Neidio i'r prif gynnwy

Mae fferm solar gyntaf y DU sy'n eiddo i ysbyty wedi rhagori ar ddisgwyliadau drwy ddarparu digon o drydan nid yn unig i gyfrannu at anghenion pŵer dyddiol Ysbyty Treforys yn Abertawe, ond hefyd i ddarparu ar gyfer 100% o'r trydan y mae ei angen arno am gyfnod o 50 awr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n llwyddo i wneud hynny er mai dim ond yn ystod dyddiau byrraf y flwyddyn y mae’n gweithredu.

Cafodd y fferm solar, sy’n werth £5.7 miliwn, ei hadeiladu diolch i gynllun benthyca a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus erbyn 2030. Mae’r benthyciad yn ad-daladwy ar sail buddsoddi i arbed.

Amcangyfrifir bod yr ysbyty eisoes wedi arbed tua £120,000 mewn biliau trydan ers i’r fferm solar ddechrau gweithredu ym mis Tachwedd, a rhagwelir y bydd yn arbed 1000 o dunelli o garbon a £500,000 y flwyddyn mewn biliau pan fydd yn gwbl weithredol.

Mae eisoes wedi cynhyrchu 30,000 kWh o ynni dros ben sydd wedi'i werthu'n ôl i'r grid ynni, gan greu elw i'r ysbyty.

Wrth ymweld â’r prosiect 4MW ar Fferm Brynwhillach, sydd wedi’i gysylltu â Threforys drwy wifren breifat 3km o hyd, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Rydyn ni am i'n hynni ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael eu rhedeg yn lleol yng Nghymru.

Bydd hynny’n sicrhau bod ein cyflenwad yn gydnerth, yn ddibynadwy ac yn rhesymol ar gyfer ein planed a'n pocedi.

Mae gennym uchelgais beiddgar i ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus erbyn 2030. Mae Ysbyty Treforys − sy'n dibynnu nid yn unig ar alluoedd eu staff, ond hefyd ar y peiriannau barus o ran ynni sy’n cadw’u cleifion yn fyw ac yn iach − wedi dangos y ffordd wrth iddo newid i ynni adnewyddadwy. Mae hynny’n gwneud synnwyr yn ariannol ac yn gwneud synnwyr hefyd i iechyd pobl Cymru.

Mae’n dibyniaeth lwyr ar gyflenwadau cyfnewidiol o danwydd ffosil yn niweidiol, ac allwn ni ddim parhau i wneud hynny. Yng Nghymru, byddwn ni’n buddsoddi mwy a mwy mewn ynni adnewyddadwy ac mewn mesurau ynni effeithlon fel y rheini a fabwysiadwyd yn ysbyty Treforys. Byddwn ni hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi’r newid i Sero Net, gan wneud hynny mewn ffordd gymdeithasol gyfiawn, wrth inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) wedi rhoi rhybudd clir am gyflwr ein planed: mae’n bryd ’nawr inni wrando ac ymateb i'r wyddoniaeth.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, Emma Woollett:

Dw i'n falch iawn bod perfformiad y fferm solar eisoes wedi rhagori ar ein disgwyliadau cychwynnol.

Nod y bwrdd iechyd yw lleihau ei ôl troed carbon a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Bydd gan y fferm solar ran bwysig i’w chwarae wrth gyflawni'r nod hwnnw, ond mae manteision ychwanegol hefyd o ran arbed costau. Mae nid yn unig yn lleihau’n  costau trydan o ddydd i ddydd, ond mae hefyd, ar rai diwrnodau, yn darparu 100% o'n hanghenion trydan.

O gofio bod prisiau ynni mor gyfnewidiol ar hyn o bryd, mae hynny wir yn dangos bod buddsoddiad y bwrdd iechyd, a’r ffaith ei fod wedi meddwl am ei anghenion hirdymor, wedi talu ar ei ganfed.