Etholiad cyffredinol y DU 2019
Yn esbonio sut mae gweision sifil i barhau’n ddiduedd yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol y DU 2019.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad a chefndir
Fel y gwyddoch, bydd Etholiad Cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal ar 12 Rhagfyr 2019. Dechreuodd cyfnod cynetholiadol ffurfiol Llywodraeth y DU am un funud wedi canol nos ar 6 Tachwedd.
Gan fod rhai o’n cydweithwyr yn gymharol newydd i Lywodraeth Cymru ac yn anghyfarwydd â’r hyn sy’n digwydd adeg etholiad, efallai y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cefndir.
Yn ystod unrhyw gyfnod cynetholiadol, mae’n bwysig bod y cyhoedd yn hyderus nad yw arian Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys amser a sylw y gwasanaeth sifil, yn cael ei ddefnyddio i helpu unrhyw blaid wleidyddol benodol nac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod ymgyrch etholiadol.
Mae’n ofynnol i’r gwasanaeth sifil fod yn gwbl amhleidiol a diduedd yng nghyswllt etholiadau. Er mwyn helpu i sicrhau hyn, mae Prif Weinidog Cymru yn gwahodd y Cabinet i ymrwymo i ddilyn canllawiau i atal unrhyw achosion gwirioneddol neu ymddangosiadol o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion ymgyrchoedd neu weithredoedd sydd wedi’u llunio yn bennaf i ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol, gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, yn cytuno ar ganllawiau ategol ar gyfer y gwasanaeth sifil ar ymddygiad yn ystod cyfnod cynetholiadol.
Mae’r gweithredoedd hyn yn seiliedig ar y codau ymddygiad priodol ar gyfer Gweinidogion a Gweision Sifil, y cyfeirir atynt isod. Gweler y dolenni at God y Gweinidogion a Chod y Gwasanaeth Sifil.
Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n gwaith – bydd ein busnes arferol yn parhau yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol y DU. Er hynny, mae’n anochel y bydd cyfyngiadau ar rai o’n gweithgareddau.
Yn rhinwedd ein swyddi fel swyddogion Llywodraeth Cymru, ein rôl ni yw parhau i gynorthwyo'r Gweinidogion wrth eu gwaith yn unol â’n harfer, gan gofio’r un pryd fod angen osgoi gweithredu mewn modd y bernir, neu y gellid barnu, ei fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu mewn modd sy'n debygol o fod â chysylltiad uniongyrchol ag Etholiad Seneddol y DU.
Diben y nodyn hwn yw rhoi arweiniad cyffredinol ar yr effaith y gallai cyfnod cynetholiadol Llywodraeth y DU ei chael ar swyddogion sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru - bydd staff Comisiwn y Cynulliad yn cael arweiniad ar wahân sy’n cael ei baratoi yng ngoleuni eu hamgylchiadau penodol hwy. Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn cael eu hysbysu am egwyddorion y canllawiau hyn. Bydd y canllawiau'n berthnasol hyd at y diwrnod pleidleisio.
Noder nad oes disgwyl etholiadau eraill yng Nghymru ar 12 Rhagfyr 2019.
Nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â phob achos a allai godi yn ystod y cyfnod cynetholiadol, ac ni allant wneud hynny.
Os oes gennych unrhyw amheuon o gwbl am yr hyn y dylech ei wneud, cysylltwch â’ch Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr eich Adran neu â'r swyddog cyswllt priodol a restrir ym mharagraff 11 o'r nodyn hwn.
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod y cyfnod cynetholiadol. O dan y cod hwnnw, rhaid i weision sifil barchu dwy egwyddor sylfaenol bob amser:
- bod yn wleidyddol ddiduedd, a bod yn amlwg felly i eraill
- sicrhau nad oes adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid
O dan y Cod hwnnw, disgwylir i weision sifil Llywodraeth Cymru fod yn deyrngar i Lywodraeth Cymru. Felly, o ran y canllawiau pellach sy’n gymwys yn Adrannau Llywodraeth y DU - sydd i bob pwrpas yn atal llawer o weithgarwch y llywodraeth dros gyfnod yr ymgyrch – nid ydynt yn gymwys yng Nghymru. O'r herwydd, dylai swyddogion barhau i weithio tuag at gefnogi’r Gweinidogion a chyflawni'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ac i ymgymryd â busnes arall Llywodraeth Cymru.
Brexit
Mae adrannau canlynol y canllawiau hyn yn amlinellu’r rheolau cyffredinol ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chefnogi Gweinidogion, gan gynnwys cyfathrebu, yn ystod cyfnod cynetholiadol. Fodd bynnag, bydd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn fater arwyddocaol yn yr etholiad a bydd Gweinidogion Cymru am hyrwyddo safbwynt cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cynetholiadol.
Nid yw Gweinidogion Cymru wedi’u cyfyngu rhag siarad am y mater hwn, nac unrhyw fater arall, megis record Llywodraeth y DU, boed hynny mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Er y bydd gan Weinidogion ryddid i weithredu yn rhinwedd eu rôl wleidyddol, bydd gofyn i swyddogion lynu’n agos wrth safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas a Brexit, er mwyn osgoi cael eu tynnu i faes a fydd yn anorfod yn un gwleidyddol. Os oes gennych amheuon, dylid gofyn am gyngor gan eich Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr eich Adran.
2. Cynorthwyo'r gweinidogion: papurau briffio, cyflwyniadau ysgrifenedig a busnes arferol
Yn ystod y cyfnod cynetholiadol ni ddylid, yn arferol, ofyn i'r Gweinidogion wneud penderfyniadau sensitif neu uchel eu proffil ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Lywodraeth y DU neu sy’n effeithio ar berthynas Llywodraeth Cymru â hi, pe gellid dehongli hynny fel ymgais i ddylanwadu ar yr etholiad. Dylid gohirio penderfyniadau o'r fath tan ar ôl yr etholiad. Dylid parhau i ddelio â materion arferol.
Yn fwy cyffredinol, dylai swyddogion barhau i roi cyngor i'r Gweinidogion a’u briffio, a bwrw ymlaen â'u gwaith fel arfer, heb anghofio'r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn ein gwaith (gan gynnwys papurau briffio ac atebion i ohebiaeth) a allai awgrymu neu a allai beri i rywun feddwl ein bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu un neu fwy o'r pleidiau gwleidyddol yng nghyd-destun etholiad yn y DU. Fel y nodir yn yr adran uchod, bydd Gweinidogion Cymru am barhau i hyrwyddo safbwynt cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar Brexit yn ystod y cyfnod cynetholiadol, ond rhaid bod yn ofalus wrth ystyried priodoldeb gweithgareddau swyddogol yn y maes hwn. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor eich Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr eich Adran.
3. Ymdrin â gohebiaeth, cwestiynau'r cynulliad, ceisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, ac ymholiadau
Dylai swyddogion, drwy gydol y cyfnod cynetholiadol, barhau i lunio ymatebion i ohebiaeth y Gweinidogion a llunio atebion i Gwestiynau'r Cynulliad yn unol â'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes.
Os yw swyddogion yn pryderu nad yw’n briodol, o bosibl, ymateb i eitem benodol o ohebiaeth oherwydd natur yr ateb a gâi ei roi, yna dylid paratoi cyngor i’r Gweinidogion benderfynu sut y dylid ymdrin â gohebiaeth o’r fath.
Mae pob cais am wybodaeth yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer rhaid ymateb iddynt o fewn 20 niwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i chofnodi nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, dylid parhau i ymdrin â'r ceisiadau hynny yn unol â’r Canllawiau i Staff sy’n Trin Ceisiadau am Wybodaeth a Gofnodwyd (Saesneg yn unig). Er hynny, yn ystod y cyfnod cynetholiadol, mae’n arbennig o bwysig i swyddogion gofio goblygiadau gwleidyddol ymatebion i geisiadau a dylid trafod sut i ymdrin â cheisiadau sydd â goblygiadau gwleidyddol â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran perthnasol.
Dylid ymdrin â phob cais o'r fath yn yr un ffordd, ni waeth beth fo ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n ei wneud.
4. Cyfathrebu
Bydd angen i Lywodraeth Cymru barhau i gyhoeddi a chyflwyno ei pholisïau i'r cyhoedd yn ystod yr ymgyrch. Yn ystod y cyfnod cynetholiadol, fodd bynnag, ni ddylid gwneud unrhyw gyhoeddiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar yr etholiad. Dylid gohirio cyhoeddiadau o'r fath tan ar ôl yr etholiad. Fodd bynnag, fel y nodir yn yr adran uchod, nid yw hyn yn atal Gweinidogion Cymru rhag hyrwyddo safbwynt cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar Brexit yn ystod y cyfnod cynetholiadol.
Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru geisio gwneud cyhoeddiadau ac ati ar y cyd ag adrannau Whitehall. Mae Llywodraeth y DU’n destun rheolau llawer tynnach yn ystod yr ymgyrch. Os oes angen gwneud cyhoeddiad ar y cyd, dylid ei ohirio tan ar ôl yr etholiad.
Yn fwy cyffredinol, dylid cymryd gofal arbennig wrth wneud cyhoeddiadau, trefnu digwyddiadau cyhoeddus, ymdrin â straeon ar wefan Llywodraeth Cymru, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, ac ymgymryd â gwaith marchnata a chyhoeddusrwydd y telir amdano. Dylai'r gwaith fynd yn ei flaen fel arfer, ond dylai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran a’r swyddogion cyfathrebu perthnasol ddefnyddio prawf sensitifrwydd ym mhob achos. Y rheol gyffredinol yw na ddylid rhoi'r argraff i unrhyw un fod unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau hyn yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid. Dylid bod yn arbennig o ofalus ynghylch cyhoeddiadau newydd ac arwyddocaol am bolisïau neu wariant sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag un etholaeth unigol neu nifer bach iawn ohonynt yn ystod cyfnod yr etholiad, er mwyn lleihau’r canfyddiad y gallai’r rhain ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Gellir dal i wneud cyhoeddiadau gwariant rhanbarthol a chenedlaethol os oes angen, yn unol â’r ffordd y gwneir hynny fel arfer.
Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu. Mae canllawiau penodol wedi’u paratoi ar gyfer swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu a Rheolwyr y We yn yr Adrannau (Atodiad A). Mae'r gweithdrefnau awdurdodi sy’n gysylltiedig â rhyddhau newyddion yn cael eu hailadrodd yn y canllawiau hyn.
Bydd swyddogion yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi neu swyddogion eraill sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yn cael eu canllawiau manwl eu hunain hefyd (Atodiad B).
Ymdrin â gohebiaeth, cwestiynau'r cynulliad, ceisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, ac ymholiadau
Dylai swyddogion, drwy gydol y cyfnod cynetholiadol, barhau i lunio ymatebion i ohebiaeth y Gweinidogion a llunio atebion i Gwestiynau'r Cynulliad yn unol â'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes.
Os yw swyddogion yn pryderu nad yw’n briodol, o bosibl, ymateb i eitem benodol o ohebiaeth oherwydd natur yr ateb a gâi ei roi, yna dylid paratoi cyngor i’r Gweinidogion benderfynu sut y dylid ymdrin â gohebiaeth o’r fath.
Mae pob cais am wybodaeth yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer rhaid ymateb iddynt o fewn 20 niwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i chofnodi nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, dylid parhau i ymdrin â'r ceisiadau hynny yn unol â’r Canllawiau i Staff sy’n Trin Ceisiadau am Wybodaeth a Gofnodwyd (Saesneg yn unig). Er hynny, yn ystod y cyfnod cynetholiadol, mae’n arbennig o bwysig i swyddogion gofio goblygiadau gwleidyddol ymatebion i geisiadau a dylid trafod sut i ymdrin â cheisiadau sydd â goblygiadau gwleidyddol â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran perthnasol.
Dylid ymdrin â phob cais o'r fath yn yr un ffordd, ni waeth beth fo ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n ei wneud.
5. Cydweithio ag adrannau Whitehall
Bydd swyddogion Whitehall hefyd yn cael canllawiau am yr etholiad oddi wrth Swyddfa'r Cabinet yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Os yw swyddogion Llywodraeth Cymru yn arfer cydweithio ag adrannau Llywodraeth y DU, dylent barhau i drafod â'r swyddogion sy’n cyfateb iddynt yn Whitehall.
6. Ymgynghori
Os yw Llywodraeth Cymru yn paratoi polisi, rhaglen neu gynigion deddfwriaethol newydd ac os yw'n ofynnol iddi ymgynghori, bydd ymgyngoriadau, fel arfer, yn dal i gychwyn a mynd rhagddynt yn ystod cyfnod yr ymgyrch, oni bai bod pwyslais penodol ar faterion sy’n ymwneud â Llywodraeth y DU. Os oes ymgyngoriadau i fod i ddigwydd yn ystod y cyfnod cynetholiadol a allai effeithio ar ein perthynas â Llywodraeth y DU, dylai’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran gynnal prawf sensitifrwydd er mwyn gweld a oes unrhyw faterion a allai fod yn rhai dadleuol yn wleidyddol, ac wedyn ei drafod ag Is-adran y Cabinet yn ôl yr angen.
Bydd ymgyngoriadau ar gyfer y DU gyfan neu ymgyngoriadau ar y cyd rhwng un o adrannau Llywodraeth Whitehall a Llywodraeth Cymru sydd eisoes wedi cychwyn ar ddechrau’r cyfnod cynetholiadol yn parhau. Er hynny, ni chaiff unrhyw ymgyngoriadau newydd eu lansio gan Adrannau Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod hwn.
7. Gweithgarwch gwleidyddol gan swyddogion
Dylai swyddogion ymgynefino â’r rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, gan fod angen i'r rhan fwyaf o staff y Llywodraeth ofyn am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
Mae’r rheolau hyn i’w gweld yn y ddogfen Cod Telerau ac Amodau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) (Cymryd Rhan mewn Gweithgareddau Gwleidyddol, paragraffau 2.36 - 2.42) ac yn y canllawiau ar weithgarwch gwleidyddol yn Pobl, Polisïau a Gweithdrefnau (Saesneg yn unig).
Os oes unrhyw un sy’n cael ei gyflogi* gan Lywodraeth Cymru am ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol neu weithgarwch ymgyrchu mewn cysylltiad ag Etholiad Cyffredinol y DU, gan gynnwys sefyll fel ymgeisydd, dylai geisio caniatâd yn ysgrifenedig yn gyntaf oddi wrth ei Bartner Busnes Adnoddau Dynol, gan wneud hynny drwy ei reolwr llinell. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr cyflogedig ar secondiad i gyrff y tu allan i Lywodraeth Cymru ac, yn ystod eu penodiad, unigolion ar secondiad i Lywodraeth Cymru. Mae gan weithwyr sydd ar "raddau diwydiannol a graddau heb fod mewn swyddfa" yr hawl i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol. Er mwyn gweld diffiniad o'r graddau hyn, dylech droi at y canllawiau ar weithgarwch gwleidyddol yn Pobl, Polisïau a Gweithdrefnau - Gweithgareddau Gwleidyddol.
Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio, y llinyn mesur yw a yw'r sawl sy'n gofyn yn gweithio mewn "maes sensitif" ai peidio. (Mae'r term "maes sensitif" yn cael ei esbonio'n fanwl yn y polisi ar weithgarwch gwleidyddol). Gallai Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddai'n caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfodydd.
8. Defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru
Ni ddylid defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylech geisio defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion o'r fath, nac arddangos posteri etholiadau ac ati ar safleoedd Llywodraeth Cymru. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu hanfon at Ymddiriedolaethau'r GIG, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac ati, ynghylch defnyddio'u hystadau hwy.
9. Swyddogion yn swyddfeydd preifat y gweinidogion
Dylai swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion yn eu dyletswyddau swyddogol drwy gydol y cyfnod cynetholiadol.
Efallai y bydd Gweinidogion am gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac fel y cyfryw efallai y bydd swyddogion swyddfeydd preifat am drafod egwyddorion y canllawiau hyn gyda’r Gweinidogion cyn dechrau’r cyfnod cynetholiadol ffurfiol, neu pan fo’n briodol. Bydd papur Cabinet ar wahân ar gael, yn nodi disgwyliadau Prif Weinidog Cymru o ran ymddygiad y Gweinidogion yn ystod y cyfnod cynetholiadol.
Bydd y Gweinidogion, yn ôl yr arfer, yn ddarostyngedig i delerau Cod y Gweinidogion, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw eu rolau Gweinidogol a gwleidyddol ar wahân. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion gyda'u dyletswyddau swyddogol bob amser, ond dylent ddarllen y canllawiau ar ymdrin â Gohebiaeth, Cwestiynau'r Cynulliad, ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a'r ceisiadau hynny am wybodaeth a amlinellir ym mharagraff 3 o'r canllawiau hyn.
Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fynd i ddigwyddiadau sy'n amlwg at ddibenion yn ymwneud â phlaid neu at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylent ychwaith ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Yn benodol, ni ddylent drefnu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn adeiladau Llywodraeth Cymru nac yn unman arall, na chomisiynu areithiau na phapurau briffio, na threfnu cefnogaeth arall ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig â phlaid neu ag ymgyrchu.
10. Cynghorwyr arbennig
Bydd cynghorwyr arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, i'r Gweinidogion. Bydd cynghorwyr arbennig wedi derbyn canllawiau ar wahân ar sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cynetholiadol.
11. Rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt
Yn y lle cyntaf, dylech bob amser gymryd gofal ac os oes gennych unrhyw amheuon, dylech drafod â’ch rheolwr llinell, gan uwchgyfeirio’r mater i’ch Cyfarwyddwr neu Gyfarwyddwr eich Adran os oes angen. Gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, oddi wrth y cysylltiadau isod. Dylech anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy'r e-bost.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch:
- Briffio Gweinidogion a materion tebyg: Yr ysgrifennydd preifat perthnasol.
- Gohebiaeth Weinidogol: Clercod Gohebiaeth ym mhob swyddfa breifat.
- Caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth: Blwch post y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth.
- Ymddygiad personol swyddogion (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sydd am gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac ati: Eich Tîm Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol.
- Cyhoeddiadau, digwyddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd: Toby Mason, y Pennaeth Cyfathrebu Strategol, neu Simon Jenkins, y Pennaeth Newyddion.
- Staff yn y swyddfeydd preifat: Damian Roche neu Tom Roberts, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Unrhyw gwestiwn arall am y canllaw hwn: Damian Roche neu Tom Roberts, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2019
Atodiad A: canllawiau ar gyfathrebu i bob aelod o staff yn y cyfnod cyn yr etholiad
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r holl staff sy’n ymwneud â chyfathrebu a marchnata ac mae’n ategu’r Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Swyddogion Llywodraeth Cymru. Daeth i rym ar 6 Tachwedd 2019, ac fe fydd yn parhau tan y diwrnod pleidleisio ar 12 Rhagfyr 2019.
Mae’r canllawiau’n ymwneud â’r gweithgareddau isod:
- y cyfryngau: darlledu, print ac electronig
- sianeli mewnol, sianeli cyfryngau cymdeithasol neu sianeli electronig eraill
- cyfryngau y telir amdanynt
- cyfathrebu â rhanddeiliaid ac unrhyw gyfathrebu uniongyrchol arall; digwyddiadau, ymweliadau
- unrhyw weithgareddau cyfathrebu eraill sy’n debygol o effeithio ar ganlyniadau’r etholiad
Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni eu swyddogaethau yr un fath ag o’r blaen yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Ond rhaid cofio y gallai rhai o weithgareddau Llywodraeth Cymru effeithio ar ymgyrch Etholiad Cyffredinol y DU.
Nid yw Gweinidogion Cymru yn cael eu cyfyngu rhag siarad am record Llywodraeth y DU, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol, yn ystod cyfnod yr etholiad. Er enghraifft, bydd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn fater arwyddocaol yn yr etholiad, ond bydd y Gweinidogion am barhau â gweithgarwch cyfathrebu mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn. Fodd bynnag, rhaid gofalu bod cymorth a gweithgarwch cyfathrebu y gwasanaeth sifil yn cael eu cynnal i hyrwyddo safbwynt Llywodraeth Cymru, a’u bod yn cydymffurfio’n llwyr â’r didueddrwydd arferol o ran gwleidyddiaeth plaid.
Gweithgareddau cyfathrebu
Nid yw’r rhain yn faterion du a gwyn fel arfer. Yn aml bydd gofyn barnu a yw gweithgaredd cyfathrebu yn un addas, ynteu a allai gael ei weld fel rhywbeth a allai ddylanwadu ar ganlyniad etholiad. Felly, dylid pwyso a mesur pob achos yn unigol.
Mewn rhai achosion, efallai y byddai’n well gohirio ymgyrch, ymweliad neu ddatganiad i’r wasg tan ar ôl yr etholiad. Ond byddai angen ystyried hynny’n ofalus, rhag ofn y ceid awgrym y gallai’r gohirio ynddo’i hun ddylanwadu ar y canlyniad gwleidyddol:
- ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd y telir amdanynt – ni ddylent fod yn agored i feirniadaeth eu bod yn cael eu cynnal at ddibenion pleidiol wleidyddol.
- dylid bod yn ofalus wrth drin ymweliadau arfaethedig gan Weinidogion. Yn amlwg, ni ddylid rhoi cymorth swyddogion na chyhoeddusrwydd gan y llywodraeth mewn perthynas ag ymweliadau a digwyddiadau a gynhelir gan bleidiau at ddiben gwleidyddol neu er mwyn ymgyrchu.
- yn achos ymgyngoriadau, byddai’n well peidio â gwneud dim byd sy’n cystadlu â’r ymgeiswyr am sylw’r cyhoedd. I bob pwrpas, felly, mae hynny’n golygu peidio â chynnal gweithgareddau cyhoeddusrwydd na digwyddiadau ar gyfer ymgyngoriadau sy’n dal ar y gweill.
- bydd gwefannau swyddogol a sianeli ar-lein (er enghraifft tudalennau newyddion a negeseuon trydar Llywodraeth Cymru) yn cael eu hastudio’n ofalus gan y cyfryngau newyddion a chan y pleidiau gwleidyddol yn ystod cyfnod yr etholiad, wrth iddynt chwilio am unrhyw dueddiadau gwleidyddol.
- ni ddylid cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y cyfnod cynetholiadol.
- rhaid bod yn hynod ofalus wrth gyfrannu dyfyniadau gan Weinidogion a Dirprwy Weinidogion i’w cynnwys mewn datganiadau i’r wasg gan sefydliadau eraill. Dylai’r Pennaeth Newyddion gael gweld pob datganiad i’r wasg a anfonir atom gan sefydliadau eraill, yn enwedig os ydynt yn ymwneud yn benodol â Llywodraeth y DU.
- ni ddylai dyfyniadau gweinidogol sydd i’w defnyddio mewn datganiadau trydydd parti gael eu cymeradwyo cyn gweld drafft terfynol o’r datganiad cyfan. Mae angen inni weld pwy arall sy’n cael ei ddyfynnu a beth maen nhw’n ei ddweud, ac mae angen inni wybod ym mha gyd-destun yn union y mae’r Gweinidog yn cael ei ddyfynnu.
- dylid bod yn ofalus wrth roi ymatebion i’r cyfryngau yn ystod y cyfnod cynetholiadol ac, yn yr un modd â’n busnes arferol, ni ddylent allu cael eu dehongli fel safbwynt plaid wleidyddol. Unwaith eto, gofynnwch am gyngor gan Toby Mason neu Simon Jenkins os ydych yn ansicr.
Rhaid i bob datganiad, llinell a dyfyniad i’r wasg gael eu clirio yn unol â’r protocol arferol.
Defnyddio safleoedd a deunyddiau Llywodraeth Cymru neu gyrff a noddir ganddi
- Ni ddylai safleoedd y Llywodraeth gael eu defnyddio at unrhyw ddibenion etholiadol.
- Ni ddylai deunyddiau a gynhyrchir gan y Llywodraeth gael eu defnyddio mewn unrhyw fodd i gefnogi’r ymgyrchu, ee ar wefannau ac mewn taflenni.
- Yn achos eiddo’r GIG, mater i’r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol fydd penderfynu. Ond os caniateir ymweliadau ag ysbytai, er enghraifft, ni ddylid amharu ar y gwasanaethau a dylai’r un cyfleusterau gael eu cynnig i’r ymgeiswyr eraill. Fodd bynnag, cynghorir peidio â chaniatáu i gyfarfodydd etholiadol gael eu cynnal yn eiddo’r GIG.
- Rhaid i benderfyniadau ar ddefnyddio eiddo arall yn y sector cyhoeddus neu eiddo cysylltiedig gael eu gwneud gan y rhai sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am yr eiddo dan sylw. Er enghraifft, yn achos ysgolion, y Llywodraethwyr neu’r Awdurdod Addysg Lleol neu Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ac yn y blaen. Os bydd y rhain yn cysylltu ag Adrannau, dylid dweud wrthynt mai eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud y penderfyniad ond y bydd disgwyl iddynt fel rheol drin ymgeiswyr pob plaid yn gyfartal.
Casgliad
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, y peth gorau i’w wneud bob amser yw holi’r Pennaeth Newyddion neu’r Pennaeth Cyfathrebu cyn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cyfathrebu a allai fynd yn groes i God y Gwasanaeth Sifil.
Atodiad B: Canllawiau ar gyfer gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil yn y cyfnod cynetholiadol
Dyma ganllawiau i'r holl staff sy'n ymwneud â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys staff yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) ond mae hefyd yn berthnasol i staff mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru. Hefyd, dylai'r cyrff sy'n bartneriaid inni ac eraill sy'n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru, ee Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, dalu sylw i'r canllawiau hyn. Maent yn ategu'r Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd y canllawiau'n berthnasol hyd at y diwrnod pleidleisio ar 12 Rhagfyr 2019, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.
Nid yw'r canllawiau yn ymdrin â phob posibilrwydd, ac os bydd unrhyw faterion eraill yn codi yn ystod yr ymgyrch, dylech eu codi yn gyntaf gyda'r Pennaeth Polisi a Safonau Ystadegol neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a fydd yn rhoi arweiniad.
I grynhoi:
Ar gyfer ystadegau swyddogol – fel arfer, sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (dogfen Saesneg yn unig) a'r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.
Ar gyfer ymchwil – mae cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a'r protocol cyhoeddi yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod cynetholiadol.
Rhaid osgoi:
- Rhyddhau cyhoeddiadau ystadegol neu ymchwil ad hoc
- Cyhoeddi ystadegau ar ddyddiad yr etholiad
- Cynnal arolygon neu ymchwil arall a allai fod yn ddadleuol
- Dosbarthu deunydd a allai gael ei ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu.
Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol, Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol (manylion cyswllt isod).
Egwyddorion
1. Dylech bob amser ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (dogfen Saesneg yn unig), Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a chod ymarfer a phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
2. Peidiwch â chystadlu â phleidiau ac ymgeiswyr am sylw'r cyhoedd.
3. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid na chael eich defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle bo'n ymddangos eich bod yn gwneud hynny.
Cyhoeddi ystadegau
4. Dylid cyhoeddi deunydd ystadegol (Datganiadau Cyntaf, Bwletinau, Erthyglau, Penawdau a Chyhoeddiadau) y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cynetholiadol. Peidiwch â chyhoeddi unrhyw ddeunydd ystadegol ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt a pheidiwch â gohirio cyhoeddi unrhyw ddeunydd y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt gan y gallai'r cymhelliad dros wneud hynny gael ei gwestiynu.
Dylech osgoi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddyddiad yr etholiad. Os oes allbwn wedi’i gyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y dyddiad hwnnw, dylech ymgynghori â’r Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol a glynu wrth ganllawiau'r GSS ar gyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddiwrnodau pleidleisio.
5. Dylid parhau i gyhoeddi negeseuon trydar yn ymwneud â chyhoeddi deunydd ystadegol trwy gyfrifon @ystadegaucymru a @statisticswales. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cynetholiadol, dylid osgoi cynhyrchu ffeithluniau neu siartiau newydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi'u llunio na'u cyhoeddi yn flaenorol.
6. Cymerwch ofal mawr drwy'r amser i fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol yn y modd y byddwch yn cyflwyno ac yn disgrifio ystadegau ac mewn cyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb.
Cyhoeddi adroddiadau ymchwil
7. Dylid cyhoeddi unrhyw adroddiadau y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cynetholiadol. Fodd bynnag, gan ystyried y cyfnod rhag-hysbysiad byr (pythefnos) ar gyfer ymchwil, y disgwyliad cyffredinol yw na fydd ymchwil yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod. Er hyn, os oes rhesymau dros gyhoeddi yn ystod y cyfnod cynetholiadol dylid rhoi cyfnod rhag-hysbysiad hirach a chlirio'r mater â'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Gallwch ofyn am gyngor ar achosion penodol hefyd gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.
Caffael ymchwil
8. Ni ddylid ymgymryd â gweithgarwch caffael ar gyfer ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Dylid gofyn am gyngor gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol os oes amgylchiadau sy'n golygu na fyddai'n bosibl aros tan ar ôl yr etholiad i ddechrau'r broses gaffael.
Ceisiadau am wybodaeth neu gyngor
9. Dylid ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ffeithiol yn unol â'r Canllawiau i Staff Llywodraeth Cymru. Os nad yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn ffeithiol, cyfeiriwch y person at Swyddfa Breifat y Gweinidog priodol.
10. Byddwch yn deg wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth ffeithiol gan ymgeiswyr – er enghraifft o ran manylder yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ac o ran prydlondeb eich ateb.
11. Dylech barhau i ymateb i geisiadau am arweiniad ffeithiol ar fethodoleg.
12. Cymerwch ofal mawr wrth ymdrin â cheisiadau am gyngor ar ddehongli neu ddadansoddi ystadegau, yn arbennig ceisiadau sy'n ymwneud â pholisïau neu addewidion maniffesto pleidiau. Peidiwch â chostio polisïau nac addewidion heb ymgynghori'n gyntaf â'r Is-adran Cyllidebu Strategol.
13. Bydd y deunydd sy'n cael ei lunio'n rheolaidd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth ystadegol bob pythefnos yn parhau i gael ei gyhoeddi trwy'r cyfnod cynetholiadol. Dylid sicrhau y rhoddir gwybod i'r tîm cyhoeddiadau Ystadegol am geisiadau o'r fath gan ei bod yn bwysig y gwneir hyn yn systematig gan osgoi'r argraff o ddethol.
Ceisiadau am ddeunydd sydd wedi'i gyhoeddi
14. Gallwch ddarparu niferoedd bach o daflenni, papurau cefndir neu gyhoeddiadau am ddim a oedd ar gael cyn cyfnod yr etholiad, mewn ymateb i geisiadau amdanynt. Peidiwch â chaniatáu archebion mawr heb ganiatâd y Prif Ystadegydd, oherwydd mae'n bosibl mai'r bwriad yw eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Mae hyn hefyd yn unol â'n hymrwymiad i leihau nifer y cyhoeddiadau papur rydym yn eu cynhyrchu.
Arolygon
15. Gallwch barhau i gynnal cyfrifiadau ac arolygon rheolaidd, arolygon parhaus ac arolygon sydd ar y gweill eisoes. Gall arolygon ad hoc sy'n rhan o gyfres ystadegol barhaus gael eu cynnal hefyd.
16. Gall arolygon ad hoc eraill fynd yn destun dadl neu fod yn gysylltiedig â mater yn ymwneud â'r etholiad. Lle bo hyn yn debygol dylech ystyried eu gohirio neu eu canslo. Petai hyn yn anodd neu'n gostus holwch Dîm Cyngor Arolygon y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi am gyngor.
Ymchwil maes
17. Yn gyffredinol, ni ddylid gwneud gwaith maes sy'n ymwneud â phrosiect ymchwil yn ystod y cyfnod cynetholiadol, er y gall fod yn amhosibl osgoi'r cyfnod cynetholiadol ar gyfer gwaith arolwg parhaus neu waith ymchwil lle mae amser yn hollbwysig. Dylid gofyn i'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol am gyngor ar achosion penodol.
Cyngor
18. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r bobl isod.
Enwau cyswllt yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS)
Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol – Rachel Lloyd – 03000 253357
Prif Ystadegydd – Glyn Jones – 03000 256691
Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol – Steven Marshall 03000 255868