu ar hyn trwy drafod â’r ffermwr, a dylai’r ffermwr ddarparu gwarant/ymwadiad ysgrifenedig yn eu cais am grant neu ffurflen dderbyn. Fodd bynnag, bydd RPW yn gwirio nad oes cyllid dwbl yn y cam hawlio. Os daw cyllid dwbl i’r amlwg, ni wneir taliad am swm y cyllid dwbl. Rhaid i’r cyrff Tirweddau Dynodedig gadw cofnodion fel tystiolaeth eu bod yn fodlon nad oes cyllid dwbl, gan gynnwys ffotograffau â geotag cyn ac ar ôl i unrhyw waith gael ei wneud.
Adran H: costau anghymwys
Gweithgareddau anghymwys
Mae nifer o weithgareddau a buddsoddiadau yn anghymwys i dderbyn cyllid o dan Ffermio Bro:
- buddsoddi mewn cynhyrchu sylfaenol cynhyrchion amaethyddol neu bren
- taliadau rheoli cynefinoedd fel y’u nodir mewn cynlluniau presennol neu gynlluniau etifeddol
- unrhyw waith ffisegol neu wariant arall a wnaed cyn dyddiad dechrau’r prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru
Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o weithgareddau nad ydynt yn gymwys am gymorth grant. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth, a bydd pob un o’r eitemau yn cael eu hystyried fesul achos:
- Hyfforddiant. Bydd trefniadau ar wahân ar gyfer darparu hyfforddiant yn cael eu datblygu gan Reolwr y Rhaglen.
- Costau teithio a chynhaliaeth cynghorwyr cynllun Ffermio Bro neu staff eraill sydd yn gorfod cynnal ymweliadau safle, a chostau Paneli Asesu Lleol gan gynnwys costau teithio. Bydd trefniadau ar wahân yn cael eu datblygu gan Reolwr y Rhaglen.
- Cyfathrebu a lledaenu: ni allwch hawlio costau i gefnogi cyfathrebu’r gweithgareddau prosiect arfaethedig; dylai hyn gael ei wneud gan y corff Tirweddau Dynodedig ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen.
- Gwerthuso: ni allwch hawlio am gost cynnal unrhyw werthusiad o’r prosiect, oni bai bod adroddiad yn cael ei ystyried yn ofyniad hanfodol, a bod y corff Tirwedd Ddynodedig yn eu hystyried yn gostau cyfalaf. Un o brif ganlyniadau Ffermio Bro yw deall sut mae cynlluniau lleol a chenedlaethol yn gweithredu, a bydd Rheolwr y Rhaglen/Llywodraeth Cymru felly yn gwneud trefniadau i ddysgu gwersi o’r prosiectau a gyflwynir a’r rhaglen yn ei chrynswth.
- Prynu tir.
- Prynu da byw.
- Prynu adeiladau.
- Prynu peiriannau gwerth uchel ac asedau cyfalaf eraill nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â chanlyniadau amgylcheddol a/neu ffocws y prosiect neu weithgareddau uniongyrchol y prosiect.
- Prynu ceir, faniau, beiciau modur, beiciau ac unrhyw fath arall o gludiant personol (at ba ddiben bynnag).
- Prynu cerbydau ar gyfer cludiant allanol (megis lorïau, bysiau, faniau, bysiau mini, neu unrhyw fath arall o gerbyd a ddefnyddir i gludo nwyddau neu bobl).
- Gwaith dros dro nad oes ganddo gysylltiad uniongyrchol â chyflawni’r prosiect.
- Cymorth ar gyfer gweithgareddau y gellir eu darparu trwy ddulliau eraill y tu allan i gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis trefniadau presennol i ddatblygu sector.
- Costau cynnal a chadw ar gyfer adeiladau, peiriannau neu offer presennol.
- Eitemau tebyg am debyg newydd.
- Costau sy’n gysylltiedig â chontract prydlesu, fel elw’r prydleswr, costau ariannu llog, gorbenion a chostau yswiriant.
- Costau trefnu benthyciadau, TAW a threthi eraill y gellir eu hadennill gan y buddiolwr, costau gweinyddol a chostau staff neu dâl digolledu a delir i drydydd partïon i’w difeddiannu, ac ati
- Gorbenion a ddyrennir neu a ddosrennir ar gyfraddau sy’n sylweddol uwch na’r cyfraddau ar gyfer costau tebyg yr eir iddynt gan ddulliau cyflawni tebyg eraill.
- Gwariant tybiannol.
- Taliadau am weithgarwch o natur wleidyddol.
- Dibrisiad, amorteiddiad ac amhariad asedau.
- Darpariaethau.
- Atebolrwydd dibynnol.
- Hapddigwyddiadau.
- Difidendau i gyfranddalwyr.
- Costau llog.
- Taliadau gwasanaethau o ganlyniad i brydlesau cyllid, trefniadau hurbwrcasu a threfniadau credyd;
- Costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr.
- Costau sy’n gysylltiedig â dirwyn cwmni masnachol i ben.
- Taliadau i bensiynau heb eu hariannu.
- Tâl digolledu am golli swydd.
- Dyledion drwg sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain.
- Taliadau am anrhegion a rhoddion.
- Adloniant personol (gan gynnwys alcohol).
- Drwyon a chosbau statudol.
- Trethi statudol (ac eithrio TAW nad oes modd ei hadennill).
- Dirwyon ac iawndal troseddol.
- Treuliau cyfreithiol mewn perthynas ag ymgyfreitha.
- TAW y gellir ei adhawlio.
- Meddalwedd cyfrifiadurol ac apiau ar gyfer cynnal systemau rheoli busnes cyffredinol / cyfrifon / marchnata a hyrwyddo / gwefannau / gwerthiannau ar-lein.
- Cymorth ar gyfer gweithgareddau y gellir eu darparu trwy ddulliau eraill y tu allan i gynlluniau datblygu gwledig a phontio Llywodraeth Cymru, megis trefniadau presennol i ddatblygu sector.
- Nid yw cymorth ar gyfer cydlynu cadwyni cyflenwi pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaeth yn gymwys o dan y cynllun hwn.
- Eitemau cyfalaf neu beiriannau cost uchel sy’n gysylltiedig â chynhyrchu sylfaenol neu weithgarwch masnachol.
Adran I: Gwneud cais am grant Ffermio Bro
RPW Ar-lein
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein i gwblhau cais am grant Ffermio Bro. Os oes gennych chi Gyfeirnod Cwsmer yn barod, dylech fod wedi derbyn llythyr yn eich hysbysu am eich cod actifadu er mwyn sefydlu eich cyfrif. Os nad yw’r llythyr gennych chi, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun – Iau 8:30 – 17:00, Dydd Gwener 8:30 – 16:30) a rhoi’ch Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredwr. Bydd cod actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.
I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllaw sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o fanylion am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid am ragor o wybodaeth.
Ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae Ffermio Bro ar gael yn yr adran “Ceisiadau a Hawliadau” yn eich cyfrif.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, neu am gwblhau’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu darparu cyngor, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.
Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein gwefan.
Cyflwyno cais
Canllawiau ar sut i gyflwyno’ch cais trwy RPW Ar-lein
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod y wybodaeth sydd wedi’i darparu i gefnogi’ch prosiect yn gywir.
Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel ein bod ni’n gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r arfarniad.
Adran J: Arfarnu
Bydd pob cais gan gorff Tirwedd Ddynodedig yn cael ei arfarnu gan dîm polisi Llywodraeth Cymru gyda mewnbwn gan Reolwr y Rhaglen, er mwyn sicrhau bod y cyflawni lleol yn cydymffurfio â disgwyliadau ac amcanion y cynllun.
Meini prawf gwerthuso Ffermio Bro
Ar gyfer y grant, bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn cyfres o feini prawf dethol a’u sgorio gan ddefnyddio graddfa o Isel, Canolig neu Uchel.
Adrannau i'w hasesu a'u sgoriau
1 – Rheoli’r rhaglen: isel-uchel
2 – Cyd-destun strategol: isel-uchel
3 – Ymwreiddio bioamrywiaeth: isel-uchel
4 – Gwerth am arian: isel-uchel
Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn cael ei wneud ar sail yr wybodaeth a’r dystiolaeth sydd wedi’u darparu, a lle mae prosiectau’n gallu dangos yn y cais sut mae’r camau a’r ymyriadau arfaethedig yn cyflawni nodau a chanlyniadau strategol y cynllun. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yr holl arian yn cael ei ddyrannu, nac y bydd pob cais yn cael ei ddewis i dderbyn y grant os nad ydynt yn sgorio’n ddigon uchel.
Cwestiynau’r cais
Bydd angen i gyrff ddangos y canlynol ar gyfer y Dirwedd Ddynodedig berthnasol:
- Sut bydd Ffermio Bro yn cael ei reoli’n effeithiol. Dylai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drefniadau llywodraethiant, staffio a rheoli, trefniadau asesu, hyfforddiant a dyrchafiadau.
- Sut byddan nhw’n cefnogi cyflawni ar raddfa tirwedd trwy gydweithio.
- Sut byddan nhw’n sicrhau y bydd amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy, yn enwedig “Cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu”, yn cael eu cyflawni trwy ddarparu’r grant.
- Sut bydd y cyflawni yn cydweddu â’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun/Cynlluniau Rheoli statudol perthnasol ac unrhyw ddogfen strategol allweddol arall, e.e. Datganiadau Ardal, Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur.
- Sut byddan nhw’n targedu’r cyflawni ar sail ofodol i wneud y cyfraniad gorau posibl at y targed 30x30.
- Sut byddan nhw’n sicrhau y bydd costau’r prosiect yn rhesymol ac yn briodol, a sut bydd gwerth am arian yn cael ei ymgorffori.
Sgorio
Bydd y sgoriau canlynol yn cael eu defnyddio i arfarnu ceisiadau Ffermio Bro gan gyrff Tirweddau Dynodedig:
Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth sylweddol a chlir i gefnogi ei gais. Mae wedi darparu tystiolaeth sylweddol a chlir y bydd y prosiect yn cael ei reoli’n briodol ac y bydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth foddhaol i gefnogi ei gais. Mae wedi darparu digon o dystiolaeth y bydd y prosiect yn cael ei reoli’n briodol ac y bydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir, er y gellid bod wedi cryfhau hyn mewn rhai meysydd.
Isel: Mae’r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth anghyflawn neu annigonol i gefnogi ei gais. Nid yw wedi darparu digon o dystiolaeth y bydd y prosiect yn cael ei reoli’n briodol ac y bydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
Byddai sgôr o Isel mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried ar gyfer y grant.
Bydd modd sicrhau sgoriau uwch trwy ddarparu esboniadau gyda thystiolaeth gadarn sy’n cael eu hategu gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig.
Canlyniad yr arfarniad a chynnig dyfarniad grant
Mae dau ganlyniad posibl i’r arfarniad:
a. Nid yw eich prosiect yn gymwys am y grant. Byddwch yn cael gwybod y rhesymau pam na fu’ch cais wedi yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein.
b. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Bydd llythyr Cymeradwyo Grant yn cael ei gyflwyno i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein yn nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y Dyfarniad Grant yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith hefyd. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod y Dyfarniad o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn o fewn y 30 niwrnod, caiff y cynnig ei dynnu’n ôl.
Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y grant.
Bydd manylion llawn erbyn pryd y mae’n rhaid i chi dderbyn y cynnig a’r dyddiad cau ar gyfer hawlio yn y Llythyr Dyfarnu Grant.
Os ydych yn derbyn eich Llythyr Dyfarnu Grant, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau pryd fyddwch chi’n cyflwyno hawliadau a’u gwerth.
Os, ar ôl cael eich dewis, y byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’ch Dyfarniad Grant neu os na fyddwch yn derbyn y Dyfarniad Grant o fewn yr amser a ganiateir, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais am Ffermio Bro yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl cyn cwblhau’r gwaith, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais am Ffermio Bro yn y dyfodol.
Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i gyhoeddi enw’r cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd iddo a chrynodeb o’r prosiect.
Rydym ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda sefydliadau sy’n falch o’u henw da, yr hyn maen nhw’n ei gyflawni a’u hymddygiad. Bydd y ddolen ganlynol yn eich cyfeirio at ganllawiau sydd wedi’u cynllunio i amlygu ac egluro’r mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu ‘gwireddu’ gan y sawl sy’n cael grantiau ganddi.
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant [HTML] | LLYW.CYMRU.
Dechrau ar y gwaith
Rhaid i chi beidio â dechrau gwaith nes eich bod wedi cael cynnig Dyfarniad Grant. Os byddwch yn dechrau gwaith, gall Llywodraeth Cymru wrthod y gwaith a gychwynnwyd neu derfynu’r Dyfarniad ac adennill y taliad a wnaed.
Adran K: amodau’r grant
Mae Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig yn ddarostyngedig i amrywiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran R). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.
Mae’r cynnig o grant Ffermio Bro yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich llythyr cymeradwyo grant, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd cyfnod dyfarnu’r grant yn ymestyn o’r dyddiad y caiff y dyfarniad ei wneud tan 31 Mawrth 2026.
Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu at adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.
Amodau
Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr yn y ffurflen gais, y ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth ddilynol. Mae’n drosedd gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol.
Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig yn gyntaf i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.
Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a chyfraith y DU.
Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys y lleoliad, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn nodiadau cyfarwyddyd y cynllun.
Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen hawlio contract RPW Ar-lein, a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sy’n ofynnol o dan y cynllun.
Rhaid cyflwyno hawliadau yn unol â’r amserlen a nodir yn y llythyr dyfarniad grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.
Mae’n rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r prosiect i ben.
Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu gwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol, a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Adran L: taliadau
Hawliadau
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hawlio contract yn eich cyfrif RPW Ar-lein i hawlio grant Ffermio Bro. Bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl dilysu’ch hawliad yn llwyddiannus.
Gallwch wneud hawliadau interim yn ystod oes eich prosiect. Mae’r canllaw ar gwblhau’r ffurflen hawlio contract yn esbonio sut i hawlio.
Bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl dilysu’ch hawliad yn llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliad yn cael ei anfon i’ch cyfrif banc trwy drosglwyddiad electronig.
Dylid cyflwyno ceisiadau terfynol am daliad grant cyn gynted â phosibl ar ôl i’r gwaith ymarferol ar y prosiect gael ei gwblhau a heb fod yn hwyrach na dyddiad gorffen y contract. Rhaid derbyn pob hawliad terfynol erbyn 31 Mawrth 2026 fan bellaf.
- Ni roddir estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer hawliadau terfynol y tu hwnt i 31 Mawrth 2026.
Gall methu â chwblhau’r prosiect a chyflwyno’r hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau uchod arwain at orfod ad-dalu’r grant a dalwyd hyd hynny.
RHAID cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ellir ei newid heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod oes y grant, pan gaiff hawliadau eu cyflwyno, mae’n bosibl y bydd angen craffu arnynt er mwyn sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn cyd-fynd â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol.
Er mwyn derbyn taliad Ffermio Bro, mae’n rhaid i chi:
- fod wedi derbyn dyfarniad Ffermio Bro o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig a chydymffurfio â’r holl ofynion
- sicrhau na fyddwch wedi ymgymryd ag unrhyw waith heblaw gwaith cymwys i gyflawni “Dibenion” eich Llythyr Dyfarnu Grant
- cyflwyno’r hawliadau gan ddefnyddio’r ffurflen hawlio contract yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau – 31 Mawrth 2026
- cyflwyno Atodlen 5 eich llythyr Dyfarnu Grant
Bydd taliad yn cael ei roi i’r cyfrif banc sy’n gysylltiedig â’r prif Gyfeirnod Cwsmer ar y cais.
Ar gyfer staff cyflogedig, bydd angen i chi ddarparu taenlen o bobl, eu tâl fesul awr ac oriau a weithiwyd yn y cyfnod hawlio.
Gallwch gyflwyno tystiolaeth trwy ei sganio a’i hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.
Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r ffurflen hawlio contract a hyd nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi’u cyflwyno.
Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r gwaith.
Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sy’n weddill trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.
Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.
Atodlen 5
Bydd angen i Brif Swyddog Ariannol neu Gyfarwyddwr Ariannol y corff Tirwedd Ddynodedig gyflwyno datganiad atodlen 5 i gymeradwyo Tystysgrif Dyrannu Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, os yw’r cyllid yn llai na £100,000, nid oes angen ei gyflwyno.
Hawliadau anghywir a chosbau
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys, a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.
Rhaid i’r holl weithgarwch/costau a ysgwyddir ddigwydd ar ôl i’r dyfarniad gael ei gynnig.
Mae eich hawliad yn anghywir yn y sefyllfaoedd canlynol:
- rydych wedi ymgymryd â gweithgarwch / ysgwyddo costau cyn i’r dyfarniad gael ei gynnig
- nid ydych wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawliadau
Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw’r camgymeriad yn fwy na 10% o’r cyfanswm sy’n cael ei hawlio, yna rhoddir cosb ariannol. Bydd swm y gwariant cymwys yn cael ei leihau yn ôl swm y camgymeriad, ac felly bydd cyfanswm y grant i’w dalu yn is na’r disgwyl.
Troseddau
Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn sefydlu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn gymwys i Ffermio Bro. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.
Newid prosiect sydd wedi’i gymeradwyo
Mae newid neu ailwerthuso prosiect yn golygu’r broses o gytuno ar newidiadau arwyddocaol i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo. Os bydd y prosiect y byddwch yn ei gynnal yn wahanol i’r hyn y cytunwyd arno, mae angen i chi ofyn am ailwerthusiad a gofyn am gymeradwyaeth i’r newidiadau.
Rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i unrhyw newidiadau i brosiect. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni fod angen newid eich prosiect, byddwn yn esbonio wrthych sut byddwn yn trin y newidiadau.
Adran M: tendro cystadleuol a chaffael
Os yw ffermwyr yn gwneud cais i chi ariannu eitem neu weithgaredd nad oes cost safonol gyfatebol ar gael ar ei chyfer neu ar ei gyfer, bydd angen i chi sicrhau bod rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus yn cael eu dilyn, a chael dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith ar sail cost wirioneddol. Gofynnir i chi ddarparu trosolwg o’ch rheolau caffael fel rhan o’ch cais Cam 1.
Er y bydd angen i chi sicrhau bod eich gweithdrefnau eich hun yn cael eu dilyn, gallwch hefyd gyfeirio at ganllawiau a gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Tendro Cystadleuol, sydd ar gael yn Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol.
Adran N: newidiadau i reolau’r cynllun
Newidiadau mewn deddfwriaeth (gan gynnwys newidiadau o ran dehongli)
Gall deddfwriaeth newid o dro i dro, a bydd yn ofynnol i chi a’r buddiolwyr rydych chi’n eu hariannu gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.
Newidiadau i reolau’r cynllun neu’r Dyfarniad Grant
Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich cynnig grant. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli er mwyn ystyried y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.
Adran O: rheolaethau, monitro a chadw cofnodion
Rheolaethau
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Ffermio Bro.
Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.
Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod eich corff wedi dilyn Rheolau’r Cynllun a bod y rheolau caffael wedi eu dilyn cyn y gwneir taliad i chi neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad.
Byddwn ni a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod ymweliadau’n tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae angen ymweliadau dirybudd ar gyfer rhai gwiriadau, sy’n golygu na fydd modd rhoi rhybudd i chi o reidrwydd. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad mewn blwyddyn galendr.
Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.
Gofynnir i chi ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd prosiectau rydych yn eu hariannu trwy gyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd er mwyn eu cymharu â’ch cais.
Dysgu allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru
Bydd gweithgarwch o fewn y cynllun hwn hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu prosesau, methodolegau a dulliau gweithredu er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu elfen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn barhaus, gan gynnwys casglu mwy o dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau ar raddfa rheoli fferm a thirwedd.
Bydd Llywodraeth Cymru a Rheolwr y Rhaglen yn creu rhwydwaith o asiantiaid cyflawni Ffermio Bro a phartïon eraill sy’n gysylltiedig â’r cynllun i rannu gwybodaeth a chefnogi datblygiad rhwydweithiau ac i ddarparu argymhellion i gefnogi rhaglenni yn y dyfodol.
Monitro a gwerthuso
Fel cynllun i gefnogi’r diwydiant amaethyddol, bydd yn ofynnol i Ffermio Bro weithio tuag at yr amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
Un o ofynion y llythyr dyfarniad grant i brosiectau llwyddiannus yw bod angen cadw’r eitemau a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau eu bod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddynt gael eu defnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y dyfarniad grant. Gwneir hyn er mwyn sicrhau hirhoedledd y prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr sylfaenol yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.
Mae’n rhaid i chi archwilio’r eitemau a brynwyd dros y cyfnod hwn o bum mlynedd. Gellid cynnal ymweliadau safle â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd ar ôl eu cwblhau’n derfynol (dyddiad cau y llythyr cynnig grant).
Mae’n rhaid i chi hefyd gydweithio â’r sawl a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i werthuso’r cynllun.
Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel sy’n cael ei nodi yn eich cynnig grant.
Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- darparu unrhyw wybodaeth i ni am eich prosiect Ffermio Bro o fewn y cyfnod a bennir gennym.
- darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch prosiect i ni, ein personau awdurdodedig neu ein hasiantiaid.
- caniatáu i ni gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.
Adran P: apelio a gweithdrefn gwyno
Gweithdrefn apelio
Ar ôl i chi dderbyn cynnig grant, bydd apeliadau yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried o dan y ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’.
Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:
- Cam 1: adolygiad gan swyddogion RPW
- Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb i gam 1)
Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidog Llywodraeth Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.
Ni chodir tâl ar gyfer Cam 1 o’r broses, ond codir tâl yng Ngham 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Mae’r taliadau hyn yn cael eu had-dalu’n llawn os yw’r apêl Cam 2 yn llwyddiannus yn rhannol neu’n llawn.
Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i law o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais RPW Ar-lein ar gael gan Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW, neu ar ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.
Gweithdrefn gwyno
Ymdrinnir â chwynion yn unol â’n gweithdrefn gwyno. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378
E-bost: cwynion@llyw.cymru
Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh.
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon
Adran Q: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru
Rydym ni’n darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach a mwy ffyniannus.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am gyllid grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym ni’n cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n bosibl y bydd angen i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu’r cyllid grant rydych chi wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi’r gorau i ddarparu’r cyllid grant presennol i chi.
Bydd cofnod o unrhyw risg sy’n gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.
I asesu cymhwystra, efallai hefyd y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol.
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- DEFRA
- swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
- awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu
Mae hefyd yn bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth gydag arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.
Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o’r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.
Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr a fydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynlluniau y talwyd cyllid grant ar eu cyfer. Fodd bynnag, i bobl sy’n derbyn llai na’r hyn sy’n cyfateb i £1,250 mewn cyllid grant, ni fydd yr enw’n cael ei gyhoeddi. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y caiff ei gyhoeddi.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 10 mlynedd ar ôl dyddiad y taliad terfynol. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad i chi eu darparu.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i weld y data personol sydd gennym amdanoch,
- i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw,
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau),
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau), ac
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
2il Lawr,
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: https://ico.org.uk/
Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW.
Adran R: deddfwriaeth
Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond gan weithredu hefyd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig trwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’):
- cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy,
- lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd,
- cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu,
- cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.
Sefydliad Masnach y Byd a rheoli cymorthdaliadau
Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’. Mae potensial i gynigion prosiect arloesol neu newydd fod angen offer neu adnoddau sydd y tu allan i’r cwmpas hwn. Os yw’n hanfodol ar gyfer y prosiect, mae’n bosibl y bydd yr eitemau a’r gweithredoedd yn destun cytundebau rheoli cymhorthdal unigol, a byddan nhw’n cael eu diffinio yng nghytundeb y prosiect.
Adran S: cysylltiadau
Ymholiadau: Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid
Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW.
Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.
Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig
Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.
Gwefan Llywodraeth Cymru
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i’n gwefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch gofrestru hefyd i dderbyn yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.
Gwlad
Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym ni’n eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai yn Hysbysiadau neu’r dudalen Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).