Neidio i'r prif gynnwy

Diben yr ymchwil oedd edrych ar yr hyn sy’n galluogi ac yn rhwystro arferion llwyddiannus sy’n pontio’r cenedlaethau.

Nod arferion sy’n pontio’r cenedlaethau yw dod â phobl at ei gilydd i wneud gweithgareddau pwrpasol sydd o fudd i’r naill a’r llall Mae’r rhain yn hybu gwell dealltwriaeth a pharch rhwng cenedlaethau ac yn cyfrannu at greu cymunedau mwy cydlynol.

Canfyddiadau allweddol

  • Gellir ystyried arferion sy’n pontio'r cenedlaethau fel continwwm o gyswllt rhwng cenedlaethau gwahanol. Mae’namrywio o ymyriadau lefel isel megis digwyddiadau un tro, hyd at ymyrraethau lefel uchel lle mae gweithgareddau yn cael eu sefydlu mewn lleoliadau cymunedol. 
  • Mae perthynas rhwng ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, a ffactorau amrywiol eraill yn ymwneud â llesiant.
  • Mae’r astudiaethau achos yn dangos bod gwaith i bontio’r cenedlaethau yn gwneud mwy i leihau ynysigrwydd cymdeithasol (diffyg cysylltiadau cymdeithasol) nag unigrwydd (canfyddiad o ynysigrwydd)
  • Nodir galluogwyr amrywiol sy’n cyfrannu at arferion pontio’r cenedlaethau sy’n gweithio’n dda (e.e. arweinydd â gweledigaeth, persbectif pendant). Nodwyd hefyd rwystrau sy’n llesteirio gweithredu (e.e. amser, cynllunio, logisteg).
  • Gall arferion sy’n pontio’r cenedlaethau gynnig llawer o fanteision i bobl o wahanol oedran.  Ni  ddylai arferion o’r fath ganolbwyntio ar y manteision i bobl hŷn yn unig. Yn hytrach dylai ganolbwyntio  argymunedau cyfan   a  phobl o bob oed.
  • Gwelwyd bod y manteision yn wahanol rhwng tri phrif grŵp oedran (plant/pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn). Er enghraifft, roedd lleihad mewn lefelau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.  Roedd gwelliant mewn iechyd (meddwl a chorfforol) a llesiant ymysg oedolion a phobl hŷn. Dywedodd plant a phobl ifanc fod gwelliant yn eu hyder a gwybodaeth.
  • Mae rhai is-grwpiau yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn arferion sy’n pontio’r cenedlaethau nag eraill (menywod o’u cymharu â dynion). Er bod rhai arferion yn targedu cynulleidfaoedd penodol, mae’n anoddach cael rhai is-grwpiau i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath.
  • Roedd manteision o arferion sy'n pontio'r cenedlaethau ar lefel y gymuned, megis gwell cysylltiadau ac ymdeimlad cryfach o berthyn.

Adroddiadau

Adolygiad o fecanweithiau allweddol mewn arferion sy'n pontio'r cenedlaethau, a pha mor effeithiol ydynt o ran lleihau unigrwydd/ynysigrwydd cymdeithasol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o fecanweithiau allweddol mewn arferion sy'n pontio'r cenedlaethau, a pha mor effeithiol ydynt o ran lleihau unigrwydd/ynysigrwydd cymdeithasol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ellie Brodie

Rhif ffôn: 0300 062 2126

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.