Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i ffeilio ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r gwasanaeth hwn gan Awdurdod Cyllid Cymru yn eich galluogi i ffeilio a chyflwyno ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi ar-lein. Gallwch weld yr holl ffurflenni a gyflwynwyd gennych hefyd.

Dydw i ddim wedi cofrestru fy sefydliad

Er mwyn ffeilio ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi mae angen i chi gofrestru eich sefydliad gydag Awdurdod Cyllid Cymru.

Rydw i wedi cofrestru fy sefydliad yn barod

Os ydych chi neu eich gweinyddwr wedi cofrestru eich sefydliad yn barod ac mae gennych chi’r cod cofrestru defnyddiwr a gawsoch yn y post, gallwch gofrestru nawr i gael cyfrif ar-lein. Cofrestrwch i gael cyfrif ar-lein drwy ddilyn y ddolen ‘Cofrestru nawr’ ar waelod y dudalen mewngofnodi.

Mae gen i fanylion fy nghyfrif ar-lein yn barod

Os ydych chi wedi cofrestru’n barod i gael cyfrif ar-lein ac wedi cael e-bost cadarnhau gan ACC gallwch fewngofnodi a ffeilio eich ffurflenni Treth Gwarediadau Tir. I ychwanegu defnyddwyr ychwanegol at eich cyfrif, dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarparwyd.