Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhewch eich bod yn darllen eich contract adnewyddedig yn ofalus. Bydd hefyd angen ichi ddarllen yr wybodaeth isod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach, cysylltwch â Taliadau Gwledig Cymru.

Pam eich bod yn cael cynnig estyniad i’ch contract?

Rydym am sicrhau bod y budd amgylcheddol gwerthfawr a ddarperir gan ddeiliaid y contractau presennol yn parhau.

Am ba hyd y bydd eich contract yn cael ei estyn?

Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig ym mis Medi y byddai contractau Glastir yn cael eu hestyn tan ddiwedd 2023.

Bydd contractau Tir Comin Glastir a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2021 yn cael eu hestyn am flwyddyn. Byddant yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

Bydd estyniad pellach o flwyddyn yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2023 ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Bydd y contract estynedig yr un peth â’ch contract presennol sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2021.

Bydd angen ichi dderbyn eich estyniad o fewn y terfyn amser

Bydd y contract yn cael ei gynnig drwy Taliadau Gwledig Cymru. Yna bydd angen ichi dderbyn y contract hwn drwy RPW ar-lein o fewn 21 diwrnod o ddyddiad cynnig y contract.

Bydd eich contract Glastir presennol yn dod i ben os nad ydych yn derbyn yr estyniad erbyn y terfyn amser.

Gwrthod eich estyniad

Nid oes angen ichi gymryd unrhyw gamau os ydych yn dymuno gwrthod yr estyniad. Ni fydd y contract ar gael i’w dderbyn ar ôl i’r 21 diwrnod fynd heibio.

Os ydych yn penderfynu estyn eich contract, bydd angen ichi ad-dalu unrhyw daliadau a wnaed o dan:

  • y contract gwreiddiol, neu’r
  • contract adnewyddedig presennol, ac
  • unrhyw gontract(au) estynedig neu adnewyddedig dilynol.

Ymrwymiadau sy’n parhau os ydych yn gwrthod y cynnig

Nid oes unrhyw ymrwymiadau contract sy’n parhau, ond cofiwch:

  • barhau i gadw llygad ar yr holl ofynion rheoleiddiol priodol, er enghraifft, Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar dir sy’n cael ei ddisgrifio’n gynefin
  • y bydd angen ichi o bosib gael penderfyniad sgrinio EIA cyn ymgymryd ag unrhyw waith gwella amgylcheddol

Hawlio eich taliad blynyddol

Rhaid ichi barhau i hawlio eich taliad blynyddol drwy’r Elfen Tir Comin yn unol â’ch contract gwreiddiol.

Rhaid ichi hefyd sicrhau bod y cnydau a’r ardaloedd a ddatganwyd yn adlewyrchu’n glir y gofynion ar gyfer unrhyw opsiwn rheoli.

Effaith ar daliadau a gafwyd o dan eich contract Glastir gwreiddiol os ydych yn torri’r rheolau yn ystod cyfnod estyniad eich contract adnewyddedig

Mae eich contract adnewyddedig yn gontract newydd ac yn un ar wahân i’ch contract 5 mlynedd gwreiddiol.

Os bydd rheolau yn cael eu torri yn ystod cyfnod yr estyniad, byddwn yn eich cosbi drwy hawliadau yn ystod cyfnod eich contract adnewyddedig.

Os bydd y dystiolaeth yn dangos bod hyn yn digwydd yn ystod cyfnod y contract gwreiddiol, gallwn eich cosbi drwy hawliadau a dalwyd eisoes.

Gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r tramgwydd, gallwn ddod â’ch contract gwreiddiol a/neu adnewyddedig i ben, ac adennill yr holl arian a dalwyd.

Tir ychwanegol a gafaelwyd (prynwyd/rhentwyd) yn ystod cyfnod eich contract Glastir - Tir Comin

Gan fod hyn yn estyniad i’ch contract presennol, dim ond i dir sy’n rhan o’r contractau Glastir gwreiddiol y mae’n berthnasol.

Newidiadau i’r Gymdeithas Pori

Rhaid ichi roi gwybod i RPW am unrhyw newidiadau i aelodau’r Gymdeithas Pori o fewn 30 diwrnod.