Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r digwyddiad yn Wrecsam yn cysylltu cymuned y Lluoedd Arfog yn uniongyrchol â chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ffair swyddi a'r gynhadledd gyntaf ar gyfer cyn-filwyr, y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn y Gogledd wedi cael ei chynnal yn Wrecsam. 

Roedd yn meithrin cysylltiad uniongyrchol rhwng cymuned y Lluoedd Arfog a chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Cynhaliwyd y ffair swyddi ochr yn ochr â chynhadledd i gyflogwyr, a thynnwyd sylw at y llu o fanteision y gall cyn-filwyr eu cynnig i'r gweithle.

Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, sydd â chyfrifoldeb dros y lluoedd arfog, yn y digwyddiad.

Dywedodd: 

"Mae'n bleser arbennig i mi fod yn y digwyddiad hwn yn y Gogledd, ac i gwrdd â rhai o'r cyn-filwyr a'r cyflogwyr sydd wedi dod yma.

"Mae 25 o gyflogwyr yn y  digwyddiad hwn  ac mae ganddynt swyddi ar hyn o bryd. Mae'n dda gweld sut y gallant feithrin cysylltiadau â chyn-filwyr. Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei chynnal ochr yn ochr â'r ffair, hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr glywed am y manteision y gall cyflogi cyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog eu cynnig i fusnesau.

"Mae'r cyflogwyr sydd wedi dod i'r digwyddiad yn cynnwys, er enghraifft, Trafnidiaeth Cymru, deiliaid Gwobrau Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a chwmni sy'n hynod gefnogol i'r syniad o ddatblygu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol i gymuned y Lluoedd Arfog.

"Mae gan ein cyn-filwyr sgiliau a phrofiad unigryw a all fod o fudd gwirioneddol i gyflogwyr. Rwy'n falch bod 172 o gyflogwyr yn y Gogledd, hyd yma, wedi addo cefnogi hyn, trwy lofnodi cyfamod y Lluoedd Arfog."

Dywedodd Julianne Williams o elusen Cyflogaeth y Lluoedd Arfog: 

"Yn bersonol, Ffair Gyflogaeth Cymru yw uchafbwynt y flwyddyn i mi, gan fy mod yn cael ymwneud â chronfa o dalent o Gymru, boed hynny yn y cwmnïau yng Nghymru, neu ymhlith y rhai sy'n dal i wasanaethu yn y lluoedd arfog neu'n gyn-filwyr. 

"Rwy'n gyn-filwr gyda'r Awyrlu Brenhinol a bûm yn gwasanaethu am 25 mlynedd a dewisais ddod yn ôl adref a dod o hyd i waith yng Nghymru. Hoffwn pe bai rhywbeth fel hyn wedi bod ar gael i mi pan adewais i'r lluoedd arfog."