Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, ar ddiwrnod agoriadol Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, bydd Lesley Griffiths yn gofyn i’r diwydiant amaethyddiaeth ganolbwyntio ar droi heriau Brexit yn gyfleoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn un o brif areithiau brecwast Hybu Cig Cymru, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am nifer o fentrau pwysig, o dan nawdd Llywodraeth Cymru, i roi cymorth i ffermwyr. Y mae llawer ohonynt yn arbennig o berthnasol wrth i’r DU adael yr UE ac wrth i fusnesau fferm baratoi ar gyfer y newidiadau mawr sydd ar y gorwel. 

Bydd system newydd ar gyfer mapio ansawdd tir Cymru’n cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y ffair aeaf eleni, y diweddariad mawr cyntaf ers cynhyrchu’r mapiau cyntaf yn gynnar yn y 1970au. Mae’r Map o’r Categorïau Tir Amaethyddol a Ragwelir yn helpu defnyddwyr tir, cynllunwyr a’r Llywodraeth i wneud penderfyniadau doeth ynghylch sut i ddefnyddio tir amaethyddol yng Nghymru.  

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyhoeddi y bydd dros 91% o’r taliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2017 yn cael eu talu ddydd Gwener (1 Rhagfyr).  Bydd dros £201 miliwn yn cael ei dalu i gyfrifon 14,111 o fusnesau fferm yng Nghymru ar y diwrnod cyntaf y caiff taliadau eu gwneud o dan reolau Ewrop. 

Cyn y ffair aeaf, dywedodd Lesley Griffiths: 

“Heb os nac oni bai, bydd Brexit yn dod â newidiadau mawr a hirdymor.  Bydd peidio â chael cytundeb yn beryglus iawn i’r sectorau hynny sy’n dibynnu’n arbennig ar allforio i’r UE gan gynnwys cig oen.

“Gan y byddwn ni’n gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chan nad yw trefniadau masnachu newydd wedi’u sefydlu eto, nid yw’n bosibl cadw’r status quo presennol. Mae’n rhaid i’r diwydiant a busnesau fferm unigol ganolbwyntio ar droi heriau’n gyfleoedd. 

“O’n rhan ni, rydyn ni eisoes yn gwneud llawer o waith ochr yn ochr â’n partneriaid allweddol wrth geisio sicrhau bod ein sectorau amaeth yn barod ar gyfer Brexit.

“Bydd Brexit yn rhoi cyfle unigryw inni ail-lunio’n fframwaith polisi, mewn modd unigryw Gymreig, i adlewyrchu anghenion a chryfderau Cymru. 

“Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae mewn llunio’r diwydiant wrth inni adael yr UE, ac mae angen arnom ffermwyr sy’n ddewr a chreadigol, ac ar agor i syniadau ac arferion newydd.  

“Yng ngoleuni’r dull newydd hwn o weithio, heddiw dw i’n falch o gael lansio’r Map o’r Categorïau Tir Amaethyddol a Ragwelir ar gyfer Cymru.  Mae’r map yn dangos pa dir sy’n addas ar gyfer tyfu cnydau gwahanol ac mae’n helpu defnyddwyr tir, cynllunwyr a’r Llywodraeth i wneud penderfyniadau doeth ynghylch sut i ddefnyddio’n tir.

“Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod ein diwydiant amaethyddiaeth yn y sefyllfa orau bosib ar gyfer ymdopi â’r heriau a ddaw. Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu atebion sy’n gweithio yng Nghymru, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â’r diwydiant, ein partneriaid ac ag eraill i fanteisio ar bob cyfle."  

Gan siarad am y canlyniad ardderchog mewn perthynas â Chynllun y Taliad Sylfaenol, ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod dros 91% o ffermwyr wedi cael eu taliadau ar y diwrnod cyntaf.  Dyma enghraifft arall o lwyddiant ein dull unigryw Gymreig o weithio a’n record ardderchog o ran taliadau.  Y ffordd y mae ffermwyr Cymru wedi bod yn barod i ddefnyddio’r dechnoleg newydd, RPW Ar-lein, sydd wedi arwain at lwyddiant y system newydd.”