Neidio i'r prif gynnwy

Penaethiaid Cynllunio
Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru

18/03/2021

 

Annwyl Gydweithwyr

Ar ddechrau'r pandemig nodwyd angen dybryd am gyfleusterau dros dro i gynorthwyo gyda'r ymateb gan Awdurdodau Lleol a chyrff y GIG. Felly ychwanegwyd Rhan 3A (Adeiladu Dros Dro a Newidiadau Defnydd at Ddibenion Argyfwng Iechyd y Cyhoedd) a 12A (Datblygiad Brys gan Awdurdodau Lleol) at Atodlen 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (y "GPDO"), gan roi caniatâd cynllunio 12 mis ar gyfer datblygu er mwyn atal, rheoli neu liniaru effeithiau, neu gymryd camau eraill mewn cysylltiad ag argyfwng iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

Roedd cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir yn hwyluso darparu cyfleusterau brys ar unwaith i helpu i achub bywydau ac ymdrin â marwolaethau ychwanegol heb orfod mynd drwy'r broses gynllunio arferol.

Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau y mae angen eu cadw y tu hwnt i'r cyfnod caniatâd dros dro i barhau i reoli'r pandemig, drwy gais i'r awdurdod cynllunio lleol. Nid yw rhai cyrff cyhoeddus wedi gallu ceisio caniatâd cynllunio i gadw datblygiad hanfodol felly mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ymestyn y cyfnod i ddatblygiadau dros dro ar gyfer rhai datblygiadau brys. Felly, mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021 wedi'i wneud a daw i rym ar 21 Mawrth. Mae'n diwygio Atodlen 2 i'r GPDO fel a ganlyn:

  • Mae Erthygl 3 yn diwygio paragraff A.2(c) o Ran 3A o Atodlen 2 (Adeiladu Dros Dro a Newidiadau Defnydd at Ddibenion Argyfwng Iechyd y Cyhoedd) y GDPO. Mae hyn yn ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid i unrhyw ddefnydd o adeilad neu dir at ddibenion Dosbarth A ddod i ben a rhaid gwaredu unrhyw adeilad, strwythur symudol, gwaith a pheiriannau a ganiateir gan Ddosbarth A gan adfer yr adeilad neu'r tir i'w gyflwr cyn i'r datblygiad ddigwydd, neu i unrhyw gyflwr arall y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng yr Awdurdod Lleol a'r datblygwr o ddeuddeg i ddeunaw mis pan fydd y datblygiad yn dechrau cyn 10 Ebrill 2021.
  • Mae Erthygl 4 yn diwygio paragraff A.1(b) o Ran 12A o Atodlen 2 (Datblygiad Brys gan Awdurdodau Lleol), gan ymestyn y cyfnod pryd y mae'n rhaid i unrhyw ddefnydd o dir at ddiben Dosbarth A ddod i ben a rhaid gwaredu ac adfer unrhyw adeiladau, peiriannau, peiriannau, strwythurau a chodi a ganiateir gan Ddosbarth A i'w gyflwr cyn i'r datblygiad ddigwydd o ddeuddeg i ddeunaw mis pan fo'r datblygiad yn dechrau cyn 30 Mawrth 2021.

Nid oes bwriad i ddarparu unrhyw estyniadau pellach. Rhaid i bob corff sy'n gyfrifol am ddatblygu brys ganiatáu digon o amser i gyflwyno a chymeradwyo ceisiadau am gyfleusterau y maent yn ceisio eu cadw y tu hwnt i 18 mis, neu drefnu iddynt gael eu gwaredu.

Yn gywir,

Neil Hemington 

Prif Gynllunydd | Chief Planner 
Cyfarwyddiaeth Cynllunio | Planning Directorate