Bydd pobl sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen [25ain Mehefin] i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys.
Mae tystysgrifau brechu wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y bobl sydd angen teithio’n rhyngwladol ar frys, a darparu tystiolaeth o’u statws brechu. Caiff y tystysgrifau eu hanfon yn y post. Bydd tystysgrifau papur yn parhau i gael eu rhoi i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r Pàs digidol. Mae mynediad at Bàs COVID y GIG yng Nghymru’n golygu y bydd tystiolaeth o’r brechlyn ar gael i bobl ei dangos ar eu ffôn, llechen neu liniadur.
Gallwch gael statws brechu COVID os ydych:
- wedi cael y brechlyn COVID
- wedi cael eich brechu yng Nghymru
- yn 16 oed neu’n hŷn
Bydd y pàs digidol yn dangos a ydych wedi cael y brechlyn COVID, er y bydd angen ichi wirio’r gofynion mynediad ar gyfer y wlad yr ydych yn bwriadu teithio iddi, fel nifer y brechiadau, profi ac ynysu, a bydd angen ichi ddilyn y rheolau teithio fel cael prawf cyn teithio.
Gallwch weld eich statws brechu COVID ar-lein ar wefan Pàs COVID y GIG, lle gallwch ei lawr lwytho neu ei argraffu fel dogfen PDF. Dyma’r unig statws brechu digidol dilys sydd ar gael; nid yw unrhyw wasanaethau eraill sy’n honni eu bod yn cynnig tystiolaeth o statws brechu am ffi yn ddilys.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
Rwy’n falch y gall pobl yng Nghymru gael eu statws brechu nawr drwy Bàs COVID y GIG os oes angen iddynt deithio ar frys a’u bod wedi cael dos llawn o’r brechlyn.
Mae’n bwysig cofio nad yw cyngor Llywodraeth Cymru ar deithio wedi newid, ac mai dim ond os yw’n hollol hanfodol y dylai pobl ystyried teithio’n rhyngwladol.
Gall pobl yng Nghymru nawr gael mynediad at eu statws brechu ar eu ffôn, llechen neu liniadur gan ddefnyddio Pàs COVID digidol y GIG. Mae gwaith ar y gweill i gyfuno systemau Ap GIG Lloegr a GIG Cymru i alluogi i bobl yng Nghymru ei ddefnyddio.
Gall pobl wneud cais am Bàs COVID y GIG dwyieithog ar ffurf llythyr drwy ffonio 0300 303 5667.