Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol sy'n heintus, ond nad yw'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng pobl, a gludir gan fectorau sy'n effeithio ar anifeiliaid gwyllt a domestig sy'n cnoi cil fel defaid, geifr, gwartheg, ceirw a chamelidau. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Eithriadau i brofion cyn symud tan 23 Ebrill 2025
Mae'r gofynion o ran cynnal profion BTV-3 cyn symud ar anifeiliaid sy'n symud o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr wedi newid.
Tan 23 Ebrill 2025, nid oes angen i chi gynnal profion ar anifeiliaid dros 60 diwrnod oed sydd ddim yn bridio cyn eu symud o'r parth dan gyfyngiadau. Mae'r newid dros dro hwn yn adlewyrchu'r risg isel sydd ynghlwm wrth symud yr anifeiliaid hyn o'r parth ar hyn o bryd.
Yr unig anifeiliaid y mae angen i chi roi prawf cyn symud iddyn nhw yw:
- anifeiliaid gwryw cyfan yr ydych am eu defnyddio i fridio
- anifeiliaid beichiog neu'r rheini nad ydych yn gwybod a ydynt yn feichiog neu beidio
- anifeiliaid ifanc 60 diwrnod oed neu'n iau adeg eu symud, oni bai eu bod yn teithio ar droed gyda'r fam – bryd hynny, rhowch brawf i'r fam trwy PCR ac ELISA
Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded symud benodol i symud anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau.
Mae hwn yn newid dros dro tan 23 Ebrill 2025, er y gall yr eithriadau ddod i ben cyn hynny os gwelir bod y risg o drosglwyddo firws y tafod glas yn cynyddu.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Tafod Glas: newyddion, gwybodaeth a chanllawiau i geidwaid da byw - GOV.UK
Feirws y Tafod Glas (BTV-3) Defnyddio brechlyn yng Nghymru
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i drwyddedu tri chynnyrch brechlyn BTV-3 anawdurdodedig ar gyfer y tafod glas. Byddant ar gael i'w defnyddio yn wirfoddol mewn argyfwng.
Bydd y drwydded gyffredinol ar gael i'w defnyddio o 1 Mawrth. Bydd y brechlynnau hyn yn cael eu rhagnodi a'u gwerthu gan filfeddygon. Gallant, fodd bynnag, gael eu gweinyddu gan geidwaid da byw yn unol ag amodau'r drwydded.
Os ydych chi'n ystyried defnyddio brechlyn BTV-3 ar gyfer eich anifeiliaid, trafodwch â'ch milfeddyg i gadarnhau ai dyma'r opsiwn cywir i chi.
Y Gwanwyn yw’ amser gorau i frechu eich anifeiliaid. Bydd hyn yn sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn cyn y bydd gwybed yn eu hanterth yn yr Haf a'r Hydref.
Lleoliadau gaeafu yn y Parth dan Gyfyngiadau'r Tafod Glas (RZ) yn Lloegr
Rydym bellach yn y cyfnod fector isel tymhorol ar gyfer y tafod glas. Mae'r risg o haint newydd a throsglwyddo ymlaen oherwydd gweithgaredd fector bellach yn isel iawn. Mae'r cyfnod fector isel tymhorol ar gyfer y tafod glas yn darparu ffenestr fer i dda byw symud o'r parth dan gyfyngiadau’r tafod glas yn Lloegr i Gymru i fyw yn amodol ar drwydded. Cynghorir perchnogion anifeiliaid i gynllunio ymlaen llaw i ganiatáu i'w hanifeiliaid symud yn amserol. Lleoliadau gaeafu yn y Parth dan Gyfyngiadau'r Tafod Glas (RZ) yn Lloegr.
Newyddion diweddaraf am sefyllfa'r Tafod Glas yn Lloegr
I gael y newyddion diweddaraf am sefyllfa'r Tafod Glas yn Lloegr, ewch i gov.uk. Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar y sefyllfa bresennol ar gael ar wefan Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil.
Amheuaeth a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon fod y tafod glas ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn defaid:
- wlserau neu friwiau yn y geg a'r trwyn
- llif o'r llygaid neu'r trwyn a glafoeri o'r geg
- y gwefusau, y tafod, y pen, y gwddf a'r croen yng nghefn y carn wedi chwyddo
Mae arwyddion clinigol eraill yn cynnwys:
- croen coch o ganlyniad i waed yn casglu o dan yr wyneb
- twymyn
- cloffni
- problemau anadlu
- erthylu
- marwolaeth
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn gwartheg:
- blinder
- briwiau a chroen caled o gwmpas y ffroenau a'r geg
- cochni ar y geg, y llygaid a'r trwyn
- cochni ar y croen uwchben y carn
- llif o'r trwyn
- cochni a briwiau ar y tethi
- blinder
- twymyn
- cynhyrchu llai o laeth
- colli awydd am fwyd
- erthylu
Gall gwartheg llawndwf fod yn ffynhonnell feirws am sawl wythnos gan arddangos ychydig o arwyddion clinigol o glefyd neu ddim arwyddion clinigol o glefyd. Mae fectorau pryfed yn aml yn eu ffafrio hwy o ran lletya.
Mae lluniau sy'n dangos arwyddion clinigol y tafod glas ar gael (ar flickr).
Y tafod glas mewn lloi
Gall buwch gyflo sydd wedi'i heintio drosglwyddo'r tafod glas i'w ffetws. Gall hyn arwain at erthyliad, lloi'n cael eu geni'n llai, yn wan, wedi'u hanffurfio neu'n ddall, a marwolaeth lloi o fewn ychydig ddyddiau i'w geni.
Dylai ceidwaid a milfeddygon da byw ystyried y tafod glas fel achos posibl ar gyfer lloi sy'n dangos yr arwyddion hyn.
Trosglwyddo
Gall feirws y tafod glas gael ei ledaenu gan rai rhywogaethau o wybed sy'n brathu (rhywogaethau o'r genws Culicoides). Y gellir dod o hyd i lawer ohonynt ledled Prydain Fawr.
Mae gwybed yn cael eu heintio â'r feirws pan fyddant yn brathu anifail heintiedig ac mae'r feirws yn lledaenu pan fydd y gwybedyn heintiedig wedyn yn brathu anifail sydd heb ei heintio a allai gael ei heintio . Unwaith y bydd gwybedyn wedi codi'r feirws tafod glas bydd yn gludwr am weddill ei oes.
Mae gwybed ar eu prysuraf rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd. Mae'r tywydd (tymheredd, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, a glaw) yn effeithio ar ba mor gyflym a pha mor bell y gall gwybed ledaenu'r clefyd.
Gall feirws y tafod glas hefyd gael ei ledaenu trwy symud anifeiliaid heintiedig, a thrwy gynhyrchion biolegol fel:
- gwaed,
- cynhyrchion cenhedlol (semen, ofa neu embryonau)
gan gynnwys trwy fewnforion o wledydd lle gallai'r tafod glas fod yn mynd ar led heb ei ganfod.
Mae tystiolaeth y gall cŵn a cigysyddion eraill gael eu heintio â firws y tafod glas ar ôl llyncu deunydd heintiedig fel deunydd sydd wedi'i erthylu neu frych.
Fodd bynnag, mae hwn yn ddigwyddiad prin ac mae'r tafod glas yn glefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil fel:
- defaid
- gwartheg
- geifr
- ceirw
a chameleidau fel:
- lama
- alpaca
ac sy'n cael ei ledaenu gan wybed. Nid yw'n effeithio ar ddiogelwch bwyd na phobl.
Atal eich anifeiliaid anwes rhag bwyta, cnoi neu chwarae gyda deunydd a allai fod yn heintus. Er enghraifft: deunydd wedi'i erthylu, brych)
Pan fyddwch chi'n cerdded eich ci, dilynwch y Cod Cefn Gwlad (ar gov.uk) a'r Codau Ymddygiad Morol (ar Moroedd Gwyllt Cymru).
Cysylltwch â'ch milfeddyg os oes gennych bryderon am iechyd a lles eich anifail anwes.
Atal a rheoli
Gallwch helpu i atal firws y tafod glas rhag lledaenu drwy:
- sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol
- parhau i fod yn wyliadwrus o arwyddion o glefydau
- Cynnal hylendid a bioddiogelwch da ar eich safle
- cadw anifeiliaid mewn adeiladau sy'n cadw gwybed sy'n pigo allan – mae hyn yn arbennig o bwysig ar doriad gwawr a machlud
- peidio â chaniatáu i gŵn fferm, cathod neu anifeiliaid anwes fwyta, cnoi neu chwarae gyda deunyddiau a allai fod wedi'u heintio (fel deunydd wedi'i erthylu a brychau)
Brechu eich anifeiliaid
Nid oes brechlyn wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer firws y tafod glas seroteip 3 (BTV-3). Dyma'r seroteip a gadarnhawyd yn Lloegr ym mis Tachwedd 2023.
Gwnewch yn siŵr y gellir olrhain eich anifeiliaid
Os ydych yn cadw anifeiliaid fel da byw neu anifeiliaid anwes, rhaid i chi ddilyn rheolau i sicrhau y gellir eu holrhain. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eich tir a'ch anifeiliaid.
Darllenwch y rheolau ar gyfer cadw gwartheg, defaid, geifr a cheirw.
Cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os ydych yn cadw camelod (fel llamas neu alpacas) neu os nad ydych yn siŵr o'r rheolau.
Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais am drwydded symud penodol (ar gov.uk) i symud anifeiliaid i neu oddi ar safle sydd wedi'i gyfyngu gan y tafod glas.
Dylai ceidwaid sy'n ystyried mewnforio anifeiliaid neu gynhyrchion biolegol o wledydd y mae y tafod glas yn effeithio arnynt ymgynghori â'u milfeddyg ar y risgiau o wneud hynny. Dylid gwneud hyn cyn penderfynu mewnforio. Gall anifeiliaid a fewnforir sy'n profi'n bositif am y tafod las gael eu difa neu eu dychwelyd i wlad tarddiad. Mae rhagor o wybodaeth am ofynion mewnforio ar gael ar gov.uk.