Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y safle ar Fferm Gilestone.
Cynnwys
Cefndir
Ym mis Mawrth 2022, gwnaethom gaffael Fferm Gilestone i gefnogi twf y sector creadigol yng nghanolbarth Cymru.
Ym mis Awst 2023, cawsom wybod bod pâr o weilch y pysgod yn nythu ar y safle. Mae'r Gweilch yn rhywogaeth Atodlen 1 a ddiogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Dyma'r tro cyntaf i weilch y pysgod gael eu gweld mor bell i'r de yng Nghymru ers tua 200 mlynedd.
O ystyried pwysigrwydd hanesyddol y datblygiad hwn, lles yr adar a'u nyth yw ein prif flaenoriaeth.
Er mwyn eu diogelu, rydym yn:
- gosod mesurau gwyliadwriaeth a diogelwch ar y safle mewn partneriaeth â recordwyr adar lleol
- Y llynedd fe wnaethom hefyd benodi arbenigwr blaenllaw'r DU ar weilch y pysgod i lunio cynllun ar gyfer eu gwarchod ar fferm Gilestone.
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog i wybod mwy: Datganiad Ysgrifenedig: Dyfodol Fferm Gilestone (29 Ionawr 2024) | GOV. CYMRU
Y trefniadau rheoli presennol
Mae'r cyfleoedd ar gyfer ffermio cynaliadwy a datblygu economaidd yn bodoli o hyd ar y safle. Rydym yn ymgysylltu â sefydliadau partner i archwilio'r cyfleoedd hyn yn y tymor hir. Wrth i ni ymgymryd â'r gwaith hwn, byddwn yn parhau i reoli'r fferm yn briodol.
Rydym yn estyn hefyd y Denantiaeth Busnes Fferm er mwyn gallu cynnal trafodaethau ynghylch sut i ddefnyddio'r safle yn y dyfodol. Bydd ein hegwyddorion ar gyfer defnyddio a gwaredu asedau tir ac eiddo yn llywio ein penderfyniadau ynghylch dyfodol y fferm.