Neidio i'r prif gynnwy

Rydym ni’n recriwtio ac yn cynnal cyfres o ffeiriau swyddi ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd amrywiaeth o swyddi ar gael ar wahanol lefelau gyda chyflog cychwynnol o £29,100.

Rydym ni angen pobl o bob cefndir â gwahanol brofiadau i’n helpu i sicrhau bod ein blaenoriaethau fel Llywodraeth yn llwyddo a’n bod yn pontio'n rhwydd a llwyddiannus wrth i’r DU adael yr UE. 

Rydym yn chwilio’n arbennig am bobl gyda sgiliau ac arbenigeddau yn y meysydd canlynol:

  • Datblygu a chyflawni polisi
  • Digidol
  • Cyfreithiol
  • Rheoli prosiect
  • Dadansoddi data
  • Economi
  • Amgylcheddol
  • Cyflawni gweithredol
  • Ymchwil
  • Cyfathrebu

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am weithio i ni, archebwch le ar un o'n ffeiriau swyddi neu cofrestrwch eich manylion a byddwn yn rhoi gwybod ichi fel y daw cyfleoedd ar gael.

Lleoliad
Cyfeiriad
Dyddiad ac amser
 
Caerdydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ 3 Hydref - 10.00yb Llawn
    3 Hydref - 12.30yp Llawn
    3 Hydref - 3.30yp Llawn
Cyffordd Llandudno  Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ 4 Hydref - 10.00yb Llawn
    4 Hydref - 12.30yp Llawn
    4 Hydref - 3.30yp Llawn
Aberystwyth Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR 9 Hydref - 10.00yb Llawn
    9 Hydref - 12.30yp Llawn
    9 Hydref - 3.30yp Llawn
Merthyr Tudful Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ 11 Hydref - 10.00yb Llawn
    11 Hydref - 12.30yp Llawn
    11 Hydref - 3.30pm Llawn

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn ystod y broses recriwtio yn cael ei phrosesu yn unol â'i hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.