Skip to main content

Fe chwaraeodd Cymru ran bwysig wrth greu Unol Daleithiau America, a rhaid caniatáu i ddelfrydau gwreiddiol y wlad adeg ei sefydlu barhau am genedlaethau i ddod, dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan heddiw wrth nodi Diwrnod Annibyniaeth America.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae gan Gymru hanes hir o gysylltiadau hanesyddol, diwylliannol a byd busnes gyda'r Unol Daleithiau. Mae Cymru'n gartref i 270 o fusnesau Americanaidd, sy'n cyflogi bron i 50,000 o bobl.

Roedd y Cymry ymhlith y rhai cyntaf i ymfudo i America. Crynwyr oedd y grŵp mawr cyntaf a aeth draw yno, gan ymsefydlu ar ddarn mawr o dir yn Pennsylvania dan ofal William Penn, oedd o dras Cymreig ei hun.

Roedd o leiaf bump o’r rhai a lofnododd y Datganiad Annibyniaeth yn Gymry neu o dras Cymreig diweddar. Roedd gan o leiaf wyth o gyn Arlywyddion yr Unol Daleithiau wreiddiau Cymreig, gan gynnwys Thomas Jefferson, Abraham Lincoln, John Adams a John Quincy Adams.

Roedd cynhyrchu dur drwy ddefnyddio glo carreg lleol yn broses unigryw i Gymru - cafodd adeiladwaith to dur y Tŷ Gwyn ei wneud ym Mhontardawe ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Ar un o’r cerrig coffa ar Gofeb Washington fe welir y geiriau “Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl, Wales – Cymru am byth”.

Mae dros 10 miliwn o bobl yn UDA heddiw â chyfenw Cymreig.

Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

"Mae gan Gymru hanes hir o gysylltiadau gyda'r Unol Daleithiau - rhai hanesyddol, diwylliannol ac yn y byd busnes - ac mae Americanwyr o dras Cymreig wedi gwneud cyfraniad pwysig i fywyd yn yr Unol Daleithiau dros y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud hynny.

"Mae'n deg dweud bod y Cymry wedi helpu i adeiladu sylfeini'r genedl sydd wedi datblygu erbyn hyn yn yr Unol Daleithiau fodern a welwn ni heddiw. Roedd y Cymry ymhlith y rhai cyntaf i ymfudo i America. Gwelwyd yr ail don o fewnfudwyr o Gymru ganol y 1800au, ac fe wnaeth hyn barhau drwy gydol y Chwyldro Diwydiannol, pan ddaeth mewnfudwyr o Gymru â sgiliau newydd i ddiwydiannau glo, dur a llechi yn America. Gweithwyr dur o Gymru adeiladodd strwythur dur to'r Tŷ Gwyn hyd yn oed!

"Felly ar Ddiwrnod Annibyniaeth America eleni, rwy' am anfon dymuniadau gorau'r Cymry i'r holl Americanwyr, yn arbennig y 10 miliwn o Americanwyr sy'n dod o linach Cymreig. Fe wnaeth eu cyndeidiau adael Cymru i ddechrau bywyd newydd a chwilio am gyfleoedd newydd mewn byd newydd. Sefydlwyd Unol Daleithiau America ar gyfres o ddelfrydau sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw ar y pryd, sef ein bod ni i gyd wedi'n geni'n gyfartal, a bod gan bob un ohonom ni hawliau penodol – gan gynnwys hawl i fywyd, hawl i ryddid a’r hawl i chwilio am hapusrwydd.

“Dywedodd Abraham Lincoln, a oedd ei hun o dras Cymreig, yn Anerchiad Gettysburg fis Tachwedd 1863 ei fod am atgoffa'r rhai oedd yn bresennol pam y sefydlwyd America 87 o flynyddoedd ynghynt. Ond doedd heb sylweddoli arwyddocâd ei anerchiad, gan feddwl y byddai ei eiriau'n mynd yn angof.

"Fy neges i America heddiw yw hyn - dydy'r geiriau ddim yn angof, ac ni fyddan nhw’n cael eu hanghofio chwaith. Mae'r gyfres o ddelfrydau fu'n sylfaen i America wedi goroesi dros y blynyddoedd, a rhaid caniatáu iddyn nhw oroesi am genedlaethau i ddod."

Heddiw, yr Unol Daleithiau yw un o bartneriaid masnachu mwyaf Cymru.

  • UDA yw ffynhonnell fwyaf mewnfuddsoddi i Gymru, o ran nifer y prosiectau mewnfuddsoddi.
  • UDA yw marchnad allforio fwyaf Cymru y tu allan i Ewrop - yn cyfateb i 14.7% o allforion, gwerth £2.44bn.
  • Mae 3,715 o Americanwyr yn byw yng Nghymru (data Cyfrifiad 2011).

Ddydd Llun, bu Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r DU, Woody Johnson yn bresennol mewn derbyniad yng Nghaerdydd, dan nawdd y Gweinidog, i nodi Diwrnod Annibyniaeth America.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Yr Unol Daleithiau oedd lleoliad fy ymweliad tramor swyddogol cyntaf ym mis Chwefror eleni, a dydy hynny ddim yn gyd-ddigwyddiad. Doeddwn i methu credu cymaint o gysylltiadau oedd rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau, ond hefyd - yn bwysicach o bosib - y cyfleoedd sydd ar gael i Gymru yn yr Unol Daleithiau.

"Yn economaidd, does dim un wlad yn bwysicach i Gymru na'r Unol Daleithiau. Ac wrth gwrs mae hynny'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae gennym ni arbenigedd o'r radd flaenaf mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch ac agweddau arbenigol o wyddorau bywyd fel gwella clwyfau, ac mae Prifysgolion Cymru yn datblygu ymchwil o'r radd flaenaf a phartneriaethau cyfnewid myfyrwyr gyda sefydliadau cyfatebol yn yr Unol Daleithiau. Mae pob un o'r cysylltiadau hyn yn sicrhau bod rhwymau cyfeillgarwch ar draws yr Iwerydd mor gryf ag erioed."

Rhannu’r dudalen hon