Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni yng Nghastell-nedd sy'n arbenigo mewn creu a chyflenwi cynnyrch atgyfnerthu dur ar gyfer y sector adeiladu yn ehangu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Express Reinforcements Ltd, sydd yn Ystâd Ddiwydiannol Milland Road, yn buddsoddi £150,000 mewn peiriannau pwrpasol a chaledwedd a meddalwedd TG cysylltiol fydd yn gwella capasiti'r depo. 

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu’r prosiect gyda gwerth £65,000 o gyllid er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yn digwydd yn y cyfleuster yng Nghastell-nedd. 

Mae'r buddsoddiad yn hanfodol i ffatri Castell-nedd, a sefydlwyd yn 1984, allu ateb y galw cynyddol am ei chynnyrch.

Nid yn unig y bydd yr offer newydd yn gwella cynhyrchiant, bydd hefyd yn cofnodi data cynhyrchu yn awtomatig yn ystod y broses gweithgynhyrchu.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae'r prosiect ehangu yn bwysig ar gyfer dyfodol cynaliadwy cyfleuster Castell-nedd ac mae'n cefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru - blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru - a'r diwydiant adeiladu, un o'n sectorau economaidd allweddol.

"Roedd cymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer sicrhau'r prosiect hwn i Gastell-nedd fydd yn creu ac yn diogelu swyddi. Bydd y lefelau cynhyrchu uwch hefyd yn creu cyfleoedd newydd i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac yn darparu cyfleoedd pellach i weithgynhyrchu a chyflenwi cynnyrch dur yng Nghymru."

Dywedodd Andy Lodge, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni: 

"Mae hyn yn enghraifft wych o ddiwydiant a'r Llywodraeth yn alinio ei gilydd ac yn gweithio er budd yr holl randdeiliaid. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i roi sylfaen mwy cadarn i'n busnes yng Nghastell-nedd a bydd yn gwella cynaliadwyedd hirdymor y busnes hwnnw. Mae'r ysbryd o bartneriaeth wedi bod yn wych er mwyn sicrhau’r canlyniad hwn."