Neidio i'r prif gynnwy

I ddathlu Wythnos Genedlaethol y Pryfed bydd Fferm Chwilod Dr Sarah Beynon ger Tyddewi, Sir Benfro yn cynnal ei hagoriad swyddogol ddydd Mercher 22 Mehefin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Fferm Chwilod, sydd wedi ei chefnogi gan Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru, wedi dechrau'n llwyddiannus ac wedi cael ei henwi'n Fusnes Newydd Gorau'r Flwyddyn 2016 gan FSB WorldPay yn ogystal â derbyn Gwobr Crëwr Dôl Cenedlaethol Cymru Plantlife, Gwobr UnLtd Build It (sy'n cael ei ddyfarnu i entrepreneuriaid cymdeithasol gorau'r DU).

Mae'r atyniad newydd hwn wedi bod yn llafur cariad i'r perchennog, Dr Sarah Beynon, a brynodd y fferm deuluol yn Nhyddewi yn ôl yn 2013 gyda'r nod o gau'r bwlch rhwng gwyddoniaeth, ffermio a bwyd.  

Mae'r atyniad yn cynnwys Amgueddfa Chwilod (sy'n cynnwys rhan o gasgliad preifat mwyaf y DU o ieir bach yr haf), Oriel Gelf Chwilod, Ysgubor Chwilod, ysgubor chwarae dan do, a Llwybr Fferm Chwilod yn ogystal â'r 'Grub Kitchen' poblogaidd, sef bwyty cyntaf y DU sydd â phryfed bwytadwy ar y fwydlen drwy'r amser.

Mae'r Fferm Chwilod hefyd yn ganolfan ymchwil ac yn fferm weithio 100 erw.  Mae'r Fferm Chwilod yn cydweithio â nifer o brifysgolion (Rhydychen, Bryste, Aberystwyth a Harper Adams), i ymchwilio i bynciau gan gynnwys gwerthfawrogi pwysigrwydd gwasanaethau ecosystemau a ddarperir gan fywyd gwyllt ar ffermydd.  Gwelwyd gwaith Sarah Beynon ar y teledu hefyd gan gynnwys ar  'Operation Cloud Lab: Secrets of the Skies' y BBC, 'Hippo: Nature’s Wild Feast', 'Coast' y BBC ac mae ei hymchwil hefyd wedi ymddangos ar 'Countryfile' y BBC. 

Dywedodd Dr Sarah Beynon: 

"Cefais fy ngeni a fy magu ar fferm yn Nhyddewi, ac fe wnes i dyfu fyny gyda chariad a pharch at ffermio a bywyd gwyllt. Rwyf wedi treulio'r deng mlynedd diwethaf yn gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen yn ymchwilio i infertebratau defnyddiol a dyfodol cynhyrchu bwyd cynaliadwy ochr yn ochr â chadwraeth bywyd gwyllt.  Y Fferm Chwilod yw fy ffordd i o geisio gwneud newid go iawn ac rwy'n falch i rannu'r lle hwn gyda'n hymwelwyr."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

"Yn ogystal â bod ar flaen y gad o ran cadwraeth ac ymchwil, mae'r Fferm Chwilod hefyd yn diddanu ymwelwyr yn llwyddiannus yn ogystal â'u haddysgu am fyd cudd y chwilod.  Mae'r atyniad yn gyfleuster addas i bob tywydd yn Sir Benfro ac rwy'n dymuno llwyddiant parhaus i Dr Beynon a'i thîm gyda'r fenter."

Gellir gweld mwy o fanylion ar www.thebugfarm.co.uk (Saesneg yn unig - dolen allanol).