Neidio i'r prif gynnwy

Mae Peste des Petits Ruminants (PPR) a elwir hefyd yn bla defaid a geifr, yn glefyd firaol heintus iawn. Mae'n effeithio ar anifeiliaid bach sy'n cnoi cil fel defaid a geifr yn ogystal â nifer o rywogaethau gwyllt, fel alpafrau a gafrewigod. Er y gellir heintio gwartheg a moch, nid ydynt yn datblygu unrhyw arwyddion clinigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ni chofnodwyd achos o PPR ym Mhrydain Fawr erioed. Mae achosion o PPR mewn defaid wedi cael eu cofnodi yn Rwmania a Gwlad Groeg yn 2024. Mae'n gyffredin yn Affrica, Asia a'r Dwyrain Canol. Gall y clefyd hwn achosi colledion economaidd difrifol gan ei fod yn gysylltiedig â morbidrwydd uchel a marwolaeth. 

Nid yw'r firws PPR yn heintio pobl. Fodd bynnag, gall achosi nifer o achosion mewn anifeiliaid sy'n agored i niwed ac effeithio ar fasnach yn sylweddol. 

Amheuaeth a chadarnhad

Mae Peste des Petits Ruminants yn glefyd anifeiliaid hysbysadwy. Os oes gennych unrhyw amheuon fod y clefyd ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.

Arwyddion clinigol

Gall arwyddion o'r haint gynnwys: 

  • twymyn
  • y llygaid a'r trwyn yn rhedeg, a all ffurfio crwst, gan wneud anadlu'n anodd a gorfodi'r llygaid i gau
  • briwiau erydol yn y geg 
  • dolur rhydd 
  • arwyddion anadlol (peswch a niwmonia) 
  • erthylu 
  • marwolaeth (bydd y rhan fwyaf o eifr a defaid sy'n dangos arwyddion clinigol o'r clefyd yn marw)

Mae hefyd yn golygu y bydd imiwnedd yn lleihau, sy'n gwneud anifeiliaid yr effeithir arnynt yn fwy tebygol o godi heintiau eraill. Gellid cymysgu PPR â chlefydau eraill sy'n achosi twymyn ac arwyddion clinigol hynod o debyg, yn enwedig pan gaiff ei gyflwyno o'r newydd. 

Y clefydau gydag arwyddion tebyg ar gyfer diagnosis tebyg yw: 

  • tafod glas (BT)
  • ceg ddolurus heintus (Orf)
  • clwy'r traed a'r genau
  • plewroniwmonia heintus gafraidd
  • pasteurellosis

Trosglwyddo

Caiff y feirws ei ysgarthu mewn hylifau corfforol anifeiliaid heintiedig, yn enwedig secretiadau o'r:

  • llygaid
  • trwyn
  • ceg
  • ysgarthion

Yn y bôn, caiff y feirws ei drosglwyddo trwy gyswllt ag anifeiliaid heintiedig, neu secretiadau neu ysgarthion ffres gan anifeiliaid heintiedig. Gall ymledu dros bellteroedd byr trwy hylifau corfforol aerosoledig 

Gall trosglwyddiad anuniongyrchol ddigwydd trwy fwyd wedi'i halogi, dŵr, porfeydd a llety anifeiliaid.   

Atal a rheoli

Gallwch helpu i atal Peste des Petits Ruminants rhag lledaenu trwy:

  • cyrchu da byw yn gyfrifol - ymgynghorwch â'ch milfeddyg ar risgiau a statws iechyd anifeiliaid. 
  • parhau i fod yn wyliadwrus o arwyddion o glefydau ac adrodd ar amheuaeth ar unwaith. 
  • cynnal hylendid da a bioddiogelwch ar eich safle, megis cyflwyno cwarantîn ar gyfer anifeiliaid newydd. 

Rhagor o wybodaeth:

Barn Wyddonol ar peste des petits ruminants (wiley.com)

Peste des petits ruminants - WOAH - Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd

Pla Peste des petits ruminants | Feirws | Sefydliad Pirbright